Penderfyniad:
Cofnod:
Estyniad unllawr
a) Amlygodd y Rheolwr Datblygu
mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad unllawr ar
flaen tŷ unllawr. Adroddwyd y byddai’r
datblygiad yn cynnwys ymestyn modurdy presennol, sy'n ffurfio rhan integredig
o'r tŷ, 1.5m yn ei flaen. Byddai’r elfen newydd yma gyda tho brig, 3.8m o
uchder (1.2m yn is na brig to'r tŷ ei hun)
gyda drws garej ar ei flaen.
Nodwyd bod yr eiddo yn un o res o dai ar wahân gerllaw ffordd ddosbarth
2 y B4413 mewn ardal anheddol o fewn ffin datblygu Pentref Arfordirol - Gwledig
Aberdaron fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd ac Ynys Môn; Yr
eiddo hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig a Thirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.
Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ar gais y cyn aelod lleol, y
Cynghorydd W Gareth Roberts, oedd yn gwrthwynebu cais ar sail effaith weledol y
datblygiad ar y strydwedd ac oherwydd pryderon
ynghylch yr effaith mwynderol ar gymdogion.
Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 3 y CDLL sy'n datgan bod disgwyl i bob cynnig
arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun yr
amgylchedd adeiledig o gwmpas. Yn yr achos hwn, wrth ystyried graddfa, dyluniad
a deunyddiau'r estyniad, ystyriwyd mai
bychan iawn fyddai'r newid i edrychiad y safle o'i gymharu â'r tŷ
presennol ac na fyddai unrhyw niwed i ansawdd adeiledig yr eiddo'n deillio o'r
datblygiad. Nodwyd y gellid gosod amodau yn sicrhau bod y deunyddiau a
ddefnyddir yn gweddu gweddill y tŷ.
Yn ogystal, adroddwyd, er y byddai peth cynnydd yn swmp yr adeilad
ynghyd ag ymestyniad o'r "llinell adeiladu" yn ei flaen ychydig, nid
oes unrhyw batrwm adeiladu pendant i ddatblygiadau yn yr ardal ac oherwydd mai
bychan yw’r newid a byddai’r cynnig yn parchu cyd-destun adeiledig y safle ac
yn gweddu gyda’r ardal o gwmpas. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynllun a
gyflwynwyd, oherwydd ei raddfa, deunyddiau a dyluniad, yn gweddu’n briodol
gyda'r eiddo presennol ac felly’n cydymffurfio gydag anghenion polisi PCYFF 3.
Er bod y safle’n gorwedd o fewn yr AHNE, ac o ystyried ei leoliad
trefol, ni fyddai’r bwriad dan sylw yn effeithio ar gymeriad tirwedd yr
AHNE. Yn yr un modd ni ystyriwyd y bydd
niwed i'r Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol - y bwriad yn dderbyniol
dan ofynion Polisïau AMG 1 ac AT 1 y CDLl.
b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Ei fod yn cytuno’n llwyr gyda sylwadau’r cyn Cynghorydd
·
Nid ‘angen’ i ehangu sydd yma ond perchennog yn dewis ymestyn ar
gyfer storio cwch a thractor yn ei ail dŷ. Addasiad ’yn ddymunol’ ar gyfer
‘hamddena’ - does dim ‘angen’ yma
·
4 byngalo rhwng capel ac ysgol – dyma’r
strydwedd
·
Byddai’r addasiad yn ddolur llygad - yn sefyll allan ac uchder y
to yn creu effaith ar fwynderau cymdogion gan gwtogi golau naturiol
·
Bod y capel wedi ei drosi gan gadw
cymeriad
·
Digon o siediau amaeth yn cynnig
lloches i dractor a / neu gwch
·
Y bwriad yn adlewyrchu plot ‘diwydiannol’ yn creu ‘uned ddiwydiannol’ ar gyfer
dibenion yr ymgeisydd heb unrhyw ystyriaeth i eraill - garej eisoes ar y safle
·
Bod estyniad storio ar y safle – heb hawl
cynllunio
·
Byddai caniatáu yn gosod cynsail
beryglus gyda chymeriadau tai Aberdaron yn cael eu colli am byth
c) Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle
PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn cynnal
ymweliad safle
Dogfennau ategol: