Agenda item

The Old Wives' Tale, 21 Heol Tegid, Y Bala, LL23 7EH

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais, yn unol â’r Ddeddf Drwyddedu a’r amodau rheoli sŵn a gytunodd yr ymgeisydd i ychwanegu at atodlen weithredol y drwydded

 

Cofnod:

 

THE OLD WIVES' TALE, 21 TEGID STREET, BALA LL23 7EH

 

Ymatebwyr:   Mr Mark Mortimer (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd)

                        Mr Adrian Angel (Gwasanaeth Tan Gogledd Cymru)

           

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer bwyty gyda hawl i werthu alcohol gyda phrydau i’w gweini gyda bwyd ar yr eiddo yn unig rhwng 12 o’r gloch hyd at 11yh, saith diwrnod yr wythnos. Gwnaed cais am hawl i chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio a chynnal adloniant byw o 7 y bore tan 11 yr hwyr, saith diwrnod yr wythnos.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd na dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r cais ond bod Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi argymell amodau rheoli sŵn. Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd yn fodlon derbyn yr amodau hyn ac yn barod i’w hychwanegu ar y drwydded. Argymhellwyd i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003. 

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol i gyflwyno ei gais ar lafar

 

Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Mark Mortimer

·         Trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd – y cais wedi ei dacluso ers ei gyflwyno

·         Yr ymgeisydd wedi cytuno i dderbyn amodau rheoli sŵn ar yr eiddo yn ogystal â chwtogi oriau adloniant rheoledig

·         Bod yr ymgeisydd wedi cytuno cyfyngu ar yr oriau cerddoriaeth byw ac y byddai yn gwneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro petai angen unrhyw ymestyniad achlysurol

 

Adrian Angel

·         Dim pryderon diogelwch y cyhoedd, ond cais i’r ymgeisydd gwblhau asesiad risg, ail wneud cynllun llawr ar ôl gosod larymau tân a chlirio’r safle - ni fyddai hyn yn amharu ar benderfyniad yr is-bwyllgor

 

Cyng. Dilwyn Morgan (Aelod Lleol) - sylwadau wedi eu cyflwyno drwy e-bost

·         Ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol

·         Nodi ei gefnogaeth lwyr i’r drwydded yn Old WivesTale.

·         Nad oedd unrhyw broblem sŵn yn aflonyddu ar y trigolion gerllaw o gwbl.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref.

Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd sylwadau ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion hyn. Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau.

 

PENDERFYNWYD

·         Caniatáu y cais diwygiedig

·         Ymgorfforir y materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded

·         Ymgorfforir fel amodau'r drwydded yr amodau rheoli sŵn a argymhellwyd gan Warchod y Cyhoedd

 

Rhoddwyd y drwydded fel a ganlyn:

 

1. Oriau agor:            Sul-Sadwrn: 07:00 – 23:00

2. Cerddoriaeth fyw tu mewn:         Sul-Sadwrn: 19:00 – 22:30**

3. Cerddoriaeth wedi recordio tu mewn:   Sul-Sadwrn: 12:00 – 23:00

4. Cyflenwi alcohol i yfed ar ac oddi ar yr eiddo: Sul-Sadwrn 12:00 – 23:00

 

** wedi eu cyfyngu i unrhyw bedair noson o fewn mis calendar.

 

Rhesymau

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i sylwadau'r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn a darpariaeth cerddoriaeth byw ac wedi ei recordio ar yr eiddo. Cytunodd yr ymgeisydd i’r  addasiadau canlynol i’r cais:

 

·         Uchafswm o bedair noson o gerddoriaeth byw fesul mis calendar

·         Cerddoriaeth acwstig yn unig i’w chwarae drwy system PA'r adeilad - oriau penodol 19:00 i 22:30 ar gyfer y nosweithiau hyn

·         Dim cerddoriaeth i’w chwarae yn allanol

 

O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: