Cais i godi adeilad i storio dodrefn ardd
ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio
agored ac estyniad i'r faes parcio cwsmeriaid presennol
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle
Cofnod:
Cais i godi adeilad
i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu
dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r maes parcio cwsmeriaid presennol
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
ymestyn canolfan arddio Fron Goch drwy godi adeilad i storio dodrefn ardd
ynghyd a gofod cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored.
Byddai'r adeilad yn mesur 46.2 medr o hyd (yn ei fan hiraf), 22.7 medr o led a
7.8 medr i ran uchaf y to yn gwneud cyfanswm o 977 medr sgwâr. Bwriedir hefyd
ymestyn y lle parcio ceir cwsmeriaid presennol ynghyd a chreu ardal storio yn
mesur 1452 medr sgwâr a leolir rhwng yr adeilad bwriededig
a therfyn newydd de orllewinol y safle.
Gan fod defnydd manwerthu yn bodoli eisoes ar y
safle awgrymwyd y dylid ystyried egwyddor y bwriad yn erbyn Polisi MAN6
(Manwerthu yng nghefn gwlad). Yn unol â pholisi MAN6, caniateir cynigion ar gyfer
siopau ar raddfa fechan ac estyniadau i siopau presennol sydd tu allan i’r ffin
datblygu, cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf y polisi.
Amlinellir yn y maen prawf cyntaf y dylai’r
bwriad fod yn elfen israddol o fusnes presennol ar y safle. Datgan yr
eglurhad i Bolisi MAN 6 mai’r lleoliad mwyaf addas i siopau yw o fewn ffiniau
aneddiadau trefi a phentrefi. Fodd bynnag, gall siopau ar raddfa fechan sy’n
cael eu rhedeg ar y cyd a busnes sydd eisoes ar y safle yn debygol o ddarparu gwasanaeth
a chyflogaeth ddefnyddiol i gymuned wledig.
Wedi pwyso a mesur y bwriad yng
nghyd-destun y polisïau perthnasol ni ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w
ganiatáu oherwydd bod lleoliad, dwysedd, y cynnydd mewn maint yn afresymol ac y
byddai'r bwriad yn cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr
ardal sydd yn groes i sawl polisi. Yn ychwanegol nid yw’n glir os yw’r effaith
ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol yn dderbyniol ac ni ystyriwyd fod cyfiawnhad am y golled o dir
amaethyddol fyddai’n deillio o’r bwriad.
Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl
faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd fod y bwriad yn cyfarfod amcanion
polisïau cynllunio.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd bwriad diddymu
coed – coed onnen gydag afiechyd fyddai’r unig rai fydd yn cael eu dymchwel
gyda bwriad i blannu a thyfu mwy.
·
Y bwriad yn ymateb i faterion Iechyd a Diogelwch: Nwyddau trwm -
llai o gyflenwadau, ond llwythau mwy ac felly angen gwneud mwy o le storio ar
eu cyfer a chreu maes parcio ychwanegol i gwsmeriaid
·
Nad oes lle yn y ganolfan ar gyfer storfa ac nid oes modd lleoli
storfa yn agosach i’r prif adeilad – ni ddylid ei ystyried fel busnes ar wahân
·
Sefydlwyd y busnes yn 1981
- wedi blaenoriaethu agweddau cefn gwlad
·
Y busnes bellach yn cyflogi 102 o weithwyr: yn sicrhau cydbwysedd
amgylcheddol a chymunedol - yn cyflawni gwaith yn lleol gydag ysgolion,
cynghorau lleol ac yn cefnogi prosiectau lleol.
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn gefnogol i’r cais
·
Bod y busnes yn gynhenid a safonol – yn cael ei reoli yn gyfrifol,
yn chwaethus ac yn boblogaidd yn lleol a
chenedlaethol
·
Bod rhaid ymestyn i gystadlu gyda siopau mawr
·
Yn cyflogi yn lleol ac yn gyflogwr arwyddocaol. Angen ystyried y
budd economaidd
·
Bod y Gymraeg yn glywadwy ac yn weladwy ar y safle
·
Hyderus y byddai’r ymgeisydd yn ymateb i ofynion gwarchod
rhywogaethau coed cynhenid
·
Bod datblygiad sylweddol eisoes ar y safle - methu derbyn y byddai
adeilad newydd yn cael effaith ar gefn gwlad a mwynderau trigolion cyfagos
·
O ran trothwy technegol - datblygiad mawr’ - mewn pentref efallai,
ond hwn mewn cefn gwlad
·
Angen lle parcio ychwanegol i resymoli gyda gofynion iechyd a
diogelwch
·
Colled tir amaethyddol – sylw mai perchnogion y safle sydd yn
berchen y tir yma ac nid yw’n cael ei ddefnyddio fel tir amaeth
·
Cynnig caniatáu i ddatblygu’r safle mewn modd cyfrifol at ddefnydd lleol
·
Cymorth sydd ei angen ar fusnesau ac nid rhwystrau
ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd cynnal ymweliad safle
PENDERFYNWYD: Cynnal ymweliad safle
Dogfennau ategol: