Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
a) Cefnogwyd y bwriad o dargedu Cronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cynlluniau Bywiogi Bangor, Llewyrch o’r Llechi, a Coridor Gwyrdd Ardudwy;
b) Awdurdodwyd i’r Pennaeth Cyllid ar y cyd a Phennaeth Economi a Chymuned a Phennaeth Amgylchedd i gytuno ar fanylion y ceisiadau, i arwyddo ceisiadau ac i arwyddo llythyrau cynnig, os yn llwyddiannus, ar gyfer cynlluniau Ffyniant Bro Gwynedd;
c) Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Amgylchedd a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo ceisiadau a llythyrau cynnig wrth dargedu pecynnau cyllidol llawn ar gyfer gwireddu y cynlluniau hyn.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Sioned Williams
PENDERFYNIAD
a) Cefnogwyd y bwriad o
dargedu Cronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cynlluniau
Bywiogi Bangor, Llewyrch o’r Llechi, a Coridor Gwyrdd
Ardudwy;
b) Awdurdodwyd i’r Pennaeth
Cyllid ar y cyd a Phennaeth Economi a Chymuned a Phennaeth Amgylchedd i gytuno
ar fanylion y ceisiadau, i arwyddo ceisiadau ac i arwyddo llythyrau cynnig, os
yn llwyddiannus, ar gyfer cynlluniau Ffyniant Bro Gwynedd;
c) Awdurdodwyd i’r Pennaeth
Economi a Chymuned, Pennaeth Amgylchedd a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo ceisiadau
a llythyrau cynnig wrth dargedu pecynnau cyllidol llawn ar gyfer gwireddu y
cynlluniau hyn
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod y gronfa hon yn un o gronfeydd Llywodraeth y DU a lansiwyd yn nol
ym mis Ebrill. Nodwyd llynedd fod y Cyngor wedi cyflwyno ceisiadau ond fod y
Cyngor wedi ei nodi yn band blaenoriaeth 3 – sef yr isaf o’r holl fandiau.
Eglurwyd bellach fod y dyraniad wedi newid yn dilyn achos gan y Cyngor yn
amlygu sefyllfa Gwynedd a bellach fod y Cyngor yn ardal blaenoriaeth 1.
Mynegwyd fod hyn wedi bod yn sbardun i fod yn ail edrych ar y sefyllfa ac fod
tri achos wedi cael eu hadnabod i’w cyflwyno.
Y prosiect cyntaf oedd Cynllun Bywiogi Bangor
sydd yn glwstwr o brosiectau i annog pobl i ganol Bangor. Eglurwyd fod hwb
iechyd yn ganolbwynt i’r cynllun wedi ei blethu gyda cynlluniau eraill megis
sefydlu Ysgol Feddygol yng nghanol y ddinas. Mynegwyd fod y buddsoddiad oddeutu
£40miliwn ac fod y cais am yr uchafswm posib sef £20miliwn.
Yr ail gynllun yw Coridor Gwyrdd Ardudwy,
cynllun yw hwn ble mae’r Pennaeth Amgylchedd wedi edrych a sylwadau a
dderbyniwyd am gynllun ffordd osgoi Llanbedr ac edrych ar sut mae modd i
ymgorffori elfennau o’r teithiau llesiant i’r cynllun. Mynegwyd drwy wneud hyn
roedd cyfle i adeiladau ar gynllun isadeiledd y ffordd ac i ychwanegu llwybr
teithio llesol sydd yn gyfle i wella a annog dulliau amgen o deithio. Eglurwyd
fod y pecyn cais hwn oddeutu £40miliwn.
Eglurwyd fod y trydydd cynllun Llewyrch o’r
Llechi yn adeiladu ar glustnodi dynodiad safle Treftadaeth y Byd. Mynegwyd fod
y cyfyngiad o 3 cod post ar gyfer cynlluniau ac o ganlyniad nid oes modd i’r
cynllun fod ar draws ardal y llechi. Ond drwy ganolbwyntio ar y dair ardal
(Llanberis, Blaenau Ffestiniog a Bethesda) bydd modd edrych ar gronfeydd eraill
i wireddu cynlluniau yn y cymunedau sydd ddim yn rhan o’r cais hwn. Eglurwyd
fod y pecyn oddeutu £27miliwn er mwyn i’r cymunedau fod yn manteisio ar y
dynodiad safle a datblygu cynlluniau penodol a gwahanol o fewn eu hardaloedd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd
rhyfeddod fod yr adran yn ymgeisio am
symiau mor sylweddol a holwyd os oes gan yr adran y capasiti
i redeg yr holl gynlluniau. Nodwyd fod ymgeisio am cymaint o grantiau yn amlygu
gwaith da yr adran a nodwyd yr angen i adolygu o ran staff yr adran.
Llongyfarchwyd yr Aelodau Cabinet a staff am eu parodrwydd ac i fod a
cynlluniau aeddfed yn barod i’w cyflwyno.
¾ Mynegwyd
fod cwestiynau wedi codi o ran y grant hwn a rhai wedi sôn y bydd yn cael ei
ganslo. Nodwyd fod y ceisiadau yn agored yn bresennol ac fod y Llywodraeth wedi
ymrwymo swm o arian ar gyfer y cylch yma o’r grant. Eglurwyd fod yr adran wedi
ceisio ei gorau i roi ceisiadau cryf i mewn, ond fod cyfnod gwario yn gyfnod o
dair blynedd sydd yn rhoi pwysau i wario yr arian ac yn gosod her o recriwtio
am gyfnod mor fyr.
Awdur:Sioned Williams
Dogfennau ategol: