Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn hysbysu’r Aelodau o’r gwaith monitro chwarterol (a blynyddol) sydd yn cael ei wneud gan y Panel Buddsoddi ar berfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn. Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd mewn sefyllfa gymharol iach gyda gwerth y gronfa bellach yn £2.7 biliwn ac wedi cynyddu yn raddol ers 2011.

 

Er cafwyd perfformiad o 10.0% gan y Gronfa, siom oedd bod hyn islaw'r meincnod am y flwyddyn. Er hynny, nodwyd bod sefyllfa fel hyn yn gyffredin i gronfeydd cynlluniau pensiwn llywodraeth leol, a bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd yn parhau i fod o fewn chwartel uchaf cronfeydd Prydain a hynny yn safle 23 allan o 100.

 

Yng nghyd-destun perfformiad rheolwyr buddsoddi ecwiti lle gwelwyd canran uchel o fuddsoddiadau’r Gronfa wedi ei buddsoddi, amlygwyd bod y perfformiad, a oedd yn is na’r meincnod, yn cael ei yrru gan berfformiad negyddol Baille Gifford yng ngronfa Global Growth. Ategwyd bod Baillie Gifford wedi perfformio yn wych dros y blynyddoedd blaenorol a phwysleisiwyd pwysigrwydd yn yr angen i asesu dros gyfnod o oleiaf tair blynedd yn y maes yma cyn codi pryderon.

 

Yng nghyd-destun rheolwyr incwm sefydlog, eglurwyd bod y perfformiad yma hefyd wedi bod islaw’r meincnod gydag ansefydlogrwydd ym marchnad Rwsia. Ategwyd bod y buddsoddiadau hyn yn weddol newydd (wedi dechrau buddsoddi yn y ddwy flynedd diwethaf) ac felly’r sefyllfa yn cael ei monitro’n rheolaidd i sicrhau nad oes lleihad pellach.

 

Cyfeiriwyd at berfformiad hanesyddol y Gronfa dros y ddegawd ddiwethaf gan nodi pwysigrwydd asesu’r perfformiad dros nifer o flynyddoedd gan mai buddsoddi tymor hir yw’r amcan. Ategwyd bod gwerth y gronfa wedi cynyddu yn raddol ers peth amser, a bod y Gronfa yn safle 7 allan o holl gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol, ac felly wedi perfformio’n dda.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pherfformiad Baille Gifford a phryd fydd Hymans yn camu i mewn petai perfformiad gwael yn gyffredin dros amryw o flynyddoedd, amlygwyd bod y mater wedi ei drafod yn ddiweddar mewn cyfarfod o Bartneriaeth Pensiwn Cymru lle daethpwyd i’r canlyniad y byddai rhaid ymgynghori gyda’r Bartneriaeth cyn cyflwyno’r farn i’r Cydbwyllgor am benderfyniad.  Ategwyd bod Baille Gifford wedi bod yn gyfrifol am berfformiad rhagorol yn flaenorol oedd yn rhoi hyder yn y cwmni. Nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal ac er bod y cyfnod yn un ansicr, bod hyder yn eu dewisiadau stoc a chred y daw pethau yn dda.

 

Ategodd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bod rhaid ystyried sicrwydd ansawdd a bod cynnal trafodaethau yn hanfodol.

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chysylltiadau i droseddau hawliau dynol trafodwyd datblygiadau cenedlaethol ynghylch materion megis symudiad ‘Boycott, Divestment, Sanctions (BDS) gan sicrhau bod y Bwrdd yn ymwybodol o faterion neu honiadau sydd yn codi yn y wasg. Awgrymwyd gwneud cais i’r Rheolwyr, neu i’r Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu (Robeco), am wybodaeth a bod trafodaeth ar y cyd gydag aelodau’r Pwyllgor Pensiynau mewn sesiynau chwarterol gyda Rheolwyr yn cael ei drefnu.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

 

Dogfennau ategol: