I ystyried
cais Mr A
(dogfennau
i aelodau’r Is bwyllgor yn unig )
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan Aelod o’r Is-bwyllgor i’r Swyddog
Trwyddedu cadarnhawyd mai geiriad / dyfyniad o ddisgrifiad y Ddeddf yw ‘rheoli cerbyd,
ffôn symudol ac ati’
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
yr arnodiadau ar y drwydded ac
amgylchiadau personol yr ymgeisydd a’i
fethiant o hysbysu’r Adran Drwyddedu am droseddau traffig
difrifol ar ddau achlysur. Amlygodd bod yr
ymgeisydd ar un o’r achlysuron, yn gofalu am
ei dad ac
felly, gyda phethau eraill ar ei feddwl,
wedi llenwi’r ffurflen gais yn anghywir ac wedi
methu a rhoi gwybod i’r Adran
Trwyddedu o’i amgylchiadau. Ar achlysur arall, ei gynbartner
oedd yn gyrru’r
car ac nid oedd wedi diweddaru manylion ei gyfeiriad
newydd na datgelu pwy oedd yn
gyrru’r car i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.
Canmolwyd yr ymgeisydd am ei waith
fel gyrrwr tacsi - nodwyd ei fod yn
onest, yn gymwynasgar, yn barod i helpu bob amser ac yn
boblogaidd gyda chwsmeriaid.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan gynrychiolydd yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Yn mis Gorffennaf 2021, derbyniodd
yr ymgeisydd 6 pwynt cosb arnodedig
ar ei drwydded
gyrru am dorri gofynion y Ddeddf o ran ‘rheoli cerbyd, ffôn symudol ac ati’
Ystyriwyd paragraff
2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad
oes rheidrwydd i berson sydd
â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl
iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn
y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded.
Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i
brofi ei fod yn berson
addas a phriodol. Mae 2.3 yn nodi, at ddibenion
y Polisi, gall "materion
eraill i'w hystyried”, gynnwys, ymhlith eraill, gollfarnau troseddol / moduro
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio
o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud
â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.2 yn rhestru troseddau
traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae MS90 (methu darparu gwybodaeth am hunaniaeth gyrrwr ac ati). Mae paragraff 12.3 yn nodi y bydd
cais yn cael
ei wrthod os oes collfarn
yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi
bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod trosedd 2021 yn fater difrifol ond roeddynt yn
fodlon bod cyfnod yr amser (6 mis) a nodir yn y Polisi
lle dylid gwrthod ceisiadau oherwydd troseddau o’r fath wedi
mynd heibio ac nad oedd unrhyw
droseddau pellach
Ystyriwyd methiant yr ymgeisydd i ddatgelu
trosedd yn unol â gofynion y drwydded drwy fethu
â chynnwys arnodiadau ar ei ffurflen
gais na rhoi
gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu am yr arnodiadau a ddatgelwyd yn yr
adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Derbyniwyd eglurhad yr ymgeisydd dros
ddiffyg rhannu gwybodaeth oherwydd amgylchiadau personol anodd ar y pryd
a bod rhywfaint o ddryswch yn ymwneud â chyflwyno
dogfennau'r erlyniad yn rhinwedd y ffaith
ei fod wedi
symud tŷ. Fodd bynnag, roedd
yr Is-bwyllgor hefyd yn siomedig
nad oedd y drosedd wedi ei
datgelu ar y ffurflen gais presennol.
Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus,
ystyriwyd na fyddai’r diffyg yn cyfiawnhau gwrthod
trwydded ar y sail yma yn unig
ond bod methiant i ddatgelu gwybodaeth
gywir a diweddar fel sy'n ofynnol
gan y drwydded yn fater difrifol.
Petai’r amgylchiadau yn cael eu
hailadrodd yna byddai'r methiant hwn yn ystyriaeth
berthnasol mewn unrhyw ddilyniant i benderfyniad.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais. Penderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol i ddal trwydded
gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat. Anogwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i sicrhau
bod ymgeiswyr i’r dyfodol yn gwirio
a chymryd cyfrifoldeb am eu ffurflen gais
a bod yr Adran Trwyddedu yn edrych
ar drefniadau’r cwmni i’r dyfodol.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd.