Morus Llwyd Dafydd, Swyddog Prosiect AHNE i roi diweddariad i aelodau ar y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, ac i ethol aelodau newydd i’r Panel Grantiau.
Penderfyniad:
a)
Derbyn yr adroddiad am sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.
b)
Enwebwyd y Cynghorydd Angela Russell i
gymryd y sedd wag ar y Panel.
COFNODION:
Darparwyd diweddariad i’r Cydbwyllgor am
sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy hyd yma a’r datblygiadau sydd ar y
gweill. Cyfeiriwyd at wariant blwyddyn ariannol 2021/22 gan adrodd bod £100,000
yn y Gronfa a llwyddwyd i ddyrannu’r cyfan.
Cadarnhawyd bod cyllideb wedi ei gadarnhau
ar gyfer y dair mlynedd nesaf. Golyga hyn bod £100,000 yn y gronfa ar gyfer
2022/23 a chyllideb o £100,000 ar gael ar gyfer 2023/24 a 2024/25. Eglurwyd bod
hyn yn rhoi cyfle i brosiectau gael eu hariannu dros gyfnod o ddwy neu dair
blynedd pe bai angen.
Ychwanegwyd bod Llywodraeth Cymru wedi newid
Rheoliadau’r Gronfa gan roi mwy o bwyslais ar y Ddeddf Llesiant yn ogystal â
blaenoriaethu prosiectau sy’n cyd-fynd ar themâu Adfer Natur a
Dad-garboneiddio. Nodwyd bod y gwaith o hyrwyddo’r Gronfa eisoes wedi dechrau
ac anogir yr aelodau i rannu gwybodaeth am y cyfle i ymgeisio am grantiau o’r
gronfa.
I gloi eglurwyd bod angen ethol aelodau
newydd i’r Panel Grantiau. Esboniwyd bod lle i 8 aelod o’r Cydbwyllgor
Ymgynghorol i fod yn aelodau o’r Panel Grantiau. Yn dilyn arweiniad, awgrymwyd
i bedwar o’r aelodau blaenorol barhau a dewis pedwar aelod newydd. Nodwyd mai’r
bwriad yn y dyfodol fydd i gyfnewid dau aelod o’r Panel Grantiau bob dwy
flynedd. Gofynnwyd i’r Cydbwyllgor dderbyn y wybodaeth ac ethol aelodau newydd
i’r Panel Grantiau.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-
-
Holwyd am y sefyllfa ynglŷn â chael cworwm. Yn
ogystal gofynnwyd pam na chaiff holl aelodau’r Cydbwyllgor Ymgynghorol fod yn
aelodau o’r Panel Grantiau.
-
Mynegwyd awydd gan aelodau presennol o’r Panel Grantiau i barhau i fod
yn aelodau, nid oedd awydd gan neb i sefyll lawr.
-
Gwnaethpwyd cynnig gan yr Aelodau i gadw aelodaeth y
Panel Grantiau fel ag yr oedd gan gynnig lle i un aelod newydd i lenwi’r sedd wag.
Gofynnwyd a oedd hyn yn dderbyniol gan y Swyddog AHNE.
-
Mynegwyd sylw bod llawer o brosiectau bach angen eu
hariannu yn Llŷn a gofynnwyd a oedd modd cadw swm penodol ar gyfer
prosiectau sy’n gofyn am £1,000 neu lai. Teimlwyd bod prosiectau bach yn dueddol
o golli allan am eu bod yn gofyn am symiau weddol isel.
Mewn ymateb, nodwyd:
-
Mai 1/3 yw
cworwm felly bydd angen o leiaf traean o aelodau’r Panel Grantiau fod yn
bresennol ymhob cyfarfod.
-
Eglurwyd bod 8 aelod ar y Panel Grantiau eisoes yn nifer
uchel o gymharu ag AHNE eraill e.e. Môn sydd â 3 aelod. Atgoffwyd yr aelodau
mai 6 aelod oedd yn arfer cynrychioli’r Panel Grantiau ond codwyd nifer yr
aelodau i 8 a chredwyd bod y nifer yma wedi gweithio’n dda.
-
Eglurodd y
Swyddog AHNE bod 1 sedd wag ar y Panel Grantiau. Bydd angen i 3 aelod presennol
o’r Panel sefyll lawr ac yna enwebu 4 cynrychiolydd newydd.
-
Nododd y Swyddog AHNE bod y rheoliadau gan Lywodraeth
Cymru yn awgrymu cylchdroi aelodau’r Panel Grantiau ond os yw pawb yn gytûn bod
modd gweithredu’r hyn a ddymunir efo aelodau presennol yn parhau gan ychwanegu
un aelod newydd i lenwi’r sedd wag. Pwysleisiwyd bod hyn yn dderbyniol am y tro
ond mewn dwy flynedd bydd angen tynnu dau aelod ac ychwanegu dau newydd.
-
Cadarnhawyd mai’r aelodau’r Panel Grantiau fydd: y Cynghorwyr Gareth Williams, Gruffydd
Williams ac Angela Russell yn ogystal ag Eirian Allport, Noel
Davey, T. Victor Jones,
Morgan Jones-Parry a Sian Parri.
-
Eglurwyd ei bod yn sialens i wario £100,000 mewn blwyddyn
a chydnabuwyd bod llawer o’r prosiectau yn rhai bychain yn Llŷn. Credwyd y
bydd mwy o hyblygrwydd yn y dair mlynedd nesaf i ariannu prosiectau llai gan
fod cadarnhad wedi ei dderbyn o’r £100,000 am y dair mlynedd nesaf i’r gronfa.
a) Derbyn yr adroddiad am
sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.
b) Enwebwyd y Cynghorydd Angela Russell i
gymryd y sedd wag ar y Panel.
Dogfennau ategol: