Penderfyniad:
COFNODION:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu
Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini
prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy
sicrhau:
• Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y
cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod y
cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Miss A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am
gefndir yr arnodiadau ar y drwydded a’i hamgylchiadau personol. Cyfaddefodd nad
oedd wedi cyflwyno manylion ei chyfeiriad newydd i’r Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau nac o hysbysu’r Adran Drwyddedu am droseddau traffig
difrifol - nododd ei bod ar y pryd yn symud tŷ ac yn cydnabod yr
esgeulustod.
PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y
canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau
ar lafar ga yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Yn mis Ebrill 2020, derbyniodd yr ymgeisydd chwe
phwynt cosb am fethu a rhoi gwybodaeth am hunaniaeth y gyrrwr.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o
Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am
drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod
yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a
dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae
cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae
paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu
fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff
y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt
wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.2
yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau
mae MS90 (methu darparu gwybodaeth am hunaniaeth gyrrwr ac ati). Mae paragraff
12.3 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr
ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod y gollfarn o 2020
yn drosedd traffig difrifol i bwrpas y Polisi. Ystyriwyd methiant yr ymgeisydd i ddatgelu gwybodaeth yn unol â gofynion
y drwydded. Derbyniwyd eglurhad yr
ymgeisydd mai diffyg trefn oherwydd ei bod yn symud tŷ oedd y rheswm dros
y methiant i ddarparu’r wybodaeth ar y pryd.
Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon fod mwy na’r amser a nodir yn y Polisi (6
mis o leiaf) lle dylid gwrthod ceisiadau oherwydd troseddau o’r fath, wedi mynd
heibio.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais. Penderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat. Anogwyd yr ymgeisydd i ymddwyn yn gyfrifol a
chymryd gofal gan nad oedd y 6 pwynt oedd ar ei thrwydded yn dod i ben hyd
Ebrill 2023.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.