Agenda item

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau)

Penderfyniad:

Nodwyd ac ystyried yr  Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei ddiweddaru.  

 

Nodwyd y waith i ail-broffilio’r cynllun cyflawni fel rhan o ddiweddariad Achos Busnes y Portffolio ac y bydd y wybodaeth ar gael yn adroddiad Chwarter 2.  

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.  

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd ac ystyried yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei ddiweddaru.

 

Nodwyd y gwaith i ail-broffilio’r cynllun cyflawni fel rhan o ddiweddariad Achos Busnes y Portffolio ac y bydd y wybodaeth ar gael yn adroddiad Chwarter 2.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol a blynyddol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi uchafbwyntiau’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn. Cychwynnwyd gyda’r Rhaglen Ddigidol gan nodi fod hawliad cyntaf ar gyfer Prosiect DSP ar fin ei gyflwyno. Eglurwyd fod Achos Busnes Amlinellol (OBC) ar gyfer y prosiect Cysylltu'r Ychydig % Olaf yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd heddiw.

 

Amlygwyd yn y Rhaglen Ynni Carbon Isel fod cais am newid rhaglen Morlais wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd Rhaglen ar yr amod bod cyfyngiadau cytundebol ynghlwm gyda arian WEFO Morlais yn cael ei cyfarch yn briodol.. O ran cynllun Egni nodwyd fod Prifysgol Bangor wedi gwneud cais i oedi amserlen yr achos busnes er mwyn caniatáu adolygiad y prosiect. Wrth amlygu uchafbwyntiau’r Rhaglen Tir ac Eiddo eglurwyd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cymeradwyo cyllid i ddatblygu Uwch gynllun ar gyfer safle Prosiect Porth y Gorllewin. Yn ogystal a hyn nodwyd fod mecanwaith cyflawni wedi ei gytuno arno ar gyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych a oedd yn rhannu’r risg o ddatblygu gyda datblygiad tri cham mewn egwyddor.

 

O ran y Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth nodwyd fod Grŵp Llandrillo Menai wedi cadarnhau strwythur y Rhwydwaith Talent Twristiaeth rhwng y coleg a phartneriaid yn y sector breifat, ac eu bod yn paratoi i gyflwyno cais cyn-cynllunio ar gyfer Hwb Economi Gweledig Glynllifon.

 

Amlygwyd fod pedwar prosiect yn adrodd yn goch ar hyn o bryd sydd yn lleihad o un a adroddwyd arno diwedd y flwyddyn ariannol diwethaf. Yn gyntaf nodwyd fod Prosiect Canolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel (Egni) yn cael ei adolygu gan Brifysgol Bangor yn sgil y newidiadau arfaethedig i ragamcanion cyfalaf a refeniw a’r oedi gyda’r adolygiad prosiect.. Eglurwyd fod caniatâd cynllunio amlinellol ar Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan wedi dod i ben, ac mae cais wedi ei wneud am wybodaeth ychwanegol ar sefyllfa polisi cynllunio tebygol y safle i Gyngor Sir Ddinbych. Nodwyd o ran cynllun Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon, fod angen caniatâd cynllunio angen ei sicrhau ac amlygwyd posibilrwydd o flwch ariannol yn sgil costau cyfalaf adeiladu yn cynyddu. Mynegwyd o ran cynllun Fferm Sero Net Llysfasi fod oedi yn dilyn angen i ymgorffori adborth adolygiad Porth 2.

 

O ran y gofrestr risg, eglurwyd fod y proffil risg wedi parhau’n sefydlog ac amlygwyd fod fforddiadwyedd yn parhau i fod y risg mwyaf sy’n wynebu’r portffolio ynghyd a chwyddiant, materion cadwyn cyflawni a chynnydd sylweddol mewn costau adeiladu. O ran y risg gwleidyddol mae’r risg hwn wedi gostwng yn dilyn etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     O ran Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan, holwyd beth yw’r amserlen ynghyd a opsiynau fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Medi. Nodwyd fod y tîm wedi holi am ddiweddariad ac eu bod yn gobeithio dod ac adroddiad pellach yn ôl i’r Bwrdd Fis Medi neu Hydref.

¾     Holwyd os oes angen cryfhau’r risg melyn o ran risg ariannol o ganlyniad i gynnydd cyson mewn costau cyfalaf ac yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar gynlluniau. Nodwyd o ran y Swyddfa Porffolio eu bod yn gnwued popeth o fewn eu gallu i gadw o fewn risg melyn, ac yn cyd-weithio yn agos ar rheolwyr rhaglen i sicrhau fod modd cwblhau’r prosiectau gan roi y buddion disgwyliedig o fewn y gyllideb. Nodwyd yr angen i ail edrych ar y lefel risg ac i adrodd yn ôl yn adroddiad chwarter 2. 

Dogfennau ategol: