Cais ar gyfer codi
byngalo dormer, lledu'r fynedfa bresennol ynghyd a darparu llecynnau parcio (ail-gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan cyfeirnod
C21/1140/15/LL)
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Kim Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
1. 5 mlynedd.
2. Unol â
chynlluniau a gyflwynwyd.
3. Tynnu hawliau a
ganiateir.
4. Llechi a
deunyddiau.
5. Cwblhau'r
parcio cyn meddiannu
6. Amodau draenio
tir
7. Enw Cymraeg i’r
tŷ
Cofnod:
Cais ar gyfer codi
byngalo dormer, lledu'r fynedfa bresennol ynghyd a darparu llecynnau parcio
(ail-gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C21/1140/15/LL
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi
tŷ deulawr newydd yng ngardd cefn eiddo a adnabyddir fel Y Berllan sydd
wedi ei leoli yng nghanol pentref Llanberis. Nodwyd bod y cais yn
ail-gyflwyniad o gais cyffelyb a wrthodwyd yn Ionawr, 2022 a bod y cais
diweddaraf yma wedi ei alw i mewn gan yr Aelod Lleol oedd yn nodi bod y bwriad
diwygiedig, erbyn hyn, yn dderbyniol ar sail risg llifogydd a dyluniad.
Nododd y Swyddog, er y byddai’r cais yn dderbyniol ar sail capasiti a’i fod wedi ei leoli o fewn y ffin datblygu,
ystyriwyd bod angen cydymffurfio gyda pholisïau eraill perthnasol o fewn y CDLL
- gofynion Polisi PCYFF 1 (ffiniau
datblygu) ynghyd a gofynion Polisi PCYFF 2 (meini prawf datblygu).
Ystyriwyd
y byddai codi tŷ newydd 5.9m o uchder, 5m i ffwrdd o'r annedd bresennol yn
creu strwythur gormesol ar draul mwynderau deiliaid Y Berllan gan
greu awyrgylch clawstroffobia. Yn ogystal byddai lleoli annedd newydd yn
gyfagos i'r annedd bresennol yn tanseilio mwynderau deiliaid Y Berllan ar sail
aflonyddwch sŵn fyddai'n deillio o weithgareddau sy'n gysylltiedig â bywyd
modern a chyfoes ynghyd a symudiadau cerbydau i mewn ac allan o'r safle sydd yn
rhannu'r un fynedfa. Yn ogystal, byddai ei osodiad cyfochrog a'r Berllan ynghyd
a maint y tŷ yn creu strwythur anghydnaws a lletchwith ei gymeriad ar
draul mwynderau gweledol ac felly, er yn gais diwygiedig, yn parhau i fod yn
annerbyniol.
Wedi ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd gan
drigolion lleol, ymgynghorwyr statudol ac ymateb yr ymgeisydd i bryderon blaenorol
risg llifogydd y bwriad, roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn nodi y byddai’r
bwriad diweddaraf yn amharu’n andwyol ar
fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid cyfagos a mwynderau gweledol y
strydlun. Argymhelliad y swyddogion oedd gwrthod y cais.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Cais ydoedd i adeiladu byngalo bach dwy
loft i’w mab a hithau fyw ynddo - dim i’w werthu nac
i’w osod fel Airbnb.
·
Yn enedigol o’r pentref gyda’i meibion
a’i hwyrion hefyd yn byw yn y pentref -
ei mab a’i wraig yn dibynnu arni i fynd a’r wyrion i’r ysgol bob bore
cyn mynd i’w gwaith
·
Y bwriad yw adeiladu yng ngardd Y Berllan (cartref ei rhieni). Y
Berllan yn cael ei werthu gyda phwy bynnag fydd yn ei brynu yn ymwybodol, os yn
llwyddiannus, bod caniatâd cynllunio yn yr ardd gefn.
·
Bod digonedd o le yn ffrynt Y Berllan a digon o le yn y cefn i
barcio 3-4 o geir a lle i droi rownd.
·
Cais am fyngalo bach yw’r bwriad ac nid
creu “strwythur ymwthiol fel sydd yn cael ei ddatgan gan y swyddogion. Y
cynllun yn debyg iawn i’r byngalo sydd eisoes mewn bodolaeth.
·
Ni fydd y bwriad yn creu aflonyddwch sŵn gan mai dim ond 1 cerbyd
a 2 berson fydd yn byw yn y tŷ.
·
Bod lleoliad Y Berllan ar waelod Ffordd Capel Coch - ni
fydd yn creu mwy o sŵn na thraffig fel sydd yn cael ei ensynio - mwy o
sŵn a thraffig yn cael ei greu gan y pum safle Airbnb
sydd yn y stryd yn barod. Un bwthyn yn Stryd Ceunant i fyny’r
ffordd wedi cael estyniad dwy ochr ac wedi ei rannu’n ddau safle Airbnb - siawns bod
hwn yn creu mwy o sŵn a thraffig yn y stryd!
·
Ei bod wedi ymateb i ofynion y Swyddog
Cynllunio
·
Nid oes modd prynu tŷ yn Llanberis oherwydd prisiau tai yn yr
ardal, ond bod modd adeiladu byngalo bach - bydd hyn yn rhatach gan fod oedran
yn ei herbyn i gael morgais.
·
Nid yw’r Cyngor Cymuned na’r cymdogion wedi gwrthwynebu’r
cais. Erfyn ar y Pwyllgor i ganiatáu y
cais - rhoi sylw i ystyriaethau cadw’r iaith Gymraeg yn fyw a chadw pobl leol
yn eu pentrefi.
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd gwrthwynebiad gan Cyngor
Cymuned na chymdogion
·
Bod yr ymgeisydd eisiau aros yn
Llanberis
·
Na fydd parcio yn amharu ar eraill –
bod lle parcio ar y safle
·
Y dyluniad yn gweddu
·
Un byngalo sydd yma – dim effaith – dim
sŵn – Airbnb yn cael mwy o effaith
·
Coed tal aeddfed ar y safle – dim goredrych
·
Stad newydd yn y pentref gyda phrisiau
uchel
·
Yr iaith Gymraeg yn dirywio yn y
pentref – angen cadw gafael
d) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r
argymhelliad, gan nodi bod y cais yn cydymffurfio gyda Polisi Cyff 3 - y
dyluniad ac edrychiad yn dderbyniol ac na fyddai’n cael effaith ar fwynderau
trigolion cyfagos.
e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y safle o fewn ffin datblygu'r pentref
·
Angen cadw pobl leol yn lleol
PENDERFYNWYD:
Caniatáu gydag amodau
1. 5 mlynedd.
2. Unol â
chynlluniau a gyflwynwyd.
3. Tynnu hawliau a
ganiateir.
4. Llechi a
deunyddiau.
5. Cwblhau'r parcio
cyn meddiannu
6. Amodau draenio
tir
7. Enw Cymraeg i’r
tŷ
Dogfennau ategol: