Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol i gyflwyno gwybodaeth am rôl y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth.
Penderfyniad:
Derbyn y wybodaeth am
rôl y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Derbyn y wybodaeth am rôl y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth.
Cyflwynwyd gwybodaeth gan Bennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol am rôl y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth gan
fanylu ar swyddogaethau’r Pwyllgor. Nodwyd bod adolygu’r gefnogaeth sydd ar
gael i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth allu cyflawni gofynion y rôl wedi
bod yn brif ffocws trafodaethau'r Pwyllgor hwn yn hanesyddol.
Manylwyd ar y ddarpariaeth a gynhigiwyd i
Aelodau dros gyfnod y Cyngor diwethaf a’r datblygiadau gafodd eu cyflawni megis
gwelliannau i’r Fewnrwyd Aelodau a’r gwaith oedd ynghlwm â chyfarfodydd
rhithiol ac aml-leoliad. Soniwyd am y mewnbwn a dderbyniwyd gan Aelodau i’r
trefniadau ar gyfer yr Etholiad a’r trefniadau croesawu Aelodau newydd cyn
symud ymlaen i ragweld materion fydd yn derbyn sylw dros y blynyddoedd nesaf
gan y Pwyllgor. Rhagwelir y bydd ffocws eleni ar y rhaglen hyfforddiant a
chyflwyniadau er mwyn sicrhau bod Aelodau yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol i
gyflawni eu rôl.
Tynnwyd sylw at y gwaith fydd yn parhau er
mwyn sicrhau cynnal cyfarfodydd aml-leoliad yn ogystal â gofynion newydd y
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sydd yn rhoi pwyslais ar
we-ddarlledu cyfarfodydd.
I gloi soniwyd am rai materion fydd yn cael
eu trafod yng nghyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn ym mis Tachwedd a phwysleisiwyd
pwysigrwydd cynnal deialog barhaus â’r Aelodau er mwyn sicrhau bod materion
perthnasol yn derbyn sylw. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod nhw’n cynrychioli
gweddill Cynghorwyr Gwynedd ac yn llais iddynt yn y Pwyllgor hwn. Anogwyd yr
Aelodau i gyflwyno unrhyw sylwadau neu bryderon rhwng cyfarfodydd.
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol:
-
Holwyd am fanylion ynglŷn â
phwynt 2.10 o’r adroddiad sef y ddyletswydd i gyhoeddi cynllun deisebu.
Gofynnwyd a oedd modd cynnwys hyn fel eitem ar agenda’r cyfarfod nesaf o’r
Pwyllgor.
-
Awgrymwyd y dylid cynnwys Cynghorwyr profiadol yn y
sesiynau anffurfiol i Gynghorwyr newydd fel eu bod yno i allu ateb cwestiynau a
gweithredu fel mentor.
-
Amlygwyd pwysigrwydd diogelwch yn enwedig ymysg
Cynghorwyr benywaidd.
-
Gofynnwyd a oedd modd darparu
adroddiad neu dempled o sut i ymateb i gwynion yn effeithiol yng nghyfarfod
nesaf o’r Pwyllgor hwn.
-
Cwestiynwyd pam bod Aelodau yn methu argraffu o’u
dyfeisiadau newydd.
Mewn ymateb i’r sylwadau:
-
Eglurwyd mai gofyniad yn y Ddeddf
ydyw i gyhoeddi canllawiau ar gyfer sut i gyflwyno deisebau. Nodwyd y bydd
grŵp gweithredol yn cael ei sefydlu’n yn fuan i ymgymryd â’r gwaith hwn.
-
Nodwyd bydd y sesiynau i
Gynghorwyr yn cael eu trefnu o dan y prosiect Merched Mewn Arweinyddiaeth.
Adroddwyd bod sesiwn eisoes wedi ei gynnal yn y chwe mis diwethaf, arweiniwyd y
sesiwn yma gan Gynghorydd profiadol. Gobeithiwyd y gall hyn ddigwydd mwy a mwy
yn y dyfodol ac ychwanegwyd os bydd galw, bydd sesiynau tebyg i ddynion yn cael
eu cynnal.
-
Cytunwyd â’r sylw am bwysigrwydd
diogelwch a llesiant gan nodi bod trafodaethau cyfredol rhwng cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru am faterion diogelwch felly mae’r
mater yn derbyn sylw Cenedlaethol. Adroddwyd bod bwriad i Lywodraeth Cymru
sefydlu gweithgor gyda chynrychiolaeth o wahanol sefydliadau megis yr Heddlu,
Ombwdsmon ac Aelodau Etholedig i edrych ar arferion da yn y cyd-destun hwn.
Ychwanegwyd bod cymorth eisoes ar gael gan y Cyngor i gynghori staff a
Chynghorwyr ar faterion diogelwch, gellir cael mynediad i’r cynghorion hyn ar y
Fewnrwyd Aelodau. Cytunwyd i anfon linc i’r wybodaeth yma at yr Aelodau yn
dilyn y cyfarfod hwn ac i adeiladu ar hynny pan fydd y Pwyllgor yn cael
trafodaeth ar y mater yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
-
Cytunwyd i anfon linc am beth
sy’n cael ei wneud gan y Cyngor yn sgil ymateb a delio â chwynion gydag
adolygiad neu sgwrs bellach ar y pwnc i gael ei gynnal yng nghyfarfod mis
Tachwedd.
-
Bydd materion am broblemau’r dyfeisiadau newydd yn cael
eu trafod efo’r Uned TG ac atgoffwyd yr Aelodau i dynnu unrhyw faterion i sylw
Swyddogion.
Dogfennau ategol: