Agenda item

I ddarparu trosolwg o Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru 2022 ac i geisio cefnogaeth y Pwyllgor i gymeradwyaeth yr Adroddiad gan y Cabinet a’r Cyngor.

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth.

b)    Mynegi cefnogaeth y Pwyllgor i gymeradwyaeth yr adroddiad gan y Cabinet a’r Cyngor.

 

Cofnod:

Derbyniwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn nodi pwysigrwydd y ddogfen hon a pha mor ddefnyddiol ydyw. Adroddwyd bod yr adroddiad yn mynd law yn llaw a’r Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru gafodd ei graffu nôl ym mis Chwefror gan y Pwyllgor oedd yn edrych ar yr anghenion gofal a chymorth. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn ymateb i’r Asesiad Anghenion trwy fesur beth sydd eisoes mewn lle yng Ngogledd Cymru i ymateb i’r gofynion ac yn cwestiynu os yw’r ddarpariaeth sydd mewn lle yn ddigonol.

 

Adroddwyd y bydd yr Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru yn mynd i’r Tîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet cyn mynd i’r Cyngor Llawn ar gyfer cymeradwyaeth. Ychwanegwyd ei bod yn ddogfen ranbarthol sydd yn dangos tueddiadau ar draws y Gogledd yn ogystal â negeseuon lleol i Wynedd. Diolchwyd i swyddogion yr Adran am eu gwaith caled o fewn amserlen dynn gan nodi y bydd yr adroddiad yn parhau i fod yn ddogfen fyw fydd yn cael eu haddasu ac o ganlyniad yn ddogfen ddefnyddiol iawn. Cymerwyd y cyfle hefyd i longyfarch y Cynghorydd Eryl Jones-Williams ar dderbyn Cadeiryddiaeth y Pwyllgor hwn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Tîm Prosiectau Oedolion, Iechyd a Llesiant gan nodi bod yr Adroddiad yn un eang iawn sy’n ymdrin â’r gwasanaethau i oedolion ac i blant gyda negeseuon pwysig yn cael eu cyfleu. Mae’r adroddiad yn ymdrin â nifer o themâu meis gofal preswyl a nyrsio, mabwysiadu, maethu a gwasanaethau gofal cartref, yn ogystal ag agweddau yn ymwneud a darpariaeth llety diogel. Nodwyd bod yr adroddiad hefyd yn sôn am wasanaethau arbedol a’n cydnabod eu pwysigrwydd er mwyn lleihau pwysau ar y gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio.

 

Eglurwyd ei bod yn ofynnol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i lunio’r adroddiad ac y bydd yn cael ei ddiweddaru dros y misoedd nesaf a’i gadw’n gyfredol. Ymhelaethwyd ar y negeseuon am Wynedd sydd wedi eu nodi yn rhan 5 o’r Adroddiad a’r rhagfynegiadau am y cynnydd fydd ei angen yn y gofal a’r ddarpariaeth sydd ar gael dros y blynyddoedd nesaf. I gloi nodwyd bod yr hyn a gyflwynwyd yn ymgais i grynhoi'r prif negeseuon sy’n berthnasol i Wynedd ac y bydd yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yn cael ei gyhoeddi yng Ngogledd Cymru ar ôl cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ym mis Hydref.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Mynegwyd diolch a gwerthfawrogiad i’r Swyddogion oedd wedi llwyddo i gwblhau’r adroddiad yn erbyn terfyn amser tynn.

·         Nodwyd ei bod yn ddiddorol gweld yn yr adroddiad sut mae Cynghorau unigol y Gogledd yn delio â phroblemau.

·         Holiwyd am ddiweddariad ynghylch taliadau uniongyrchol gan nodi nad oedd gwybodaeth am Wynedd yn yr adroddiad.

·         Gwnaethpwyd sylw bod tueddiad i gyffredinoli’r maes Oedolion fel gwasanaeth ar gyfer yr henoed yn unig; teimlwyd bod tueddiadau i sôn am yr henoed wrth drafod cartrefi cefnogol gan anghofio am eraill sy’n derbyn y ddarpariaeth. Mewn ymateb nododd y Pennaeth Adran bod hyn yn adlewyrchu maint y gwasanaeth ar gyfer yr henoed a sicrhawyd bod pob elfen o’r maes Oedolion yn derbyn sylw.

·         Mynegwyd pryder am y diffyg darpariaeth Gymraeg o fewn y meysydd Awtistiaeth ac Iechyd Meddwl yng Ngwynedd a phwysleisiwyd pwysigrwydd derbyn y darpariaethau hyn yn Gymraeg. Credwyd bod cyfle yma i gynnig darpariaeth arbenigol Gymraeg ac efallai y gall Siroedd eraill fanteisio ar y ddarpariaeth.

·         Arsylwyd bod galw am ofal arbenigol dementia yn y Sir ond nad oes darpariaeth ar gael yn Llŷn nac Meirionnydd oedd yn peri pryder. Ychwanegwyd hefyd bod Unedau yn methu cynnig lleoliadau sy’n wag oherwydd prinder staff arbenigol. Holiwyd beth yw’r bwriad i ddelio â hyn ac os bydd digon o staff ar gael yn y dyfodol agos ac ar gyfer y datblygiadau newydd fydd yn agor ym mis Hydref. Cwestiynwyd hefyd os yw’r prinder staff wedi arwain at leoliadau gwag mewn cartrefi gofal a phreswyl.

·         Gwnaethpwyd sylw am faterion ieithyddol a pha mor bwysig ydyw i breswylwyr dderbyn gwasanaeth yn eu hiaith ddewisol. Ychwanegwyd fod yn hyn broblem pan mae lleoliadau y tu allan i ardal yn digwydd a’i fod yn gwneud gwahaniaeth i’r gofal sy’n cael ei dderbyn. Credwyd bod angen mwy o ddarpariaethau yn Ne Meirionnydd yn ogystal â gweddill y Sir.

·         Cydnabyddwyd bod y maes gofal yn un heriol o ystyried bod oedran poblogaeth y Sir ynghyd a Siroedd eraill yn mynd yn hŷn. Credwyd bod lle i Gyngor Gwynedd ymgymryd â’r heriau ond bod hefyd angen i’r Llywodraeth geisio ymateb i’r heriau hyn.

·         Gwnaethpwyd sylw bod angen cynllunio ymlaen llaw a chyfeiriwyd at yr adroddiad oedd yn nodi bod 15 Rheolwr yn llai o fewn y maes Gofal ar draws rhanbarth y Gogledd y flwyddyn diwethaf o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nodwyd hefyd bod 230 allan o 310 o’r Rheolwyr ar draws Gogledd Cymru dros 51 oed. Gofynnwyd sut mae Cyngor Gwynedd yn cymharu efo’r sefyllfa yma a beth yw ymateb y Cyngor i ddelio a’r sefyllfa. Holiwyd sut mae’r Cyngor yn bwriadu denu staff newydd a datblygu Rheolwyr ar gyfer y dyfodol.

·         Mynegwyd bod y sefyllfa staffio yn fregus iawn; cymerwyd y cyfle i gydnabod y gwaith mae staff Gwynedd yn ei wneud a’r ymdrechion i gadw staff a cheisio denu staff.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Bod unrhyw un sy’n derbyn gofal i fod i dderbyn y cynnig i dderbyn taliadau uniongyrchol i dalu am eu gofal. Cydnabyddwyd bod y nifer sy’n derbyn taliadau uniongyrchol yn isel yng Ngwynedd; tybiwyd fod hyn yn rhannol oherwydd cymhlethdod y broses. Adroddwyd bod gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i symleiddio’r broses a dros y ddwy flynedd nesaf bwriedir edrych ar wahanol opsiynau gan gynnwys mewnoli’r gwasanaeth. Cadarnhawyd y bydd manylion yn cael eu pasio i aelodau er mwyn iddynt allu eu rhannu efo teuluoedd sy’n ymholi mor fuan a fu’n bosib pan fydd y gwaith diweddaru wedi ei gwblhau.

·         Cytunwyd â’r sylw ar bwysigrwydd darparu gwasanaeth a darpariaeth Gymraeg gan nodi bod hyn yn allweddol ond nad yw hyn wastad yn hawdd. Nodwyd bod angen sicrhau bod dewis iaith ar gael i unigolion, yn enwedig unigolion sydd yn dioddef o ddementia.

·         Soniwyd am y rhaglen buddsoddi gan gyfeirio at y gyfres o gyflwyniadau gafodd eu cynnal i aelodau blwyddyn a hanner yn ôl i roi darlun ar faint o fuddsoddi sydd wedi cael eu gwneud ar draws y Sir. Nodwyd yn y saith mlynedd diwethaf bod y Cyngor wedi llwyddo i ddyblu nifer o wlâu Unedau dementia yn y Sir. Credwyd bellach bod angen dyblu’r niferoedd sydd ar gael eto i allu cwrdd â’r galw presennol.

·         Adroddwyd ar y buddsoddiadau sylweddol sydd ei angen ar gyfer gwireddu’r cynlluniau gan nodi nad yw’n hawdd canfod yr arian ar gyfer adeiladau/cyfalaf a’r refeniw sydd ei angen i redeg gwasanaethau. Nodwyd bod y Cyngor wedi buddsoddi llawer ac y dylid bod yn falch o’r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma ond eglurwyd y bydd angen rhagor o fuddsoddiad cyfalaf a refeniw dros y blynyddoedd nesaf.

·         Ychwanegwyd y bydd Darpariaeth Gofal Dementia yn cael ei graffu gan y Pwyllgor hwn cyn y Nadolig ac y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno bryd hynny ar y darlun presennol ac yr anghenion a ragwelir.

·         Soniwyd am y buddsoddiadau a ganlyn ym Meirionnydd:

o   Bryn Blodau – Yr uned yn barod ond heb agor eto oherwydd materion cofid a’r methiant i recriwtio staff gofal digonol. Arweiniai hyn at 9 gwely gwag yn yr uned ar gyfer dementia sydd yn sefyllfa anffodus.

o   Hafod Mawddach – Y buddsoddiad ar yr estyniad wedi ei gwblhau ac wedi llwyddo i recriwtio staff ond yn brin o staff achlysurol / staff cyfro. Gobeithir gallu agor yr uned ym mis Medi.

o   Cefn Rodyn – Adroddwyd ei bod yn anodd gwneud y newidiadau oedd wedi eu bwriadu oherwydd natur y lleoliad a’r adeilad. Buddsoddiad yma i ddarparu gwasanaethau mwy dwys ond heb fod yn Uned dementia. Nodwyd bod gwlâu gwag yng Nghefn Rodyn ar hyn o bryd oherwydd bod y lifft wedi torri. Gobeithir y bydd y lifft wedi ei drwsio erbyn diwedd yr haf.

·         Ychwanegwyd bod y darlun uchod am sefyllfa Meirionnydd yn gyffredinol yn adlewyrchiad teg ar gyfer y sefyllfa ar draws gweddill y Sir; nodwyd bod yr her o gael capasiti staff digonol i lenwi gwlâu yn un anodd ac nid yn broblem sy'n unigryw i Wynedd.

·         Cyfeiriwyd at Lys Cadfan a’r llwyddiannau cychwynnol ond ychwanegwyd bod pwysau wedi bod yn ddiweddar oherwydd absenoldebau staff sydd wedi creu anawsterau a heriau i gynnal gwasanaethau. Nodwyd bod y sefyllfa recriwtio yn y maes yn heriol ac yn amrywio rhwng ardaloedd o fewn y Sir.

·         Eglurwyd bod yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad am sefyllfa staffio, yn benodol rheolwyr, ar draws Gogledd Cymru yn debyg i’r sefyllfa yng Ngwynedd. Tybiwyd bod ymhell dros dreian o’r gweithlu gofal yn ei gyfanrwydd dros 55 oed yng Ngwynedd., arweiniai hyn at risg o golli staff. Mynegwyd bod y gwasanaeth gofal yn wynebu cyfnod heriol. Cytunwyd efo’r pwynt bod cyfran sylweddol o’r atebion i’r problemau hyn yn ddibynnol ar y Llywodraeth a’u blaenoriaethau o ran ariannu Llywodraeth Leol. Credwyd bod angen ymyrraeth bendant a chadarn yn fuan cyn i’r gwasanaeth gofal ddioddef ymhellach. Pryderwyd bod yr heriau o gynnal gwasanaethau yn effeithio ar y sawl sy’n derbyn gwasanaeth a’u teuluoedd a bod mater pellach o lesiant staff yn peri pryder oherwydd prinder a’r pwysau ar staff presennol. 

 

Adroddwyd y bydd copi terfynol o’r adroddiad wedi iddo dderbyn cymeradwyaeth ar draws chwe Cyngor y Gogledd yn ogystal ag Iechyd a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cael ei gyflwyno i’r Llywodraeth. Bydd yn cael ei fwydo fewn i’r Cynllun Ardal ynghyd a’r Asesiadau Anghenion; bydd popeth yn cael ei gyfuno er mwyn creu Cynllun Ardal ar gyfer Gogledd Cymru. Yna gall Gyngor Gwynedd benderfynu sut i ddefnyddio’r wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet ei ymddiheuriadau oherwydd bod rhai o’r copïau papur gafodd eu hanfon allan wedi bod yn anodd i’w deall oherwydd materion argraffu. Diolchodd i’r Cadeirydd am ei awgrym i ail argraffu’r papurau a’u hanfon allan unwaith eto.

 

Nodwyd mai'r argymhelliad yw i’r Pwyllgor gymeradwyo’r Adroddiad hwn cyn ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor. I gloi pwysleisiwyd pwysigrwydd y ddogfen gan nodi bod safon y cwestiynau gafodd eu holi yn ystod y cyfarfod yn dangos bod y ddogfen hon yn gallu llywio trafodaeth yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n wynebu’r Cyngor. Diolchwyd i’r Aelodau am eu cwestiynau ac i’r Swyddogion am eu hymatebion.

 

 

PENDERFYNIAD

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth.

b)    Mynegi cefnogaeth y Pwyllgor i gymeradwyaeth yr adroddiad gan y Cabinet a’r Cyngor.

 

 


Dogfennau ategol: