Ymestyn trac dan gyfeirnod cais C21/1155/22/YA am bellter o 15 medr i'r gogledd o'r fynedfa bresennol ynghyd ác adeilad pont i groesi'r cwrs dwr - Lon Tyddyn Agnes, Llanllyfni
AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Thomas
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
amodau isod: -
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r manylion a
gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Cyflwyno cynllun plannu
coed i’w ganiatáu’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
4. Cwblhau’r datblygiad yn
unol gydag argymhellion yr adroddiad ecolegol.
Nodyn parthed yr angen i dderbyn caniatâd yr Uned
Drafnidiaeth i ymgymryd â gwaith o fewn y briffordd.
Nodyn parthed y cyngor a gyflwynwyd gan Uned Dwr ac
Amgylchedd y Cyngor.
Cofnod:
Ymestyn trac dan gyfeirnod cais C21/1155/22/YA am bellter o 15 medr i'r
gogledd o'r fynedfa bresennol ynghyd ac adeilad pont i groesi'r cwrs dwr - Lon Tyddyn Agnes,
Llanllyfni
Gohiriwyd y cais ym
Mhwyllgor Cynllunio 13 Mehefin 2022 er mwyn gwybyddu un o’r gwrthwynebwyr oedd yn dymuno
siarad yn y Pwyllgor ynghyd a chynnal ymweliad safle.
Roedd rhai o’r
Aelodau wedi ymweld â’r safle 04/07/22 er mwyn ymgyfarwyddo
gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol.
a) Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais
llawn ydoedd ar gyfer ymestyn
y trac amaethyddol a ganiatawyd
o dan gais hysbyseb cymeradwyaeth ymlaen llaw rhif C21/1155/22/YA am bellter o 15m o’r fynedfa bresennol ynghyd ag adeiladu pont i groesi’r
cwrs dwr oddi ar ffordd
sirol ddi-ddosbarth Lon Tyddyn Agnes yng nghymuned Llanllyfni. Lleolir y trac arfaethedig ar dir sy’n
rhan o ddaliad amaethyddol Fferm Taldrwst. Saif yng nghefn gwlad agored gyda’r rhan
yma o’r dirwedd
o laswelltir wedi ei wella yn
cael ei ddefnyddio
i ddiben pori da byw.
I gefnogi’r cais, cyflwynodd yr ymgeisydd Arolwg Ecolegol Rhagarweiniol ynghyd a Datganiad Cynllunio oedd yn cyfeirio at nifer o elfennau’r cais.
Eglurwyd bod y cais diweddaraf
hwn wedi ei gyflwyno i
ymestyn y trac amaethyddol
am bellter o 15m i’r gogledd o’r fynedfa
a ganiatawyd eisoes ar sail fod y fynedfa
newydd wedi ei leoli o fewn
25m i ffordd sirol dosbarth III (Lon Ddŵr). Y rhesymeg y tu ôl i’r
cais diweddaraf hwn yw byddai
creu mynedfa yn agosach i’r
gyffordd yn galluogi i loriau
fynd i mewn
ac allan o’r safle heb rwystr
ac i osgoi difrodi wyneb y ffordd sirol ddi-ddosbarth.
Byddai hefyd yn ymateb i
drafodaethau gyda’r Uned Drafnidiaeth parthed dirywiad y ffordd sirol ddi-ddosbarth
(Lon Tyddyn Agnes) a dymuniad
yr Uned i dynnu pwysau loriau
trymion oddi ar y ffordd.
Yng nghyd-destun hanes
y rhan yma o’r daliad amaethyddol,
ystyriwyd bod yr egwyddor o
gysylltu'r twll chwarel gyda’r rhwydwaith ffyrdd lleol at ddibenion amaethyddol yn dderbyniol a bod yr egwyddor o’r fath fwriad
eisoes wedi ei dderbyn pan ganiatawyd yr hysbysebion blaenorol.
Ni ystyriwyd fod y bwriad yn
groes i bolisïau
lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater
cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau
polisi hyn. O ganlyniad, ystyriwyd fod
y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig
ar gynnwys amodau priodol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau
canlynol:
·
Bod nifer o lythyrau wedi eu cyflwyno
yn gwrthwynebu’r cais
·
Y cais yn groes
i faterion amgylchedd a diogelwch y cyhoedd
·
Adroddiad Bioamrywiaeth yng nghais 2017 yn mynegi’n glir bod rhywogaethau prin angen eu gwarchod
– dim pryderon y tro hwn?
·
Bod y lon yn gul
ac yn anaddas i bwrpas
·
Bod damwain ddifrïol wedi bod ar y lon
gyda chymydog yn dioddef anafiadau
newid bywyd - wedi hysbysu a rhybuddio’r Uned Trafnidiaeth y byddai damwain yn anochel
·
Bod y lon yn rhy
gul i loriau
trymion sydd yn teithio dol
ac ymlaen yn cludo gwastraff o’r chwarel - o leiaf 40 lori lawn neu wag yn defnyddio'r lon
·
Angen ystyried
diogelwch y cyhoedd a thrigolion lleol
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol
·
Bod y cais cynllunio ar gyfer adeiladu
pont fechan a fydd yn rhan
o drac amaethyddol eisoes wedi ei
ganiatáu.
·
Bydd y bont
15 medr yn nes na safle’r
bont wreiddiol at gyffordd Lôn Tyddyn
Agnes a Lôn Ddŵr ger Llanllyfni.
·
Prif fwriad
y cais yw dargyfeirio trafnidiaeth yn gyfan gwbl
oddi ar Lôn
Tyddyn Agnes yn unol â dymuniad Awdurdod Priffyrdd Cyngor
Gwynedd. Bydd
y cynllun gwirfoddol yn cyfrannu at leihau effeithiau trafnidiaeth i, ac o, safle chwarel Tyddyn
Agnes a Fferm Taldrwst. Ystyrir fod y mesurau
yn welliant i fwynderau pobl
leol, yn gwella diogelwch y briffordd ac yn y pen draw yn golygu llai
o waith cynnal a chadw i Gyngor
Gwynedd ar Lôn Tyddyn Agnes.
·
Yn ymwybodol,
yn anffodus fod damwain ffordd
gyda thractor wedi digwydd yn
ddiweddar ar Lôn Ddŵr. Ni ellir gwarantu na fydd damweiniau
ar unrhyw ffordd ble bynnag
y bo, na beth bynnag fo’i
chyflwr. Drwy ymgymryd â’r cynllun
hwn hyderwn y gellir lleihau ychydig ar y risg
o ddamweiniau ar y briffordd yn y dyfodol.
·
Bod yr holl weithgareddau sydd yn digwydd
yn Taldrwst a chwarel Tyddyn Agnes yn unol â Rheoliadau
Cynllunio, Amaethyddol ac Amgylcheddol cyfredol.
·
Yn ymwybodol
nad yw pawb
yn dymuno gweld llwyddiant i’r cynlluniau yn Taldrwst. Fodd
bynnag, y teulu yn denantiaid ac yn berchnogion Fferm Taldrwst ers yn agos
i 150 o flynyddoedd. Dyhead ac uchelgais yw gwella’r
ddaliadaeth hyd orau eu gallu
yn economaidd ac yn amgylcheddol, gyda’r bwriad o liniaru problemau iechyd a diogelwch enfawr a berthyn i’r safle
o ganlyniad i weithgareddau chwarelyddol y gorffennol.
·
Bod y cynllun yn cyfrannu’n
sylweddol at eu dyheadau fel teulu
ac yn cyfrannu yn ogystal at fwynderau,
cyflogaeth a diogelwch yr ardal i’r dyfodol.
ch)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Derbyn yr angen
i osgoi difrod
i Lon Tyddyn Agnes dwy leihau traffig
·
Dim gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth er bod sawl gwrthwynebiad
gan drigolion lleol am y cynnydd mewn cerbydau trwm
·
Bod hawl cynllunio eisoes wedi ei
ganiatáu ac felly cynnydd mewn cerbydau yn
anochel
·
Byddai mantais
gyfreithiol ac amgylcheddol
o gau’r tyllau yn y lon
·
Bod creu trac 15m ychwanegol ar dir amaeth
yr ymgeisydd yn gwneud synnwyr er derbyn pryderon
trigolion Tyddyn Agnes - damwain ddifrïol wedi bod ar y lon
gyda chymydog yn dioddef anafiadau
newid bywyd
·
Y lon yn un boblogaidd
gyda cherddwyr, beicwyr, plant yn cerdded i’r ysgol
·
Bod corneli dall a gwelededd gwael i’r lon
·
Awgrym ystyried
amodau o beidio gyrru lorïau ar
amser teithio dol ac ymlaen i’r
ysgol ynghyd a gosod man pasio. Awgrym i’r Uned
Trafnidiaeth gyfarfod gyda’r Aelod Lleol i ystyried amodau
rheoli traffig
·
Nad oes
arwyddion rhybudd parhaol ar y lon
- angen arwyddion o ystyried bod defnydd loriau a thractorau parhaus yma
·
Pwysig canfod
balans rhwng defnyddwyr, cymdogion a busnes
·
Bod gan Cyngor Gwynedd ddyletswydd i sicrhau diogelwch
trigolion
·
Gobaith dod i gytundeb
– dim eisiau gweld damwain arall
d) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais
e) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Dadleu mai
‘amaethyddol’ yw’r safle - ymdebyga i chwarel
·
Bod y safle yn un gwledig
– lonydd a’u hymylon yn cael
eu dinistrio
·
Bod nifer o drigolion lleol yn gwrthwynebu
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â gweithgareddau’r
chwarel, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio
ac Amgylchedd bod y gweithgareddau yn cael eu gweithredu
yn unol â gofynion cyfreithiol gyda’r defnydd yn bodoli yn
barod yn unol â rheoliadau. Diben y stribyn tir yw gwella
diogelwch defnyddwyr gan dynnu cerbydau
oddi ar y ffordd. Ategwyd nad oedd gan
yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais ac nad oedd
sail gan yr Uned Iechyd a
Diogelwch i wrthod oherwydd bod defnydd y chwarel eisoes yn gyfreithiol.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â chynnydd mewn maint loriau
yn hytrach na’r nifer, nodwyd
nad oedd modd rheoli nifer
cerbydau drwy’r drefn cynllunio ond derbyn ei
bod yn hanfodol bod cyfathrebu clir ynghylch natur y defnydd a’r amserlen.
Ategwyd mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rheolaeth y busnes ac y dylid cysylltu gyda’r gwasanaeth o unrhyw rybuddion. Awgrymwyd y dylid rhannu’r wybodaeth yma gyda’r
Aelod Lleol a’r Uned Trafnidiaeth fel bod modd gwella
gohebiaeth ac arwyddion. Nodwyd, yn syml,
mai ymdrech oedd yma i
resymoli a symud cerbydau oddi ar
ddarn o dir sydd yn dirywio
- hawl dros dro sydd i’r
gwaith - daw i ben pan fydd y gwaith wedi
ei gwblhau.
Ategodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol pe bai dirywiad yng nghyflwr
y lon mai mater i’r Uned Drafnidiaeth
fyddai ei atgyweirio.
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau isod: -
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r manylion a gyflwynwyd
gyda’r cais.
3.
Cyflwyno cynllun plannu coed i’w
ganiatáu’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
4.
Cwblhau’r datblygiad yn unol gydag
argymhellion yr adroddiad ecolegol.
Nodyn
parthed yr angen i dderbyn caniatâd yr Uned Drafnidiaeth i ymgymryd â gwaith o
fewn y briffordd.
Nodyn
parthed y cyngor a gyflwynwyd gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.
Dogfennau ategol: