I gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft i'w gymeradwyo gan yr Aelodau
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith, a thynnwyd sylw yn
fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Eglurodd yr Ymgynghorydd
Iaith fod yr adroddiad yma wedi cael ei greu yn sgil Adran 44 Mesur y Gymraeg
(Cymru) 2011, sydd yn ei wneud yn ofynnol i’r Cyngor yn dilyn terfyn y flwyddyn
ariannol ddiwethaf, cyn 30 Mehefin 2022.
-
Nodwyd hefyd mai ei
bwrpas oedd crynhoi ac egluro sut mae’r Cyngor yn gweithredu a chydymffurfio
â’r safonau iaith.
-
Mynegwyd balchder fod
ffigyrau’r adroddiad yn dangos fod 99.1% o weithlu’r Cyngor yn meddu â sgiliau
Cymraeg. Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys unrhyw berson sydd ag unrhyw fath o
sgiliau ieithyddol Cymraeg - bod yn rhugl, yn rhannol rugl neu dim ond yn deall
ychydig ar yr iaith.
-
Datganwyd fod
91% o holl staff y Cyngor yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd. Mae’r gallu i
weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i’r Cyngor, ac roedd yr Ymgynghorydd
Iaith yn falch fod y ffigwr yma yn un uchel. Er hyn, derbyniwyd fod modd
cynyddu’r ffigwr hwn. Un ffordd o geisio gwneud hyn yn bresennol ydi drwy
gynnig hyfforddiant ar yr iaith Gymraeg i’r staff hynny sydd ddim yn cyrraedd
eu gofynion ieithyddol eto, er mwyn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau.
-
Soniwyd fod
909 o swyddi wedi cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor yn y flwyddyn ariannol
ddiwethaf a oedd yn nodi fod sgiliau’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl.
-
Eglurwyd fod nifer o
ddatblygiadau wedi cael eu cwblhau dros y flwyddyn er mwyn sicrhau fod
gwasanaethau dwyieithog yn gallu cael ei gynnig yn effeithiol:
o
Mae’r timoedd Cyfieithu
a Gwasanaethau Democrataidd wedi bod yn brysur dros y flwyddyn yn datblygu
cyfleusterau er mwyn gallu cynnal cyfarfodydd aml-leoliad. Mae arbrofi wedi
cael ei gwblhau er mwyn sicrhau fod cyfarfodydd yn gallu cael eu cynnal gyda
phobl yn mynychu yn y siambrau a rhai pobl yn mynychu yn rhithiol a hynny gan
sicrhau fod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn gallu parhau yn ddi-rwystr.
o
Mae treialon wedi cael
eu cynnal gydag adrannau’r Cyngor ar gyfer system hunanasesu newydd. Mae’r
system yma yn gofyn iddyn nhw gwblhau hunanasesiad er mwyn gweld i ba raddau
maen nhw yn cydymffurfio â safonau’r iaith. Mae hyn yn galluogi i’r adran
Cefnogaeth Gorfforaethol wneud Hunanasesiad Corfforaethol o gydymffurfiaeth y
Cyngor a’r safonau iaith ar gyfer ei gyflwyno i’r Comisiynydd Iaith.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r
pwyllgor holi cwestiynau:
-
Holwyd os oes
modd edrych ar ganran o niferoedd staff y Cyngor sydd yn cyrraedd lefel
dynodiad iaith eu swydd dros dreigl amser, er mwyn gallu ei gymharu gyda’r
blynyddoedd diwethaf.
-
Gofynnwyd a oedd modd
cysylltu gydag asiantaethau a chyrff eraill sydd yn cydweithio â’r Cyngor pan
fydd methiannau ieithyddol yn digwydd ar eu rhan. Holwyd hefyd os oes modd
gwneud hyn ar lefel uchel er mwyn sicrhau fod safonau ieithyddol ein
partneriaid yn ddigonol.
-
Mynegwyd barn fod
tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod safon sgiliau iaith yn cynyddu wrth i
raddfeydd cyflog gynyddu ac felly yn gallu creu hollt cymdeithasol. Cyfeiriwyd
yn benodol at wahaniaeth sgiliau rhwng gwahanol swyddi mewn lleoliadau fel
ysgolion. .
-
Teimlwyd y dylai’r gallu
i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle fod yn hanfodol ar gyfer pob swydd oherwydd
mewn rhai sefyllfaoedd mae’r iaith gyfathrebu yn newid o’r Gymraeg i’r Saesneg
yn naturiol os oes un (neu fwy) o’r staff yn ddi-gymraeg.
Mewn ymateb i’r pwyntiau uchod,
nododd yr Ymgynghorydd Iaith
-
Nad oes modd cymharu
niferoedd staff sydd yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd ar hyn o bryd oherwydd
nad ydi’r data wedi cael eu casglu yn yr un dull dros y blynyddoedd diwethaf yn
sgil y pandemig. Er hyn, fe fyddai’n ddiddorol iawn
gallu cymharu’r ffigyrau hyn o flwyddyn i flwyddyn a gallu gweld os ydi’r ffigwr
yn mynd yn uwch neu’n is. Mae’r Ymgynghorydd Iaith yn ffyddiog bydd modd gwneud
hyn o’r adroddiad nesaf ymlaen oherwydd erbyn hynny bydd y data wedi cael ei
gasglu yn yr un dull am ddwy flynedd yn olynol. Mae’r Ymgynghorydd Iaith hefyd
yn ffyddiog y bydd y ffigwr perthnasol o 91% yn cynyddu eleni wrth i fwy o
staff y Cyngor gwblhau hunanasesiad iaith ac wrth i fwy o staff fynychu
hyfforddiant ieithyddol.
-
Bod materion o
fethiannau ieithyddol gan ein partneriaid ac asiantaethau eraill yn cael eu
codi gan staff y Cyngor. Yn ddibynnol o amgylchiadau’r methiant ieithyddol,
bydd swyddogion yn ei grybwyll mewn cyfarfodydd gyda’r bobl berthnasol neu yn
cysylltu yn uniongyrchol a’r asiantaeth/partner. Mae cynnwys methiannau o’r
fath mewn adroddiad fel yr un hwn yn tynnu sylw’r Comisiynydd Iaith a fydd
wedyn yn rhoi pwysau ar yr asiantaeth i wella eu safonau iaith. Nodwyd fod modd
rhoi protocol yn ei le er mwyn sefydlu proses o gysylltu gyda phartneriaid yn
effeithiol pe bai methiant ieithyddol yn digwydd
-
Bod rhywfaint
o wirionedd yn y ffaith bod sgiliau ieithyddol staff yn cynyddu wrth i lefelau
cyflog gynyddu, yn enwedig sgiliau ysgrifenedig a darllen a deall. Gellir esbonio hynny i ryw raddau gan
anghenion y swyddi – hynny yw byddai angen sgiliau ieithyddol uwch ar lefel
rheolwr oherwydd yr angen i gyflwyno adroddiadau i bwyllgorau ac ati. Gan nad oes yr un angen efo swyddi ar lefelau
is, mae’n debyg bod sgiliau ieithyddol yr unigolion yn is yn gyffredinol. Ond
tynnodd yr Ymgynghorydd Iaith sylw hefyd at y ffaith bod cynnig cyfleoedd
hyfforddiant cynhwysfawr yn rhan allweddol i’r prosiect dynodiadau iaith.
-
Bod pob swydd
sydd yn cael ei hysbysebu ar wefan y Cyngor yn nodi fod sgiliau Cymraeg yn
hanfodol (nid yn ddymunol). Dim un swydd yn cael ei hysbysebu gyda gofynion
iaith dymunol. Yr hyn sydd yn amrywio
ydi’r lefel benodol o sgiliau sydd yn cael ei dynodi ar gyfer y swydd. Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Iaith hefyd at yr
heriau sydd yn wynebu’r Cyngor o ran recriwtio. Hefyd, nodwyd bod disgwyliad
clir bod unrhyw weithiwr sydd yn cael eu penodi ond nad ydynt yn cyrraedd gofyn
iaith eu swyddi yn dilyn hyfforddiant ac yn gweithio i gyrraedd y lefelau
ieithyddol hynny dros amser.
PENDERFYNWYD
-
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd a cymeradwyo’r adroddiad i gael
ei gyhoeddi erbyn y terfyn amser, 30 Mehefin 2022.
Dogfennau ategol: