Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut mae’r adran yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gwaith.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Bennaeth yr adran, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Eglurwyd fod
yr adran yma, yn debyg i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn dilyn
Fframwaith Strategol Olynol ‘Mwy na Geiriau’.
-
Mae’r
Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio yn agos gyda CWLWM, sef 5 sefydliad
arweiniol cenedlaethol gofal plant, er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg ar draws
lleoliadau gofal plant o fewn y Sir. Mae hyn yn aml iawn yn arwain at
brosiectau newydd sydd yn cael eu hybu gan y 5 sefydliad megis podlediad newydd gan y Mudiad Meithrin gyda chymorth Nia
Parry o’r enw ‘Baby Steps Into Welsh’ sydd yn helpu plant a rhieni i ddysgu’r iaith.
Mae’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar hefyd yn elwa o gydweithio gyda CWLWM gan
fod Cynllun Croesi’r Bont gan y Mudiad Meithrin yn pontio dosbarthiadau
meithrin yn ieithyddol, ac mae 11 cylch o fewn y sir yn derbyn cefnogaeth o’r
fath.
-
Adroddwyd fod yr adran
hefyd yn hybu’r Gymraeg yn annibynnol mewn sawl ffordd. Mae grantiau o £100 yn
cael ei gynnig i warchodwyr plant preifat di-gymraeg er mwyn prynu adnoddau
Cymraeg perthnasol. Yn ogystal â hyn, mae sawl tîm o fewn yr adran yn defnyddio
cwrs rhiantu ‘FRIENDS’ ac wedi llwyddo i gyfieithu’r
cwrs i’r Gymraeg ar gyfer rhieni’r Sir.
-
Nodwyd fod dim modd cael
lleoliad gofal plant addas o fewn y sir ar gyfer pob plentyn, yn aml am resymau
diogelwch. Os na fydd lleoliad cyfrwng Cymraeg ar gael i’r plentyn, bydd yr
adran a’r Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau i ymweld a chysylltu â’r plant yn yr
iaith Gymraeg er mwyn helpu eu datblygiad ieithyddol.
-
Esboniwyd fod yr adran
yn arwain 55 o ddarparwyr Addysg Feithrin ar hyn o bryd sydd yn derbyn
cefnogaeth gan Athrawes Blynyddoedd Cynnar i gynorthwyo gydag addysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg. Ymfalchïwyd yng Nghynllun Dechrau’n Deg, sydd yn gwasanaethu
mewn rhannau difreintiedig o fewn y Sir, ac yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i
blant 2 oed. Mae 12 lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg o fewn y Sir ar hyn o
bryd.
-
Amlygwyd fod
gwaith yn cael ei gwblhau i hybu’r Gymraeg ar gyfer plant hŷn hefyd megis
creu a datblygu Ap Gwobr Dug Caeredin ar gyfer plant ysgol uwchradd.
-
Cadarnhawyd fod hybu’r
Gymraeg wedi cael lle blaenllaw gan yr adran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu
un aelod o staff, Stephen Wood, yn llwyddiannus yng Ngwobrau Coffa Dafydd Orwig
eleni am ei lwyddiant wrth ddysgu’r Gymraeg. Yn ogystal â defnyddio’r iaith ar
lafar o fewn yr adran, mae llawr o adnoddau ysgrifenedig a fideos wedi cael eu
datblygu er mwyn hyfforddi staff ar amryw o nodweddion pwysig yr adran. Hefyd,
mae’r adran yn y broses o drosleisio adnoddau ar gyfer defnydd rhanbarthol a
chenedlaethol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog effeithiol.
-
Trafodwyd gwaith
effeithiol y Gwasanaeth Ieuenctid, a nodwyd fod sawl cynllun megis garddio,
coginio a gweithdai graffiti, bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a bod
adborth y plant 16-25 oed oedd wedi cymryd rhan mewn gweithdai, ar y cyd gyda
chynllun ‘FRIENDS’ yn dweud eu bod wedi mwynhau’r ffaith eu bod wedi gallu
cymryd rhan yn y Gymraeg gan eu bod yn teimlo ei fod yn fuddiol i’w datblygiad
personol.
-
Diweddarwyd y pwyllgor
ar Fframwaith Gweithgareddau a Chwarae i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Bellach mae 24 o ddarparwyr gweithgareddau yn gallu gwneud hynny drwy gyfrwng y
Gymraeg. Ymhellach i hyn, roedd dros 50 o sefydliadau wedi dod ynghyd i
gyflwyno gweithgareddau llesiant o fewn wythnos llesiant a gynhaliwyd yn
ddiweddar. Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf drwy blatfform ‘Haia’ er mwyn cynnal yr holl ddigwyddiadau yn Hybrid a drwy
gyfrwng y Gymraeg. Yn dilyn y llwyddiant yma, mae Ap newydd yn cael ei
ddatblygu - ‘Ai Di’ er mwyn helpu i gysylltu plant a gofalwyr. Bydd modd ei
ddefnyddio i gysylltu ag ysgolion yn ogystal â defnydd cymunedol.
-
Sicrhawyd yr aelodau fod
gofynion ieithyddol yn cael eu cynnwys ym mhob cytundeb trydydd parti pan fo’n
addas a bod y broses yma yn cael ei fonitro yn rheolaidd rhwng Rheolwr
Gwasanaeth a Rheolwr ar ran y darparwr.
Mynegwyd pryder am
broblemau recriwtio a welwyd yn ddiweddar, yn debyg i rai adrannau eraill y
cyngor. Nodiwyd ei fod yn her i recriwtio pobl sydd yn meddu a sgiliau
arbenigol cymwysedig yn ogystal â sgiliau Cymraeg addas ar adegau. Mae’r adran
yn edrych ar ffyrdd o oresgyn y problemau yn ogystal â darparu cefnogaeth i
aelodau staff sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ieithyddol Cymraeg.
-
Ychwanegwyd
fod heriau yn wynebu’r adran wrth gyd-weithio gyda’r partneriaid oherwydd nad
ydi’r cyfleusterau ar gael o hyd er mwyn gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn
effeithiol. Eglurwyd nad ydi pawb yn cynnig darpariaeth cyfieithu ar y pryd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r
pwyllgor holi cwestiynau:
-
Mynegwyd balchder yng
ngwasanaeth cyfieithu Cyngor Gwynedd a thrafodwyd yr angen am brotocol i fynnu
fod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio wrth gydweithio gyda phartneriaid ac i’w
hysbysu os yw eu gwasanaethau Cymraeg yn annigonol.
-
Gwnaed sylw fod
cyfleusterau yn cael eu gwastraffu os nad ydi pobl yn eu defnyddio. Atgoffwyd
pawb o’r angen i ddefnyddio’r iaith Gymraeg os ydynt yn gallu er mwyn ei
chynnal a helpu eraill i ddysgu.
-
Clodforwyd
gwaith yr adran i ddatblygu sawl ap defnyddiol newydd ar gyfer pobl o bob oed.
Holiwyd os oes modd monitro’r defnydd o’r ap-iau i weld faint o ddefnydd
Cymraeg a geir ohonynt.
Mewn ymateb, nododd yr Uwch
Ymgynghorydd Iaith a Chraffu:
-
Bod modd atgoffa staff
o’r polisi iaith cyfredol a beth yw eu cyfrifoldebau ynghylch hysbysu
partneriaid am fethiannau ieithyddol. Ymhelaethwyd fod modd creu protocol
newydd fel trafodwyd yn gynharach er mwyn i staff adael i swyddogion yr adran
wybod fod methiant ieithyddol wedi digwydd er mwyn gallu cysylltu â’r
partneriaid, y Comisiynydd Iaith a’r Llywodraeth pe bai angen.
Mewn ymateb, nododd yr
Ymgynghorydd Iaith:
-
Gan fod y mater yma wedi
codi amryw o weithiau yn ystod y cyfarfod fod modd ystyried ychwanegu protocol
fel addasiad i’r polisi iaith newydd, a hynny cyn ei gyflwyno i aelodau’r
cabinet, os bydd y pwyllgor yn cytuno i wneud hynny. Mynegwyd ei fod yn
rhywbeth cadarnhaol bod gan swyddogion gyfrifoldeb i hysbysu ac ymateb i unrhyw
fethiant ieithyddol oherwydd bod ganddyn nhw gyswllt uniongyrchol a’r partner a
bod hynny yn atgyfnerthu’r polisi iaith.
Mewn ymateb, nododd Pennaeth
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd:
-
Bod angen sicrhau fod
partneriaid ac asiantaethau eraill yn rhanbarthol a chenedlaethol yn gwella eu safonau
ieithyddol oherwydd bod y defnydd o’r Gymraeg yn eilradd mewn sawl cyfarfod.
Cytunwyd fod angen defnyddio ein dull o weithredu’r Gymraeg fel enghraifft i
asiantaethau eraill.
-
Ymatebwyd nad
oes modd i fonitro’r defnydd o’r Gymraeg mewn amryw o’r ap-iau a ddatblygwyd
hyd yma gan eu bod yn ymdrin â gwybodaeth bersonol unigolion. Er hyn,
gobeithiwyd gallu monitro faint o’r Gymraeg a ddefnyddir ar yr Ap Gwobr Dug
Caeredin.
PENDERFYNWYD
-
Derbyn yr
adroddiad gan nodi sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: