Agenda item

Caffi Llew Glas, 3, Plas y Goits, Stryd Fawr, Harlech,  LL46 2YA.

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Bod y Pwyllgor yn caniatau cais yn unol â'r amodau a osodwyd gan gais cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri NP5/61/T2E

 

Cofnod:

  1. Caffi Llew Glas, 3, Plas y Goits, Stryd Fawr, Harlech

 

Ar ran yr eiddo:          Ms Harriet Brown (ymgeisydd)         

 

Ymatebwyr:                Mr Dafydd Thomas (Swyddog Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer caffi / bar lluniaeth ysgafn gyda lle i fwyta tu mewn a thu allan i’r eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwrthwynebu’r cais oherwydd ei fod yn groes i hawliau cynllunio cais rhif NP5-61-T2E-DN ond petai’r ymgeisydd yn addasu oriau i gydymffurfio gydag amodau’r cais byddai’n dderbyniol

 

Argymhellwyd i’r Pwyllgor ganiatáu y cais yn unol â sylwadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a gofynion Deddf Drwyddedu 2003 ac am y rhesymau isod yn benodol:

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i'r Rheolwr Trwyddedu ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·      Gwahodd y Rheolwr Trwyddedu a’r ymgeisydd i ymateb i’r sylwadau a chrynhoi eu hachos

Nodwyd siom nad oedd barn wedi ei dderbyn gan Cyngor Cymuned Harlech ac y byddai cynnwys lluniau o’r eiddo a / neu luniau o’r sgwâr / stryd wedi bod yn fanteisiol.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag argymhelliad yr Uned Trwyddedu, cadarnhawyd mai yn unol â sylwadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yr oeddynt yn argymell caniatáu y cais ac nid yn unol â sylwadau Gwarchod y Cyhoedd fel y nodwyd yn yr adroddiad.

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·         Mai menter fechan, ysgafn oedd ganddi dan sylw

·         Nad oedd am fentro gyda rhywbeth mwy oherwydd anodd recriwtio staff

·         Yn hapus i addasu’r oriau agor i gyd-fynd a’r cais cynllunio

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut roedd yr ymgeisydd yn bwriadu tawelu pryderon sŵn i’r dyfodol, nododd nad oedd bwriad ganddi gynnal adloniant na nosweithiau hwyr. Ategodd bod ei thad yn byw yn y fflat uwchben ac yn feirniadol o unrhyw sŵn! Nododd  hefyd bod y staff wedi eu hyfforddi i ddelio gyda chwsmeriaid annymunol.

 

Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Mr Dafydd Thomas (Swyddog Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri)

·         Bod y cais wedi ei wrthod oherwydd yn groes i amodau cais cynllunio

·         Yn derbyn bod yr ymgeisydd wedi cytuno i newid yr oriau

·         Os defnydd o’r ardal tu allan bydd angen cyflwyno cais cynllunio i addasu amod

 

Cyng. Annwen Hughes (Aelod Lleol) – dim sylwadau ac wedi datgan buddiant oherwydd ei bod yn Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

 

Cyng. Gwynfor Owen (Aelod Lleol) - sylwadau wedi eu cyflwyno drwy e-bost tu allan i’r cyfnod ymgynghori:

 

·         Ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol

·         Yn cefnogi’r cais

·         Bod y perchennog wedi buddsoddi yn helaeth yn y busnes yma ynghyd a gweddill sgwâr Llew Glas. Yr ymgeisydd yn wraig busnes sydd am greu rhywbeth a naws arbennig amdano yn ganol Harlech - y cais yma yn gorwedd yn daclus yn y cynlluniau hynny.

·         Yn credu y bydd yr ymgeisydd yn gwneud yn siŵr y bydd yn cydymffurfio a phopeth i sicrhau busnes llwyddiannus.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd, yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

 

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref.

 

Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

i.           Atal trosedd ac anhrefn

ii.          Atal niwsans cyhoeddus

iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

iv.         Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd sylwadau ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion hyn. Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

Rhoddir trwydded fel a ganlyn:

1. Oriau agor                                                              Sul-Sadwrn: 09:00 – 19:00

2. Cyflenwi alcohol i yfed ar ac oddi ar yr eiddo:  Sul-Sadwrn: 11:00 – 18:30

 

3. Ymgorffori’r materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

 

Nid oedd gan Adran Gwarchod y Cyhoedd, Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru sylwadau i’w gwneud ac nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru dystiolaeth i wrthwynebu’r cais.

 

Derbyniwyd sylwadau gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwrthwynebu’r cais ar y sail nad oedd y cais yn cyd-fynd gyda’r oriau agor a ganiatawyd o dan y caniatâd cynllunio presennol sef rhwng 08.00 a 19:00. Cadarnhaodd yr ymgeisydd yn ysgrifenedig ymlaen llaw ac ar lafar yn y gwrandawiad y byddai’n fodlon diwygio’r cais fel ei fod yn cyd-fynd gyda’r caniatâd presennol h.y. bod cyflenwi alcohol yn dod i ben am 18:30 gyda’r eiddo’n cau i’r cyhoedd am 19:00.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais fel yr addaswyd ef yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly fe ganiatawyd y cais yn unol â'r amodau a osodwyd gan gais cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri NP5/61/T2E

 

 

 

 

Dogfennau ategol: