I dderbyn sylwadau’r aelodau
ar y trefniadau croesawu yn dilyn Etholiad Mai 2022.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a chyflwyno sylwadau ar y trefniadau croesawu yn dilyn
Etholiad Mai 2022.
COFNODION:
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad a chyflwyno sylwadau ar y
trefniadau croesawu yn dilyn Etholiad Mai 2022.
Cyflwynwyd crynodeb o’r trefniadau a ddatblygwyd ar gyfer croesawu
Cynghorwyr newydd yn dilyn Etholiad 2022. Tywyswyd yr Aelodau drwy’r adroddiad
gan fanylu ar drefniadau’r Diwrnod Canlyniadau, Diwrnod Croeso a’r Rhaglen
Hyfforddiant.
Adroddwyd bod sylwadau cadarnhaol wedi eu derbyn
ar y cyfan gyda rhai gwersi wedi eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Eglurwyd bod dau
ddiwrnod croeso wedi ei gynnal ar y 10fed a’r 11eg o Fai
gyda 5 o Aelodau yn ymuno’n rhithiol dros y ddau ddiwrnod. Derbyniwyd sylwadau
positif am y trefniadau hyn. Llwyddwyd i gyflwyno’r brif wybodaeth
angenrheidiol i’r Aelodau gan ddosbarthu Llawlyfr gafodd ei ddatblygu gan y
Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith fel adnodd cyfeirlyfr a threfnu darpariaeth
TG ar gyfer yr holl Aelodau. Cydnabuwyd bod heriau wedi bod yn ystod y diwrnod
croeso cyntaf oherwydd problem cyswllt wi-fi mewn
ystafell gyfarfod. Serch hyn cafodd y trefniadau eu haddasu erbyn yr ail
ddiwrnod ble llwyddwyd i ddarparu cyfarpar TG heb unrhyw oedi i’r Aelodau.
Manylwyd ar y sesiynau rhithiol gan bob
Pennaeth Adran gafodd eu cynnal oedd yn rhoi cyfle i’r Aelodau dderbyn
cyflwyniad am waith yr Adrannau yn ogystal â chyfle i holi unrhyw gwestiwn.
Ategwyd bod y sesiynau hyn wedi cael eu recordio ac ar gael ar y Fewnrwyd
Aelodau.
Ychwanegwyd bod yr amserlen wedi bod yn
heriol rhwng y diwrnod canlyniadau a’r Diwrnod Croeso/Cyfarfod cyntaf y Cyngor
gyda llawer o waith a thybiwyd y byddai angen addasu’r elfen yma i’r dyfodol.
Credwyd hefyd y byddai angen pennu diwrnod neu ddyddiad penodol ar gyfer
materion TG sef i ddewis, derbyn a gosod cyfarpar.
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol:
-
Diolchwyd am y gwaith o baratoi
Aelodau ac am yr ymdrech gan Swyddogion i alluogi Aelodau i fynychu cyfarfodydd
o bell sydd wedi arbed amser teithio.
-
Gwnaethpwyd sylw bod y Diwrnod Canlyniadau yn wych gyda
digon o wybodaeth yn cael ei roi i Aelodau heb eu gorlwytho a mynegwyd sylwadau
positif am y Diwrnod Croeso.
-
Ategwyd yr hyn a nodwyd yn yr
adroddiad am yr oedi gyda darpariaeth TG
yn ystod y Diwrnod Croeso cyntaf a thybiwyd y dylai’r elfen hon fod ar ddiwrnod
ar wahân.
-
Mynegwyd gwerthfawrogiad bod y sesiynau penaethiaid wedi
cael eu recordio. Gwnaethpwyd ambell sylw bod y sesiynau oedd yn cael eu cynnal
am 4yh yn gweithio’n well o gymharu â’r sesiynau oedd yn cael eu cynnal yn y
bore.
-
Mynegwyd sylw bod bocs canlyniadau ward penodol yn ymddangos yn araf yn cael ei gyfri a
theimlwyd y gellir bod wedi dechrau ar y cyfri yn gynt yn yr achos hwnnw.
Awgrymwyd y dylid cael mwy o hyblygrwydd o ran y cyfri ar y Diwrnod Canlyniadau
yn y dyfodol.
-
Nodwyd fod teimlad bod y cardiau
pleidleisio wedi cael eu hanfon allan yn gynamserol a dylid bod wedi aros tan ar
ôl y cyfnod enwebu er mwyn arbed arian ac i osgoi dryswch ymysg rhai o’r
cyhoedd oedd heb etholiad yn eu ward.
-
Gofynnwyd am fanylion ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer
Cynghorwyr oedd wedi colli eu seddi neu Gynghorwyr oedd heb ail sefyll yn yr
Etholiad, h.y. bathodynnau, e-byst a pharhad gwaith ward.
-
Teimlwyd y dylid cynnig hyfforddiant ar y cyfarpar TG
newydd i Aelodau ac i ystyried cynnig sesiynau TG. Mynegodd un Aelod ei fod
eisoes wedi derbyn hyfforddiant un i un ac yn brolio’r gefnogaeth hon.
-
Credwyd nad oedd digon o sôn am sut i hawlio costau yn
ystod y Diwrnod Croeso. Gofynnwyd i e-bost gael ei anfon at yr holl Aelodau
newydd efo canllawiau ar sut i gwblhau’r ffurflenni hawlio costau / lwfansau.
-
Mynegwyd rhwystredigaeth am ddiffyg cyfathrebu gan y Parc
gan nodi fod e-byst ddim yn cael eu hafon at Aelod sydd a’i ward o fewn
finiau’r Parc.
-
Broliwyd y ffurflen bapur efo manylion cyswllt Prif
Swyddogion y Cyngor ond holwyd os oedd modd diweddaru’r ffurflen yma pan fydd
symudiadau swyddi. Credwyd y dylai Aelodau gael eu diweddaru pan fydd
swyddogaethau / staff yn newid er mwyn iddyn nhw addasu eu ffurflen bapur.
-
Holiwyd pryd fydd y sgrinia i
gyd-fynd a’r gliniaduron newydd yn cael eu dosbarthu i Aelodau. Soniwyd hefyd
am broblem lawr lwytho dogfennau o’r cyfarpar newydd.
Mewn ymateb i’r sylwadau:
-
Nodwyd y byddai’r Gwasanaeth Democratiaeth yn pasio
sylwadau’r Aelodau ymlaen i’r tîm Etholiadau ar gyfer ystyriaeth at yr Etholiad
nesaf i weld beth fydd yn bosib. Ychwanegwyd efallai bod rhai pethau wedi
gorfod digwydd mewn ffordd benodol i ddilyn proses a chyd-fynd a gofynion
cyfreithiol.
-
Ategwyd bod lefel hyder a gallu Aelodau yn amrywio yn
enwedig os wedi derbyn cyfarpar newydd a gwahanol; anogwyd yr Aelodau i
gysylltu efo Cara Williams neu Ken Richardson am sesiynau hyfforddiant pellach.
Ychwanegwyd bod Ken yn cynnig sesiynau un i un.
-
Nodwyd bod e-bost wedi ei anfon
at bob Cynghorydd oedd yn ail sefyll yn yr Etholiad yn egluro beth
fyddai’n digwydd yn sgil trefniadau
cyflogau a chyfrifon TG petaent yn colli eu sedd. Cydnabuwyd efallai bod y
neges hon heb fod yn ddigon clir i Aelodau ac felly yn rhywbeth pellach i’r
Gwasanaeth fod yn edrych arno i’r dyfodol pan fydd cyfnod unrhyw un yn dod i
ben. Ychwanegwyd bod gwaith yn digwydd yn y cefndir i gasglu’r ddarpariaeth TG
yn ôl gan y cyn-aelodau.
-
Adroddwyd bod cyfarwyddiadau ar
gyfer hawlio costau teithio wedi eu nodi yn y Llawlyfr i Aelodau. Nodwyd y gall
sesiwn gael ei gynnal cyn y cyfarfod Cyngor llawn nesaf yn yr Hydref pe tai
dymuniad gan Aelodau er mwyn cael cyfle i fynd drwy materion o’r fath.
-
Nodwyd y byddai’r Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac
Iaith yn cysylltu efo Swyddog y Parc i wneud ymholiadau ac y byddai’n croesawu
sgwrs y tu allan i’r cyfarfod hwn efo’r Aelod.
-
Adroddwyd bod yr Aelodau yn
derbyn bwletin wythnosol sy’n cynnwys
gwybodaeth pe bai newid ymhlith Rheolwyr y Cyngor. Eglurwyd bod
trefniadau ar waith i’r tîm cyfathrebu gysylltu ag Aelodau i’w hysbysu pe bai
newid mewn swyddogaethau o fewn y Cyngor er mwyn sicrhau bod yr Aelodau yn
derbyn diweddariad. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd i gadw golwg ar y Fewnrwyd
Aelodau.
-
Eglurwyd bod y monitors
ychwanegol wedi eu harchebu ers cyn yr Etholiad ond nid yw’r Uned TG wedi eu
derbyn eto. Bydd swyddogion o’r gwasanaeth TG yn cysylltu’n fuan.
Dogfennau ategol: