Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er
mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys
cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
Cofnod:
Cais llawn i
newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain,
codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled
cysylltiedig, ail wynebu a mynediad
a) Cyflwynodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ei adroddiad yn dilyn
cyfeirio penderfyniad Pwyllgor 13/06/22 i gyfnod o gnoi cil.
Amlygwyd y risgiau i’r Cyngor o ganiatáu’r cais ynghyd ag opsiynau i’r
Pwyllgor. Roedd y swyddogion yn nodi’n glir fod rhinweddau’r cais wedi cael eu
hasesu yn drylwyr gan swyddogion y Cyngor oedd yn argymell yn gadarn fod y cais
yn cael ei wrthod gan nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
mabwysiedig Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, canllawiau lleol a
chenedlaethol a pholisïau cynllunio cenedlaethol na’r Cynllun Rheoli AHNE.
Nodwyd, er
y byddai’n debygol y gall peth tirlunio ychwanegol gyfrannu at gysgodi’r safle
i raddau dros amser, ni ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol gan fod caniatáu
datblygiadau newydd o fewn dynodiadau wedi eu gwarchod fel yr AHNE, yn gwbl
groes i egwyddorion cynllunio lleol a chenedlaethol a hefyd cynllun rheoli'r
AHNE. Hyd yn oed o geisio cyfiawnhau'r datblygiad o safbwynt materion
economaidd, mae’r polisïau a’r arweiniad yn glir yn nodi’r angen i warchod
tirlun o werth cenedlaethol fel a geir yma rhag datblygiadau pellach fyddai’n
effeithio ar fwynderau gweledol yr ardal.
b) Roedd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Gareth Tudor Jones, wedi ymddiheuro nad oedd yn gallu
bod yn bresennol. Darllenodd y Cadeirydd ei sylwadau:
·
Wedi defnyddio’r cyfnod ‘cnoi cil’ i
ail edrych, i ail ystyried ac i ail ddarllen yr holl ddogfennaeth oedd ynghlwm
â’r cais.
·
Wedi pwyso a mesur yn ofalus y dadleuon
o blaid ac yn erbyn ei fod yn gwbl dawel ei feddwl y dylid caniatau’r
cais a’i fod yn cefnogi barn y gymuned leol.
·
Cymdogion agosaf yn gwbl gefnogol i’r
cais a’r gymuned leol hefyd yn unfrydol o blaid maes carafanau. Felly hefyd
Cyngor Cymuned Tudweiliog.
·
Bod 317 o bobl wedi arwyddo deiseb gan
gynnwys perchnogion y Post a’r Lion yn Nhudweiliog sy’n gweld budd i’r economi leol. (Ni
chrybwyllir cymaint yw maint y ddeiseb yn yr adroddiad).
·
Does dim un llais yn gwrthwynebu ac mae hynny yn beth anarferol
iawn y dyddiau hyn gyda cheisiadau cynllunio
·
O safbwynt mater allweddol gwarchod yr amgylchedd, y dirwedd a’r
tirlun, mae ‘Cyfoeth Naturiol Cymru’ a swyddogion ‘AHNE’ yn fodlon cefnogi’r
cais ar yr amod y caiff y carafanau eu cuddio gyda chloddiau pridd a gwrychoedd
hyd y terfynau.
·
Bod teulu Tyddyn Isaf fel perchnogion
cyfrifol wedi dangos eu hymrwymiad diwyro a chlir i wella’r amgylchedd trwy
dalu am arbenigwr tirlunio rhyngwladol i forol y bydd y safle wedi’i dirlunio
yn effeithiol. Mae’n dirwedd heriol ond bod posib tyfu coed a gwrychoedd mewn
byr o dro a sicrhau na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar fwynderau
gweledol yr AHNE
·
Yn pwyso ar y Pwyllgor i ganiatau y cais. Ar adeg anodd o gynnydd mewn costau byw
a’r economi wledig yn gwegian, dyma gyfle i roi dyfodol gwell i deulu lleol o 5
fel y gallant aros yn Nhudweiliog
a chyfrannu i’w cymuned.
c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad gan nodi
bod angen i’r ymgeisydd gydymffurfio gyda’r Cynllun Tirweddu
PENDERFYNWYD:
Caniatáu gydag amodau
1. 5 mlynedd.
2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
3. Nifer o unedau.
4. Cadw cofrestr a defnydd gwyliau yn
unig.
5. Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31
Hydref.
6. Dim cadw'r unedau ar y safle y tu allan i'r tymor
7. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i
fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith
Gymraeg.
8. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad
Ecolegol Cychwynnol
9. Tirweddu
10. Deunyddiau a gorffeniadau'r bloc amwynder
Dogfennau ategol: