Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
Caniatawyd i’r Cyngor ymgymryd â’r rôl ‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG i berwyl cyflwyno’r ‘Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol’ sy’n ofynnol gan Lywodraeth y DG ar ran chwe sir Gogledd Cymru.
Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – gytuno gyda siroedd eraill y Gogledd ar drefniadau gweinyddu a gweithredu priodol fydd yn gwarchod buddiannau’r Cyngor.
Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned – mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr – gytuno ar gynnwys y ‘Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol’.
Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Sioned Williams.
PENDERFYNIAD
Caniatawyd i’r Cyngor
ymgymryd â’r rôl ‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG i
berwyl cyflwyno’r ‘Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol’ sy’n ofynnol gan Lywodraeth y
DG ar ran chwe sir Gogledd Cymru.
Awdurdodwyd i’r Pennaeth
Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth
Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – gytuno gyda siroedd eraill y
Gogledd ar drefniadau gweinyddu a gweithredu priodol fydd yn gwarchod
buddiannau’r Cyngor.
Awdurdodwyd i’r Pennaeth
Economi a Chymuned – mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, Pennaeth Cyllid a’r Prif
Weithredwr – gytuno ar gynnwys y ‘Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol’.
Awdurdodwyd i’r Pennaeth
Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth
Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – sefydlu trefniadau priodol ar
gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
gronfa hwn wedi ei lansio yn ôl ym mis Ebrill eleni, ac fod gofyn i’r rhanbarth
fod yn cyflwyno ar y cyd, ac yna fod yr arian yn cael ei ddyrannu i bob sir.
Mynegwyd fod dyraniad Gwynedd ar gyfer y
cyfnod hyd at Mis Mawrth 2025 yw £24.4miliwn. Eglurwyd er mwyn cael mynediad
i’r arian rhaid gwneud Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol. Nodwyd fod yr arian hwn
yn gronfa sydd yn rhan o becyn o gronfeydd sydd wedi ei lansio yn dilyn gadael
yr Undeb Ewropeaidd. Mynegwyd fod prosbectws wedi ei gynnwys sy’n amlygu fod
beth sydd yn gymwys yn eang tu hwnt. Pwysleisiwyd mai beth sydd yn cael ei
drafod heddiw yw’r camau sydd angen eu gwneud i dynnu’r arian i lawr i’r sir.
Mynegwyd fod yr adran wedi ceisio cysylltu a
rhan ddeiliaid ar draws y sir. Esboniwyd fod y partneriaid yn ymwybodol mai’r
trefniadau i dynnu’r arian i’r rhanbarth yw’r penderfyniad hwn gan y bydd gwahoddiad
i bartneriaid cynnig prosiectau o gwmpas mis Hydref.
Eglurwyd y bydd angen un corff arweiniol ar
ran y rhanbarth, a nodwyd fod Gwynedd wedi ei gynnig i ymgymryd a’r rôl a
chyflwyno’r cais ar ran y Gogledd. Nodwyd drwy wneud hyn mai Gwynedd fydd yn
gyfrifol am y gyllideb i holl siroedd y Gogledd. Pwysleisiwyd fod trafodaethau
yn parhau o ran model y bartneriaeth hon ynghyd a trefniadau gweinyddu a
gweithredu priodol.
Nododd y Swyddog Monitro fod gwaith wedi
dechrau o ran yr elfen gyfreithiol. Pwysleisiwyd nad yw’r model o’r Cyngor yn
arwain ar brosiectau yn un anghyffredin ond fod gwaith yn parhau i edrych ar
fodel a fydd yn gweithio i’r cynllun hwn.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd
balchder fod Gwynedd yn arwain ar gymaint o gynlluniau rhanbarthol.
¾ Nodwyd
fod y cynllun hwn yn un cymhleth, ac fod cwestiynau yn codi o ran y cynllun
gyda’r newid mewn arweinyddiaeth o fewn y blaid Geidwadol. Amlygwyd yn ogystal
fod Llywodraeth Cymru wedi datgan gwrthwynebiad i’r cynllun hwn.
¾ Eglurwyd
yr angen i Gyngor Gwynedd fod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn ceisio
cael yr arian i sicrhau y gorau i drigolion Gwynedd.
¾ Tynnwyd
sylw ar bwynt 3.8 yn yr adroddiad a oedd yn amlygu fod £4.2miliwn o’r cyfanswm
wedi ei warchod i gefnogi oedolion wella eu sgiliau rhifedd, holwyd am fwy o
fanylion. Eglurwyd fod yr arian ar gyfer gweithredu cynllun ar ran y
Llywodraeth, ac fod trafodaethau gyda partneriaid ar gyfer cynnal y cynllun.
Awdur:Sioned Williams
Dogfennau ategol: