Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro.
Penderfyniad:
(a)
Mabwysiadu’r
canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i berfformiad yn 2021/22.
SWYDDOGAETH |
ASESIAD (1/2/3/4) |
Tystiolaeth |
Camau pellach |
1. Hyrwyddo a
chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau |
1. |
Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm
Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill. Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar Ddeddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 |
Parhau i fynychu a chefnogi |
2. Cynorthwyo’r
aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad |
3. |
Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad mewn
cyfarfodydd ac ar sail un i un i aelodau. |
Adfer camau hyfforddiant pan mae adnoddau yn caniatáu |
3. Cynghori’r
Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad |
1. |
Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod. |
|
4. Monitro
gweithrediad y Cod Ymddygiad |
3 |
Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn
aelodau Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel
Dyfarnu Cymru Penderfynodd y Pwyllgor gychwyn gwaith ynglŷn â’r ddyletswydd
newydd a osodwyd ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ynglŷn ag ymddygiad
eu haelodau. |
Parhau i fonitro ac ystyried dulliau amgen o dderbyn
gwybodaeth Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a
lletygarwch. Yn dilyn yr Etholiad, bydd camau yn cael eu cymryd i
weithio gydag Arweinyddion Grŵp i sefydlu trefniadau gweithredol ar
gyfer y ddarpariaeth newydd. |
5. Cynghori,
hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod
Ymddygiad |
3. |
Trefnwyd hyfforddiant anwytho ar gyfer aelodau newydd
Cyngor Gwynedd yn paratoi at yr etholiadau. |
Angen edrych ar ddarparu hyfforddiant newydd. |
6. Rhoi goddefebau i aelodau |
1. |
Dim ceisiadau wedi eu hystyried dan y drefn
newydd. |
|
7. Ymdrin ag adroddiadau
o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a
gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon |
1. |
Ymdriniwyd ag un achos a gyfeiriwyd at y Pwyllgor gan
yr Ombwdsmon. |
|
8. Awdurdodi’r
Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad |
Dim angen gweithredu |
Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath |
|
9. Ymarfer y
swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned |
3 |
Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad
i gynghorau, clercod ac aelodau. Mabwysiadu peilot ar gyfer hyfforddi Cod
Ymddygiad. Wedi cynnwys sesiwn i beilota cynnwys y cwrs. |
(b) Cymeradwyo’r
rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2022/23:-
11 Gorffennaf, 2022
Adroddiad Blynyddol
Honiadau yn erbyn Aelodau
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Cofrestr Rhoddion
a Lletygarwch
Cofrestr Datgan
Buddiant
Adroddiad
Blynyddol yr Ombwdsmon
Honiadau yn erbyn
Aelodau
Mabwysiadu
Protocol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol
13 Chwefror 2023
Adroddiad
Blynyddol y Panel Dyfarnu
Honiadau yn erbyn
Aelodau
Hunan Asesiad a
Rhaglen Waith
Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor
(c) Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, i fwrw ymlaen â’r gwaith gyda sampl o glercod cynghorau cymuned a thref i ddeall yn well beth yw eu hanghenion, gan sicrhau trefn foesegol briodol ar gyfer gwneud hynny, ac ymgynnull cyfarfod pellach o’r Grŵp Tasg a Gorffen – Y Fframwaith Safonau Moesegol ddechrau Medi i dderbyn adborth o’r trafodaethau gyda’r clercod
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:-
·
gynnal
hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod 2020/21; ac
·
ystyried
rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2022/23.
Wrth gynnal yr
hunan asesiad, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-
·
Y
byddai’n fuddiol rhifo’r swyddogaethau yn y tabl o hyn allan.
·
Y
dylid sicrhau bod hunan asesiadau blaenorol y pwyllgor wrth law yn y dyfodol er
mwyn gallu cymharu, sicrhau cysondeb a mesur cynnydd.
·
Mynegwyd
siomedigaeth mai ond 5 allan o’r 69 cynghorydd sir oedd yn bresennol yn yr
hyfforddiant diweddar ar y Cod Ymddygiad.
Mewn ymateb, eglurwyd bod pob cynghorydd sir wedi derbyn hyfforddiant
cyffredinol ar y Cod fel rhan o’r diwrnodau croesawu yn dilyn yr etholiadau diweddar,
a bod o leiaf un sesiwn arall mwy manwl wedi’i drefnu. Bwriedid cynnal sesiwn debyg gydag aelodau
cyfetholedig y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi hefyd.
·
Awgrymwyd
y byddai’r Protocol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol arfaethedig yn fodd o gael
gwell trefn ar y sefyllfa drwy roi pwysau a chyfrifoldeb ar yr Arweinyddion i
sicrhau bod eu haelodau yn mynychu hyfforddiant o’r fath.
·
Awgrymwyd,
o safbwynt bod yn weledol, y dylai aelodau o’r Pwyllgor Safonau, neu o leiaf y
Cadeirydd/Is-gadeirydd fod yn bresennol ar gychwyn y sesiynau hyfforddiant.
·
Awgrymwyd
ei bod yn gamarweiniol dweud mai ond 5 aelod oedd wedi mynychu’r hyfforddiant
diweddar ar y Cod gan fod yr hyfforddiant yn cael ei recordio ac ar gael ar y
Fewnrwyd Aelodau i bawb ei wylio yn eu hamser eu hunain. Nodwyd y byddai’n fuddiol gwybod faint o bobl
sydd wedi gwylio’r recordiad a chytunodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau i
wneud ymholiadau ynglŷn â hynny.
·
Holwyd
a oedd y recordiad o’r hyfforddiant ar gael ar gyfer aelodau cynghorau cymuned
a thref yn ogystal. Mewn ymateb, eglurwyd
bod y recordiad ar gael ar Fewnrwyd Aelodau Gwynedd yn unig ar hyn o bryd, ond
diau y byddai modd i’r Cyngor drefnu mynediad ar gyfer aelodau’r cynghorau
cymuned a thref. Nodwyd ei bod yn bwysig
sicrhau bod y recordiad ar gael i bawb, ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol cynnwys
yr hyfforddiant ar dudalen we'r Pwyllgor Safonau yn ogystal. Nododd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau y
byddai’n edrych ar y ffordd orau ymlaen o ran sicrhau bod yr adnodd ar gael.
·
Gan
gyfeirio at y swyddogaeth o fonitro gweithrediad y Cod Ymddygiad (4), eglurodd
y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau fod yr Ombwdsmon wedi dirwyn y Llyfr
Achosion Cod Ymddygiad i ben, a bellach bod rhaid mynd i wefan yr Ombwdsmon i
chwilio am wybodaeth ynglŷn ag achosion.
Gan hynny, byddai’n rhaid edrych beth yw’r ffordd orau o gyflwyno’r
wybodaeth i’r pwyllgor yn y dyfodol. O
bosib’ y gellid cyfuno hynny gyda’r adroddiadau rheolaidd ar honiadau yn erbyn
aelodau, gyda’r nod o gyflwyno rhywbeth mwy ystyrlon i’r pwyllgor.
·
O
ran y swyddogaeth o ymarfer yr holl swyddogaethau mewn perthynas â chynghorau
cymuned (9), roedd peth anghytundeb ymhlith yr aelodau ynglŷn â’r asesiad,
gyda rhai o blaid defnyddio categori 3 ar y sail bod yna gamau sydd angen eu
cymryd, ac eraill o blaid defnyddio categori 4 ar y sail nad oedd y gwaith yn
digwydd. Yn dilyn trafodaeth, cafwyd
consensws o blaid categori 3, ond gan ddiwygio’r camau pellach i nodi bod rhaid
ystyried hyn fel blaenoriaeth.
·
Holwyd,
gan ei bod yn ofynnol bellach i gynghorau cymuned a thref gynnal eu cyfarfodydd
yn hybrid, a fyddai’n bosib’ recordio arweiniad syml yn amlygu prif bwyntiau’r
Cod Ymddygiad i’w gyflwyno i’r aelodau fel eitem ar gychwyn eu cyfarfod, ac a
fyddai ar gael i’r aelodau ei wylio yn ddiweddarach hefyd. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Priodoldeb ac
Etholiadau y gellid edrych i mewn i hynny.
·
Mynegwyd
pryder na allai cynghorau bach fforddio cynnal eu cyfarfodydd yn hybrid a
nodwyd ei bod yn mynd i gymryd amser i sefydlu hyn, er yr orfodaeth gan y
Llywodraeth. Nodwyd hefyd ei bod yn
anodd i gynghorau bach fforddio talu am wasanaeth cyfieithu yn eu cyfarfodydd.
Yna rhoddwyd
ystyriaeth i Atodiad 3 i’r adroddiad, ymateb y Swyddog Monitro i’r pwyntiau a
godwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen – Y Fframwaith Safonau Moesegol, a sut
mae hynny’n bwydo i mewn i raglen waith y pwyllgor. Nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-
·
Gan
gyfeirio at y pwynt gweithredu cyntaf, sef yr angen i wneud trosolwg o’r
clercod, nododd y Cadeirydd fod angen sicrhau trefn foesegol briodol ar gyfer
gwneud y gwaith sy’n gosod allan yn glir beth yw pwrpas y trosolwg, pwy sy’n
gwneud y gwaith ac o dan ba bennawd o fewn y Pwyllgor Safonau, sut bydd y
wybodaeth yn cael ei defnyddio, sut bydd y data yn cael ei gadw, sut byddwn yn
adrodd y casgliadau ac erbyn pryd, a beth fydd yn digwydd i’r wybodaeth. Nodwyd hefyd y bydd angen caniatâd
ysgrifenedig y clercod i’r trosolwg gymryd lle.
·
Nodwyd
bod clercod y cynghorau cymuned yn awyddus i gynnal safonau da, ond bod eu
hadnoddau yn brin. Roeddent yn chwilio am
gymorth ac atebion, a gallent fod yn asiant da ar ran y Swyddog Monitro i
godi’r safonau.
·
Nododd y Cadeirydd, er nad oedd y trosolwg o’r clercod wedi
cychwyn yn swyddogol eto, y cafwyd sgwrs anffurfiol gyda chlerc, a bod nifer o
faterion diddorol wedi codi, e.e. y gofyn dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 i bob cyngor cymuned greu cynllun hyfforddiant erbyn 5
Tachwedd eleni. Byddai angen deall sut
mae’r hyfforddiant a ddarperir gan y Swyddog Monitro yn ffitio i mewn i hynny
ac yn ychwanegu gwerth, yn hytrach na bod yn rhywbeth ychwanegol i’r hyn mae’r
cynghorau cymuned eu hunain yn ceisio ei greu.
Nodwyd hefyd y bu i’r Grŵp Tasg drafod a fyddai’r clercod yn dymuno
cael grŵp cyfoedion. Fodd bynnag,
deellid bellach, yn sgil y sgwrs gyda’r clerc, bod grŵp o’r fath yn bodoli
eisoes ar lefel genedlaethol, gyda changen Gwynedd, ond nad oedd gan bob cyngor
cymuned yr adnoddau i dalu’r tâl aelodaeth.
·
Mynegwyd pryder bod y Llywodraeth yn gosod mwy a mwy o
ofynion ar gynghorau cymuned, ond nad oeddent yn darparu adnoddau ychwanegol ar
gyfer hynny na chyngor ynglŷn â sut i fynd ati i gyflawni’r dyletswyddau
hynny, e.e. cynnal cyfarfodydd hybrid, bancio ar lein, cyfieithu, ayb. Nodwyd hefyd nad oedd gan gynghorau bach yr
arian i dalu am glerc, ond roedd y pwyslais ar fwy o hyfforddiant / cymhwyster
proffesiynol i glercod, ayb, yn gwneud y sefyllfa’n anoddach fyth. Hefyd, rhaid cofio mai gwirfoddolwyr yw
cynghorwyr cymuned. Mewn ymateb,
eglurwyd mai un o allbynnau’r trosolwg o’r clercod fyddai amlygu’r anawsterau
ymarferol mae’r cynghorau cymuned yn wynebu, ac roedd angen i’r Llywodraeth,
wrth roi gofynion ychwanegol ar gynghorau, sylweddoli bod angen
ail-strwythuro’r gefnogaeth iddynt.
·
Awgrymwyd efallai y dylai clercod gael eu cyflogi gan y cyngor
sir, ond bod y cynghorau cymuned a thref yn gwneud defnydd ohonynt fel bod yna
dîm proffesiynol ar gael. Mater i’r
Llywodraeth oedd datrys hyn, ond roedd dyletswydd ar y Pwyllgor Safonau i
amlygu bod hyn yn broblem.
·
Nodwyd y byddai’n fuddiol gwybod faint o seddi gweigion sydd
yna ar gynghorau cymuned ar draws Gwynedd.
Awgrymwyd y gellid cyrraedd sefyllfa yn y dyfodol lle bydd rhaid uno
cynghorau cymuned gan eu bod yn rhy fychan i gynnal eu gwasanaethau, a nodwyd bod
hyn eto yn fater i Lywodraeth Cymru.
·
Gofynnodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau a ddymunai’r
pwyllgor dderbyn adborth o’r trosolwg o’r clercod yn eu cyfarfod nesaf ym mis
Tachwedd, ond awgrymwyd bod hynny’n rhy hwyr, gan y bydd angen i’r cynghorau
cymuned greu cynllun hyfforddiant erbyn 5 Tachwedd. Awgrymwyd y dylid anelu i adrodd yn ôl erbyn
dechrau Medi, gan ail-ymgynnull y Grŵp Tasg a Gorffen i gael golwg ar yr
adborth, ac o bosib’ ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Hydref.
·
Nododd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau mai pwrpas yr
ymarferiad oedd mynd i siarad gyda rhai clercod i ddeall eu gofynion, gan
dderbyn y byddai yna faterion yn codi fyddai y tu hwnt i bwerau / y tu allan i
gylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau. Mewn
ymateb, nododd y Cadeirydd y dylai safonau fod yn rhywbeth sy’n gorgyffwrdd
popeth mae’r cynghorau yn wneud.
·
O ran rhaglen waith y pwyllgor, nododd y Cadeirydd fod angen
cywiro’r flwyddyn ar dop y dudalen i 2022/23 a dod â’r eitem Mabwysiadu
Protocol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ymlaen, gan fod angen datblygu’r
protocol cyn gynted â phosib’. Mewn
ymateb, eglurodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau y byddai’r gwaith o
ddatblygu’r protocol yn cychwyn cyn gynted â phosib, ac y byddai’r eitem i’r
pwyllgor ym mis Tachwedd yn ben draw, yn hytrach nag yn gychwyn y broses honno.
·
Eglurodd y Cadeirydd y bwriedid holi’r clercod ynglŷn â
materion yn cynnwys hyfforddiant gorfodol, cymhwyster proffesiynol gorfodol, y
pwysau anymarferol o gyfeiriad Llywodraeth Cymru, cwestiynau am Unllais Cymru,
bylchau mewn gwybodaeth ymarferol a’r angen am gyngor pendant ynglŷn â
beth sydd angen ei wneud a sut i fynd ati i wneud hynny, beth yn union ydi swydd-ddisgrifiad
clerc ac ydi’r swydd-ddisgrifiadau yn gyson rhwng un cyngor a’r llall. Nodwyd hefyd y deellid bod yna bethau sy’n
rhaid i glercod wneud, a bod yna bethau sy’n ddewisol, a dymunid gweld sut mae
hyn yn gwahaniaethu o le i le. Hefyd,
bwriedid holi’r clercod ynglŷn ag adnoddau ar gyfer cyfieithu a chynnal
cyfarfodydd yn hybrid gan y byddai methu cynnal cyfarfodydd hybrid yn amharu ar
y gallu i rannu hyfforddiant.
·
Gan gyfeirio at sylw’r Swyddog Monitro y byddai’r
trafodaethau gyda’r cynghorau cymuned yn gyfrwng, nid yn unig i ddatblygu
gwasanaethau, ond hefyd i greu cyswllt byw gyda’r cynghorau cymuned a thref, ac
y byddai angen darparu adnodd, nododd y Cadeirydd fod yr adnodd (sef hi a’r
Aelod Pwyllgor Cymunedol) cyn lleied â phosib’, ond bod yr adnodd cefnogol yn
ymwneud â beth sy’n digwydd i’r wybodaeth, lle mae’n cael ei chadw, ayb, yn
hytrach na bod angen llawer o gefnogaeth arall.
·
Holwyd a oedd dyddiad wedi’i bennu ar gyfer y drafodaeth
gydag Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol gan ei bod yn bwysig bod y sgwrs yn
digwydd yn fuan. Nododd y Rheolwr
Priodoldeb ac Etholiadau ei fod ar ddeall bod y Swyddog Monitro yn rhoi sylw i
hyn a chytunodd i basio’r neges ymlaen.
PENDERFYNWYD
(a)
Mabwysiadu’r
canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i berfformiad yn 2021/22.
SWYDDOGAETH |
ASESIAD (1/2/3/4) |
Tystiolaeth |
Camau pellach |
1. Hyrwyddo a
chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau |
1. |
Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau
Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill. Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar Ddeddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 |
Parhau i fynychu a chefnogi |
2. Cynorthwyo’r aelodau
i gadw at y Cod Ymddygiad |
3. |
Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad
mewn cyfarfodydd ac ar sail un i un i aelodau. |
Adfer camau hyfforddiant pan mae adnoddau yn caniatáu |
3. Cynghori’r
Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad |
1. |
Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod. |
|
4. Monitro
gweithrediad y Cod Ymddygiad |
3 |
Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn
aelodau Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel
Dyfarnu Cymru Penderfynodd y pwyllgor gychwyn gwaith ynglŷn â’r
ddyletswydd newydd a osodwyd ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ynglŷn
ag ymddygiad eu haelodau. |
Parhau i fonitro ac ystyried dulliau amgen o dderbyn
gwybodaeth Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a
lletygarwch. Yn dilyn yr Etholiad, bydd camau yn cael eu cymryd i
weithio gydag Arweinyddion Grŵp i sefydlu trefniadau gweithredol ar
gyfer y ddarpariaeth newydd. |
5. Cynghori,
hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad |
3. |
Trefnwyd hyfforddiant anwytho ar gyfer aelodau newydd
Cyngor Gwynedd yn paratoi at yr etholiadau. |
Angen edrych ar ddarparu hyfforddiant newydd. |
6. Rhoi goddefebau i aelodau |
1. |
Dim ceisiadau wedi eu hystyried dan y drefn
newydd. |
|
7. Ymdrin ag
adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar
faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon |
1. |
Ymdriniwyd ag un achos a gyfeiriwyd at y pwyllgor gan
yr Ombwdsmon. |
|
8. Awdurdodi’r Swyddog
Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad |
Dim angen gweithredu |
Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath |
|
9. Ymarfer y
swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned |
3 |
Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad
i gynghorau, clercod ac aelodau. Mabwysiadu peilot ar gyfer hyfforddi Cod
Ymddygiad. Wedi cynnwys sesiwn i beilota cynnwys y cwrs. |
(b) Cymeradwyo’r
rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2022/23:-
11 Gorffennaf, 2022
Adroddiad Blynyddol
Honiadau yn erbyn Aelodau
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
21 Tachwedd 2022
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch
Cofrestr Datgan Buddiant
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon
Honiadau yn erbyn Aelodau
Mabwysiadu Protocol Arweinyddion Grwpiau
Gwleidyddol
13 Chwefror 2023
Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu
Honiadau yn erbyn Aelodau
Hunan Asesiad a Rhaglen Waith
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
(c)
Awdurdodi’r
Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro,
i fwrw ymlaen â’r gwaith gyda sampl o glercod cynghorau cymuned a thref i
ddeall yn well beth yw eu hanghenion, gan sicrhau trefn foesegol briodol ar
gyfer gwneud hynny, ac ymgynnull cyfarfod pellach o’r Grŵp Tasg a Gorffen
– Y Fframwaith Safonau Moesegol ddechrau Medi i dderbyn adborth o’r
trafodaethau gyda’r clercod.
Dogfennau ategol: