Agenda item

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut mae’r adran yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gwaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Busnes yr adran, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-          Eglurwyd fod yr adran yn dilyn Fframwaith Strategol Olynol o’r enw ‘Mwy na Geiriau’ sydd yn gosod gofynion ar yr adran i sicrhau fod gofal ar gael i drigolion y Sir drwy gyfrwng y Gymraeg heb iddyn nhw orfod gwneud cais amdano.

 

-          Adroddwyd mai un o heriau mwyaf yr adran yn ddiweddar yw recriwtio staff o’r newydd. Mae hyn yn broblem genedlaethol, ac o fewn y sir mae rhai ardaloedd yn fwy anos nag eraill i recriwtio staff. Yn ogystal â hyn, mae rhai swyddi penodol, megis Therapyddion Galwedigaethol yn anodd eu llenwi gan fod angen sgiliau arbenigol yn ogystal â sgiliau Cymraeg.

 

-          Manylwyd ar faes arbenigol iawn mae’r adran yn ymwneud ag o sef y cyflwr Dementia. Mae ymchwiliadau bellach yn dweud ei fod yn hollbwysig i gleifion dderbyn gofal yn yr iaith maent yn teimlo mwyaf cyfforddus yn ei ddefnyddio, gan fod hyn yn gwella eu llesiant. Yn dilyn hyn mae’r adran yn gweithio i ddatblygu unedau Dementia mewn tai gofal, staff cefnogol arbenigol y cyflwr a thechnoleg newydd i gefnogi pobl sydd eisiau aros yn eu cartref eu hunain.

 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:

-          Gofynnwyd a oes modd sicrhau fod gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i bobl  sydd yn dioddef o gyflwr Dementia o fewn y sector preifat.

 

-          Holiwyd a oedd yr adran wedi gorfod ystyried hysbysebu am swyddi ble nad oedd y Gymraeg yn hanfodol er mwyn denu ymgeiswyr sydd yn meddu â’r sgiliau arbenigol perthnasol.

 

-          Holiwyd a oes yna broses gan yr adran i geisio paru cleifion gyda gofalwyr sydd yn gallu darparu gofal yn unol â dewis iaith y claf, yn enwedig o gofio nad ydy pob claf angen gofal drwy gyfrwng y Gymraeg

 

-          Gofynnwyd a oes yna fwriad i gynnig gofal drwy gyfrwng y Gymraeg y tu hwnt i Wynedd ar hyn o bryd, ac os ydi’r gyllideb ar gael er mwyn gallu darparu gofal yn effeithiol.

Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Busnes:

Bod  sicrhau gofal trwy’r Gymraeg i gleifion o fewn y sector breifat yn heriol iawn gan fod gan bob claf yr hawl i ddewis ble maent yn derbyn eu gofal. Dyma’r rheswm pam fod yr adran mor awyddus i’r Cyngor gynnig a darparu gofal drwy’r Gymraeg.

 

-          Cadarnhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i baru cleifion gyda gofalwyr sydd gyda sgiliau ieithyddol addas. Gall hyn fod yn heriol ar brydiau, yn enwedig pan fo claf angen gofal brys.

 

-          Mynegwyd bwriad i ddatblygu’r cyfleoedd all-sirol o dderbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd fod y cyfleon hyn yn gyfyngedig ar hyn o bryd ond mae  Gwynedd yn arwain y ffordd i annog siroedd eraill drwy’r fforwm ‘mwy na geiriau’.

 

-          Eglurwyd bod bwriad i drio dennu gweithwyr proffesiynol e.e. Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion sydd wedi symud i ffwrdd o’r ardal yn nôl i Wynedd i fyw ac i weithio er mwyn cryfhau y ddarpariaeth yng Ngwynedd.

 

PENDERFYNWYD

-          Derbyn yr adroddiad gan nodi sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: