Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a
phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag
pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u
diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol ynghyd a thystysgrif feddygol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am
gefndir y troseddau ar y cofnod DBS a’i amgylchiadau personol. Amlygodd ei fod
wedi bod drwy gyfnod tywyll, anodd yn ei fywyd ond bellach wedi dod drwyddi.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymdrin â chwsmeriaid afresymol, anodd
o fewn amgylchedd cerbyd cyfyng nododd bod sgwrsio, bod yn agored a delio gyda
chwsmeriaid wedi bod yn rhan o’r gefnogaeth a dderbyniodd drwy sesiynau
therapi. Ategodd bod y dystysgrif feddygol yn amlygu ei fod yn bodloni safonau
meddygol
PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y
canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS a ffurflen feddygol
·
sylwadau ar lafar gan yr
ymgeisydd
·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Yn mis Ebrill 2013, cafwyd yr ymgeisydd yr ymgeisydd yn euog o drosedd o
guro sydd yn groes i’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1998 (A.39). Derbyniodd
rybudd cymunedol dan oruchwyliaeth, costau o £250 a chostau iawndal £150.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i
berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael
trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod
priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas
a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn
berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i
gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried
yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno
na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu
Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried
pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff
6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn
rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny
sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.2 yn nodi, bod unrhyw un
sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn annhebygol o gael
trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o'r fath am 3 blynedd o
leiaf. Fodd bynnag, o ystyried ystod y troseddau sy'n ymwneud â thrais, rhaid
rhoi ystyriaeth i natur y drosedd.
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn 2013 yn drosedd o drais i
bwrpas y Polisi a bod digon o amser wedi mynd heibio i’r trothwy tair blynedd
ers i’r ymgeisydd gael ei ddyfarnu'n euog. Ni chafwyd unrhyw euogfarnau dilynol
na blaenorol.
Ystyriwyd esboniadau’r ymgeisydd a’r rhesymau dros ei ymddygiad yn 2013 gan
dderbyn bod ei amgylchiadau yn wahanol iawn erbyn hyn. Ystyriwyd y dystysgrif
feddygol a oedd yn cadarnhau ei esboniad am ei gyflwr meddygol yn y gorffennol
ac nad oedd gan y meddyg unrhyw bryderon. Roedd yr ymgeisydd hefyd yn bodloni'r
meini prawf ffitrwydd meddygol i yrru ac wedi gweithio fel gyrrwr heb unrhyw
broblemau.
Penderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded
gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.