Ystyried adroddiad gan Rheolwr
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr
(Polisi) yn egluro’r broses a’r cynnydd ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd:-
Esboniwyd fod yr amserlen ddiwygiedig wedi ei gyflwyno i’r Panel a’i hysbysebu
drwy Newyddlen - Rhifyn 5. Hyd yn hyn mae cam 9) o’r amserlen bron wedi ei
gyrraedd.
Rhoddwyd eglurhad o’r broses a manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun
Adnau yn ogystal â disgrifiad o’r math o sylwadau a dderbyniwyd.
Cafwyd eglurhad ynglŷn â Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol a’r canllawiau
perthnasol. Tynnwyd sylw’r Pwyllgor i’r gofynion wrth ystyried y sylwadau, gan
gynnwys y math o newidiadau, sef ‘Mân Newid’ ac ‘Newid â Ffocws’ a fyddai’n
bosib eu cynnwys os oedd angen gwneud newidiadau.
Cyfeiriwyd at adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Aelodau ym mis Mehefin 2015
gan Mr Iwan Evans, (Ymgynghorydd Cynllunio) (Atodiad D) er mwyn eu cynorthwyo i
ddeall pa fath o newidiadau fuasai yn briodol.
Eglurwyd mai pwrpas yr Archwiliad fyddai sicrhau fod y Cynllun yn ‘gadarn’ – ac
wrth weithio drwy’r broses Archwiliad Cyhoeddus fe fyddai’r Arolygydd yn edrych
ar y Profion Cadernid a gafodd eu cynnwys yn Atodiad CH.
Cafwyd crynodeb o’r
prif faterion a godwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd, ynghyd â throsolwg o
ymatebion:-
Ø Graddfa twf tai gan gynnwys ei berthynas a’r iaith
Gymraeg
Ø Strategaeth i sicrhau twf tai a’r berthynas gyda’r
iaith Gymraeg
Ø Strategaeth ofodol, gan gynnwys statws aneddleoedd
Ø Tai fforddiadwy
Ø Tai marchnad leol
Ø Anghenion llety sipsiwn a theithwyr
Ø Economi a chyflogaeth gan gynnwys darpariaeth tir
Ø Ynni adnewyddadwy gan gynnwys tyrbinau gwynt
Ø Gwarchod
amgylchedd naturiol
Ø Dyraniadau
safleoedd penodol
Eglurwyd bod Atodiad A i’r adroddiad yn rhoi crynodeb o bob un sylw unigol ac
ymateb i’r sylwadau unigol.
Tynnwyd sylw at y papurau ychwanegol a gafodd eu cylchredeg ar 26 Ionawr 2016
ac i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar 29 Ionawr 2016 a oedd (i) yn
cyfeirio at ddiwygiadau angenrheidiol i Atodiad B a (ii) yn cofnodi sylwadau na
chafodd eu cynnwys yn Atodiad A.
Ar ôl ystyried y materion a godwyd yn y broses ymgynghori yn ofalus, gan
gynnwys trafodaethau ac adborth y Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, gweler
bod yr adroddiad yn dod i gasgliad na chyflwynwyd rhesymau na thystiolaeth
rymus a chadarn i gynnig newidiadau sylfaenol i’r Cynllun Adnau.
Ystyrir y byddai rhannau o’r Cynllun Adnau yn elwa o fân newidiadau a
newidiadau â ffocws, ac ‘roedd y rheini i’w gweld yn Atodiad B a C i’r adroddiad.
Dywedwyd nad oes rhaid i’r Cynghorau ymgynghori am Newidiadau â Ffocws cafwyd
argymhelliad i wneud hynny gan fyddai hynny yn arddangos ymarfer gorau, gan roi
cyfle i gael barn y cyhoedd ar y newidiadau ar gyfer yr Archwiliad Cyhoeddus.
Esboniwyd nad oedd y Newidiadau â Ffocws yn cael effaith andwyol ar yr
asesiadau statudol, sef Arfarniad o Gynaliadwyedd (yn cynnwys Asesiad
Amgylcheddol Strategol) Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg a’r Asesiad
Rheoliadau Cynefinoedd.
Cyn symud i ystyried
sylwadau unigol cafwyd trosolwg o’r broses Archwiliad Cyhoeddus: Pan fydd y
Cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, fe fyddai hynny’n sbardun i
gysylltu efo’r Arolygiaeth Cynllunio a fyddai yn penodi Arolygwr. Oni bai bod
angen galw Cyfarfod Esboniadol fe fyddai Cyfarfod Cyn
Gwrandawiadau yn cael ei drefnu
er mwyn i’r Arolygydd egluro’r broses a chyflwyno’r ‘Swyddog Rhaglen’.
Esboniwyd bod y Swyddog Rhaglen wedi cael ei phenodi ac y byddai’n gweinyddu’r
broses Archwiliad ar ran yr Arolygydd. Hi fyddai’r pwynt cyswllt rhwng yr
Arolygydd a’r Cynghorau, a rhwng yr Arolygydd a’r gwrthwynebwyr. Eglurwyd
byddai ‘Gwrandawiadau Cyhoeddus’ ynglŷn â themâu yn cael eu trefnu yn
ystod y broses Archwiliad. Fe fydd gwrthwynebwyr yn gallu datgan eu dymuniad i
gael ‘gwrandawiad cyhoeddus’ am eu gwrthwynebiadau neu fe allant ddibynnu ar eu
gwrthwynebiadau ysgrifenedig.
Rhestrwyd y dogfennau
sydd i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygaeth Cynllunio, yn unol â
Rheoliadau’r Cynllun Datblygu Lleol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol,
codwyd y prif faterion canlynol:
Yn deall fod yr amserlen yn cael ei gyflwyno i’r ddau Gyngor ar wahân.
Gofynnwyd a fydd yr Arolygydd yn siaradwr Cymraeg - fe fyddai hyn yn ffactor
bwysig er mwyn deall y sefyllfa ieithyddol.
Angen eglurhad pam nad ydi’r adroddiad yn cael ei ystyried gan y ddau Gyngor
cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn i’r ddau Gyngor ei drafod.
Gofynnwyd am esboniad i ‘Sylwad 815’, a oedd yn mynegi pryderon ynglŷn â’r
ffigwr twf tai
Cyfeiriwyd at bryderon ynglŷn â’r orddarpariaeth o dai ac effaith hynny ar
yr iaith Gymraeg.
Llety Gweithwyr Wylfa, - beth fydd yn digwydd i rain pan fyddai’r gwaith
adeiladu yn cael ei gwblhau?
Nodwyd fod nifer fawr o dai wedi eu dynodi yn y canolfannau mwyaf. Angen
cyfleoedd i gadw’r boblogaeth yng nghefn gwlad.
Gofynnwyd a yw’r Cynllun yn cydnabod prosiect Grid Cenedlaethol. Mynegwyd
pryderon ynglŷn â’r effaith gwifrau ar Ardaloedd o Harddwch Naturiol
Eithriadol Môn ac felly angen ystyried gwifrau dan-ddaear, sef safbwynt Cyngor
Sir Ynys Môn am y mater.
Pryderon ynglŷn isadeiledd dwr - nid yw Dwr Cymru am ymdrin â’r broblem yn
ystod cyfnod o lymder.
Gofynnwyd pwy oedd wedi ymgymryd â’r astudiaeth Ardaloedd Tirwedd Arbennig a
pham na chafwyd ymgynghorydd annibynnol i wneud yr Asesiad Iaith Gymraeg.
Gofynnwyd am y
fethodoleg a ddefnyddiwyd i ymgyngryd a’r asesiad o’r ardaloedd tirwedd
arbennig.
Mewn ymateb i sylwadau’r
aelodau, nododd y swyddogion:
Cafwyd cadarnhad bod
gwneud penderfyniad ar yr amserlen yn fater i’r ddau Gyngor ar wahân yn unol
â’r cytundeb rhwng y ddau Gyngor.
Deallir bod yr
Arolygiaeth Cynllunio yn bwriadu penodi dau Arolygydd a'u bod yn siaradwyr
Cymraeg.
Eglurwyd hefyd mai rôl
y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ydi gwneud y penderfyniad ar y sylwadau
unigol. Pan gaiff adroddiad yr Arolygydd ei gyhoeddi byddai’n cael ei gyflwyno
i’r ddau Gyngor ar wahân iddynt fabwysiadu. Cafwyd eglurhad fod y drefn wedi ei
gytuno gan y ddau Gyngor.
Ynglŷn â sylwad
815 - esboniwyd fod ffigwr twf tai yn seiliedig ar dystiolaeth amrywiol sy’n
cynnwys rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd (sail 2011), tueddiadau adeiladu
tai, rhagolygon economaidd a thystiolaeth am ffactorau sy’n dylanwadu ar y
farchnad tai lleol
a’r galw/ angen am gartrefi
newydd. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth oedd wedi cael ei gasglu a’i
ddehongliad a’i gymharu gyda’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan y gwrthwynebydd nid
oedd cyfiawnhad i ddiwygio’r lefel twf. Atgoffwyd y Pwyllgor o’r profion cadernid
a’r angen i bob agwedd o’r Cynllun fod yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn
sicrhau cadernid y Cynllun. Nodwyd fod y Pwyllgor wrth gymeradwyo’r Cynllun
Adnau i fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus yn y lle cyntaf, wedi gwneud hynny
ar sail ei fod yn Gynllun cadarn. Pwysleisiwyd nad oedd yna dystiolaeth rymus
wedi ei gyflwyno mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn tanseilio’r
dystiolaeth sydd gan y Cynghorau i gefnogi’r Cynllun – ac felly nad oedd
cyfiawnhad i newid y lefel twf tai. Ymhellach nodwyd y buasai ceisio newid y
lefel twf ar y cam yma, heb dystiolaeth rymus, yn risg sylweddol i’r Cynllun
gan na fuasai’n debygol o gwrdd a’r profion cadernid. Gall hyn olygu rhoi’r
Arolygydd Cynllunio mewn sefyllfa lle byddai’n rhaid argymell peidio symud
ymlaen gyda’r Archwiliad Cyhoeddus. Eglurwyd byddai newid arwyddocaol na
fyddai’n cyd-fynd a’r dystiolaeth yn golygu rhoi Cynllun gwahanol i’r Cynllun
Adnau o’i flaen a fyddai heb os yn golygu ail-ymweld a llawer o feysydd, gan
gynnwys yr Asesiad Cynaliadwyedd. Byddai hynny’n golygu llithriad sylweddol yn
yr amserlen ar gyfer mabwysiadu’r Cynllun.
Ymhellach, cyfeiriwyd
at y fframwaith fonitro a welir ym Mhennod 8 a fyddai’n cofnodi a dehongli
gwybodaeth am lefel a dosbarthiad tai. Hefyd, bydd y Cynllun yn cael ei adolygu
yn y bedwaredd flwyddyn.
Yn dilyn o’r uchod eglurwyd na fyddai’r Cynllun yn hyrwyddo gormodedd o dai
oherwydd bod ystyriaeth wedi cael ei roi i’r galw lleol am gartrefi newydd.
Ynglŷn â llety ar
gyfer gweithwyr i adeiladu Wylfa Newydd, esboniwyd byddai’r anghenion yn cael
ei gyfarch trwy nifer o wahanol ddulliau. Mae’r Cynllun yn cydnabod hyn ac yn
ceisio sicrhau bod y budd mwyaf yn dod trwy etifeddiaeth tymor hir ble bod hyn
yn briodol. Ar gyfer rhai datblygiadau megis ‘Land and Lakes’ ni fydd y defnydd
etifeddiaeth, h.y. cartrefi i’r cymunedau lleol, yn cael ei weld tan ar ôl
cyfnod y Cynllun. Felly, nid ydynt yn ffurfio rhan o’r cyflenwad i ddiwallu’r
galw am dai yn ystod cyfnod y Cynllun.
Esboniwyd fod ardal y
Cynllun yn cael ei gysidro yn un gwledig ac mae strategaeth ofodol y Cynllun yn
adlewyrchu hynny. Pwysleisiwyd fod 45% o’r ffigwr tai yn cael ei gyfeirio i
Ganolfannau Lleol, Pentrefi a Chlystyrau.
Eglurwyd fod Polisi
PS8, sy’n bolisi meini prawf, yn ymdrin â phrosiect isadeiledd mawr fel
Prosiect Grid Cenedlaethol. Byddai polisïau manwl eraill yn berthnasol hefyd.
Nodwyd y pryderon ynglŷn
ag isadeiledd dŵr, – mae hyn yn fater i’w drafod yn ystod cyfnod cais
cynllunio. Nid oedd tystiolaeth y byddai hynny yn atal datblygiadau rhag dod
ymlaen.
Nodwyd bod
ymgynghorydd allanol wedi cael ei gomisiynu i ymgymryd â’r asesiad o ardaloedd
tirwedd arbennig, sef cwmni LUC. Mae ymgynghorwyr wedi cael eu penodi i
ychwanegu at gapasiti’r Uned. Nid oedd angen cymorth ymgynghorydd allanol i
wneud yr asesiad effaith ieithyddol.
Ynglŷn ag
Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATA) esboniwyd fod cwmni LUC wedi gwneud yr
astudiaeth. Esboniwyd fod papur cefndir wedi ei baratoi sydd yn adolygu'r
tiroedd presennol i weld os ydynt yn deilwng i’w hadnabod fel ATA. Mae’r
dystiolaeth wyddonol yn cefnogi’r dynodiadau a welir yn y Cynllun Datblygu
Lleol. Nodwyd nad oedd tystiolaeth
wyddonol i gefnogi’r dynodiad
yn y Cynllun Lleol ac nad oedd y Cynllun Datblygu Unedol (wedi stopio) yn
adnabod ATA.
Cynigwyd gwelliant i gael
arbenigwr allanol i wneud asesiad ieithyddol o’r Cynllun.
Mewn ymateb i’r cynnig yma,
nododd y swyddogion:
Cadarnhawyd bod yr asesiad
ieithyddol a gafodd ei wneud yn un sydd yn gyson a’r fethodoleg gydnabyddedig.
Mae’r asesiad wedi goleuo’r rhan berthnasol o’r Asesiad Cynaliadwyedd hefyd.
Nodwyd bod ystyriaeth ofalus wedi cael ei roi i’r gwrthwynebiadau am y lefel
twf tai a’i ddosbarthiad a’r iaith Gymraeg. Mae’r gwaith hynny wedi arwain at
argymhelliad i wneud rhai newidiadau â ffocws i rannau o’r Cynllun.
Pwysleisiwyd byddai ail-ymweld a’r gwaith asesiad effaith ieithyddol ar y cam
yma yn golygu gorfod gohirio gwneud penderfyniad am yr adroddiad oedd ger bron
y Pwyllgor. Mewn ymateb i ymholiad os gallai’r Cynghorau ail-ymweld a’r asesiad
ieithyddol ochr yn ochr â chyflwyno’r Cynllun i’w Archwilio, cafwyd cadarnhad
nad oedd yn bosib gwneud hynny. Mae’n rhaid i Gynllun sy’n cael ei gyflwyno fod
yn seiliedig ar dystiolaeth a gyhoeddwyd. Cyfeiriwyd at y risgiau o beidio
gwneud hynny ac at y risgiau yn gysylltiedig ag oedi yn y broses ar y cam yma.
Byddai gan wrthwynebwyr gyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth am y materion a
godwyd yn eu dogfennau tystiolaeth yn ystod gwrandawiadau cyhoeddus yn yr
Archwiliad.
Ni chafodd y gwelliant ei
eilio.
Cynigwyd gwelliant i ddynodi
safle Lairds, ger Llanfaes ar gyfer defnydd cymysg
Mewn ymateb i’r cynnig yma,
nododd y swyddogion:
Nodwyd bod y cynnig yn ymwneud
â safle sydd yn destun gwrthwynebiad a gafodd ei wneud oherwydd nad yw’r safle
yn cael ei ddynodi yn y Cynllun Adnau. Mae’r adroddiad am y gwrthwynebiad yn
dod i gasgliad na dderbyniwyd tystiolaeth digon grymus yn ystod yr ymgynghoriad
cyhoeddus i ddynodi'r safle hwn ar gyfer defnydd cymysg sy'n cynnwys tai.
Dywedwyd, mewn egwyddor, pe ddarparwyd tystiolaeth berthnasol, adeg cais
cynllunio gallai'r Cynllun hwyluso rhai o'r defnyddiau unigol a gyfeiriwyd ato
yn nhystiolaeth y gwrthwynebydd. Ni fyddai’r ystyriaeth ffafriol yn cael ei roi
i’r raddfa a gyfeiriwyd ato. Pwysleisiwyd byddai cytuno i newid y Cynllun yn
unol â’r gwrthwynebiad ddim yn gyson gyda thystiolaeth ynglŷn â’r galw
na’r cyflenwad o dir ar gyfer tai, ac felly yn golygu newid sylfaenol a
fyddai’n mynd i galon y Cynllun, gan danseilio cadernid y Cynllun. Byddai hynny
yn risg arwyddocaol i’r broses fynd a’r Cynllun i’r Archwiliad Cyhoeddus.
Byddai’r gwrthwynebydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth am y
materion a godwyd yn ei ddogfennau tystiolaeth yn ystod gwrandawiadau cyhoeddus
yn yr Archwiliad.
Ni chafodd y gwelliant ei eilio
Penderfynwyd:
1.
Cefnogi’r amserlen ddiwygiedig i’w gael ei fabwysiadau gan y ddau Gyngor.
2.
Cymeradwyo’r ymatebion a argymhellir i’r sylwadau (Atodiad A) a’r papur ychwanegol
a gafodd ei gylchredeg i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar 29 Ionawr
2016.
3. Cymeradwyo’r Newidiadau â
Ffocws Arfaethedig i’r Cynllun Adnau (Atodiad B) yn ddarostyngedig i’r Papur
ychwanegol a gafodd ei gylchredeg ar 26 Ionawr 2016.
4.
Cymeradwyo’r Mân newidiadau i’r Cynllun Adnau (Atodiad C).
5.
Cyflwyno’r Cynllun ac atodiad o Newidiadau â Ffocws i Lywodraeth Cymru ar gyfer
Archwiliad.
6.
Cyhoeddi Newidiadau â Ffocws ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
7. Rhoi pwerau dirprwyedig
i’r uwch swyddogion ac/ neu’r Aelod Cabinet (Cynllunio a Rheoleiddio – Cyngor
Gwynedd), Aelod Gweithredol (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd – Cyngor Sir Ynys
Môn) i gytuno ar newidiadau posibl i’r Cynllun Adnau fel rhan o’r broses
Archwiliad annibynnol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ategol: