Adeiladu ty
newydd a llecynnau parcio
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle
Cofnod:
Adeiladu tŷ
newydd a llecynnau parcio
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi
tŷ deulawr ar lain o dir ger Pen Lôn, o flaen anheddau a adnabyddir fel Y
Ficerdy a Clynnog House gydag annedd preswyl Tŷ
Isaf a Court Cottages at
gefn y safle o fewn ardal breswyl a ffin datblygu Clynnog Fawr. Ceir hefyd yma
fynediad cefn at Eglwys Beuno Sant sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y pum
tŷ presennol cyfagos. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn union gerllaw
Adeiladau Rhestredig, wedi lleoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) a hefyd o fewn Ardal Cadwraeth.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais gan yr aelod lleol.
Cafodd cais
blaenorol ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ym Medi 2021, lle penderfynwyd
gohirio’r cais er mwyn trafod ffordd ymlaen a chyflwyno cynlluniau diwygiedig.
Tynnwyd y cais yn ôl a chyflwynwyd y cais presennol gyda’r unig newidiadau yn
cynnwys dwy ffenestr gromen yn y to ar yr edrychiad Gorllewinol.
Wedi
ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, amlygwyd na ellid argymell caniatáu’r
cais oherwydd y methiant i fodloni gofynion polisïau TAI y CDLL sy’n ymwneud ag
addasrwydd y datblygiad i gydymffurfio â chymeriad yr anheddle ar ran ei faint
a graddfa a bod angen amddiffyn y llecyn agored rhag gor-ddatblygiad
er mwyn diogelu edrychiad a chymeriad yr ardal cadwraeth leol.
b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau
canlynol:
·
Bod y cynllun gyda sawl problem
·
Bod y cais yn orddatblygiad
mewn ardal cadwraeth
·
Yr ymgeisydd yn parhau i gyflwyno
cynlluniau
·
Adeiladau rhestredig o harddwch
eithriadol angen eu gwarchod
·
Bod y ffordd fynediad yn un sengl - angen i’r Uned Trafnidiaeth
wirio hyn
·
Bod 5 eiddo, mynediad Dŵr Cymru ac
Eglwys yma
·
Nad oes cyfeiriad at y cylfert wedi ei wneud
·
Gwagle o 1m yn unig fydd rhwng y bwriad
ac eiddo presennol
·
Goredrych ar anheddau cymdogion
·
Nad yw’r ymgeisydd yn byw yn lleol
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Brodor wedi ei eni a’i fagu
yn 25 Llwyn y De, Clynnog Fawr yw’r ymgeisydd a phan yn saith oed symudodd y teulu
i Aberdesach. Yn 1999 prynodd eiddo Penlôn yng Nghlynnog Fawr, sef bwythyn bach traddodiadol gyda gardd ar
wahân nepell o’r eiddo. Wedi pum mlynedd, ac oherwydd amgylchiadau personol,
gwerthwyd Penlôn
yn 2004 ond penderfynwyd dal gafael yn yr ardd gyda bwriad a gobaith o ail
ymgartrefu yn y pentref yn y dyfodol gan adeiladu tŷ newydd ar safle a
oedd eisoes yn eu meddiant
·
Y safle wedi ei leoli oddi mewn i ffin datblygu’r pentref ac oddi
mewn i ardal cadwraeth - Clynnog Fawr ei hun wedi ei leoli o fewn Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol
·
Cyfanswm arwynebedd y safle yw oddeutu 175m² gyda bwriad o
adeiladu eiddo syml a chryno, dau lawr gydag ychydig o ardd a phosibl. Cyfanswm
arwynebedd llawr gwaelod yr eiddo fydd
55m² sydd yn gadel 120m² ar gyfer parcio, gardd a libart o gwmpas yr
eiddo
·
Bod polisïau cynllunio yn ganllaw ac wedi cael eu darparu yn
ofalus ar gyfer cael eu dehongli - wrth gwrs gall pob person eu dehongli yn
wahanol ond serch hynny mae egwyddor sylfaenol y bwriad yn dal i sefyll
·
Prif bryder y swyddog cynllunio yn yr achos yma yw bod y bwriad yn
ei dyb ef, oherwydd ei faint a gosodiad, yn groes i bolisïau perthnasol. Mater
o farn yw hyn os nad yw’r bwriad yn ychwanegu ac yn gwella cymeriad ac
ymddangosiad y safle a hefyd os nad yw’r bwriad yn diogelu nac yn gwella’r
gosodiad ac edrychiad ardal cadwraeth
ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad - y dyluniad yn gweddu - dim
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan yr Uned Trafnidiaeth na’r AHNE
d)
Mewn ymateb i’r cynnig, amlygodd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac
Amgylchedd bod angen ystyried y lleoliad fel un sensitif, yn un o dan reolaeth
cadwraeth gydag adeiladau rhestredig o’i gwmpas. Ategodd bod dyluniad y bwriad
yn un fyddai yn gyffredinol i’w weld mewn stad o dai ac nad yw yn parchu
cymeriad sensitif yr ardal yma.
e)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle
PENDERFYNWYD:
Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle
Dogfennau ategol: