Cais
i godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos
a gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r faes parcio cwsmeriaid
presennol
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
Cofnod:
Cais i godi
adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a
gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r maes parcio cwsmeriaid
presennol
Y cais wedi ei ohirio ym
Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle.
Roedd rhai
o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a
chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
ymestyn canolfan arddio Fron Goch drwy godi adeilad i storio dodrefn ardd
ynghyd a gofod cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored.
Byddai'r adeilad yn mesur 46.2 medr o hyd (yn ei fan hiraf), 22.7 medr o led a
7.8 medr i ran uchaf y to yn gwneud cyfanswm o 977 medr sgwâr. Bwriedir hefyd
ymestyn y lle parcio ceir cwsmeriaid presennol ynghyd a chreu ardal storio yn mesur
1452 medr sgwâr a leolir rhwng yr adeilad bwriededig
a therfyn newydd de orllewinol y safle.
Gan fod defnydd manwerthu yn bodoli eisoes ar y
safle awgrymwyd y dylid ystyried egwyddor y bwriad yn erbyn Polisi MAN6
(Manwerthu yng nghefn gwlad). Yn unol â pholisi MAN6, caniateir cynigion ar
gyfer siopau ar raddfa fechan ac estyniadau i siopau presennol sydd tu allan
i’r ffin datblygu, cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf y
polisi. Amlinellir yn y maen prawf cyntaf y dylai’r bwriad fod yn elfen israddol o fusnes
presennol ar y safle. Datgan yr eglurhad i Bolisi MAN 6 mai’r lleoliad mwyaf
addas i siopau yw o fewn ffiniau aneddiadau trefi a phentrefi. Fodd bynnag,
gall siopau ar raddfa fechan sy’n cael eu rhedeg ar y cyd a busnes sydd eisoes
ar y safle yn debygol o ddarparu gwasanaeth a chyflogaeth ddefnyddiol i gymuned
wledig.
Wedi pwyso a mesur y bwriad yng
nghyd-destun y polisïau perthnasol ni ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w
ganiatáu oherwydd bod lleoliad, dwysedd, y cynnydd mewn maint yn afresymol ac y
byddai'r bwriad yn cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr
ardal sydd yn groes i sawl polisi. Yn ychwanegol nid yw’n glir os yw’r effaith
ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol yn dderbyniol ac ni ystyriwyd fod cyfiawnhad am y golled o dir
amaethyddol fyddai’n deillio o’r bwriad.
Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl
faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd fod y bwriad yn cyfarfod amcanion
polisïau cynllunio.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn gefnogol i’r cais ac yn anghytuno gyda’r seiliau gwrthod
·
Elfennau bioamrywiaeth - hyderus bydd modd symud ymlaen heb greu
effaith ar y coed hynafol a’r gwrychoedd aeddfed. Gwarchod y rhain yn fantais i
ddenu pobl i leoliad hyfryd a naturiol
·
Bod y datblygiad yn un sylweddol ond nid yw’r safle yn agored. Nid
yw’n weladwy hyd nes ei gyrraedd. Nid yw’r adeilad arfaethedig yn cwrdd â
throthwy ‘adeilad mawr’
·
Nid yw’r bwriad yn is-raddol i’r busnes presennol - ni ellir ei
lynu wrth y prif adeilad ond mae’n ‘ffitio’ i mewn i’r safle - yn darparu a
rhesymoli trefn a diogelwch y safle i ddefnyddwyr: Yn intigreiddiedig
i’r busnes ac nid mewn unrhyw ffordd yn annibynnol.
·
Colled tir amaethyddol – perchnogion y safle sydd yn berchen y tir
ac nid yw’n cael ei ddefnyddio fel tir amaeth yn bresennol na bwriad o wneud
hynny i’r dyfodol – nid yw’n dir amaethyddol o ansawdd uchel
·
Yn cyflogi yn lleol ac yn gyflogwr arwyddocaol.
·
Bod y Gymraeg yn glywadwy ac yn weladwy ar y safle
·
Bod y busnes yn haeddu cefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol ac
nid rhwystrau
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad
ch) Mewn ymateb i’r cynnig nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio
ac Amgylchedd bod y polisïau perthnasol yn atal datblygiadau o raddfa fawr yng
nghefn gwlad ac nad oedd y polisi yn unigryw i’r datblygiad yma. Awgrymodd i’r
Aelodau ystyried amod bod y defnydd yn ddefnydd atodol i’r prif adeilad (yn un
is-wasanaethol) ac amod ychwanegol yn
atal gwerthu o’r datblygiad
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylw canlynol gan aelodau:
·
Nad yw’r estyniad yn fawr o ystyried yr
hyn sydd ar y safle yn barod
·
Nad oedd bwriad defnyddio’r tir fel tir
defnydd amaethyddol
·
Nad oedd yn creu effaith andwyol ar edrychiad cefn gwlad - y lleoliad yn guddiedig
·
Yn creu swyddi da i bobl leol. Y Gymraeg ‘yn fyw’ yno
·
Siomedig nad oedd ymateb gan yr Adran
Economi
·
Bod y Cyngor Cymuned ac Uned
Trafnidiaeth Cyngor Gwynedd yn gefnogol i’r bwriad ac nad oedd Cyfoeth Naturiol
Cymru wedi cyflwyno sylwadau
·
Bod y safle yn atyniad poblogaidd, yn
daclus, yn drefnus ac yn gyflogwr da
·
Bod canolfannau garddio yn boblogaidd - yn llesol ar gyfer y corff
a’r meddwl. Y busnes yn tyfu ac yn ehangu yn unol ag ehangder diddordeb yn y
maes
·
Yn darparu cefnogaeth i ddyfodol cynaliadwy – dyfodol lle byddwn yn
cael ein hannog i dyfu ein bwyd ein hunain
·
Bod yr estyniad yn gam naturiol. Y
cynllun yn cadw siâp y tir ac yn gwarchod y tir o’i amgylch.
·
Yn gefnogol i’r amodau a gynigiwyd
Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â phriodoldeb yr amodau ac os dylid ail ymgynghori
gyda’r ymgeisydd a’r Aelod Lleol, nododd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol bod
gan y Pwyllgor, er yn mynd yn groes i’r argymhelliad, yr hawl i ffurfio a gosod
amodau. Nododd, pe byddai’r ymgeisydd yn anhapus gyda’r amodau yna bod hawl
ganddo i apelio.
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio'r amodau perthnasol gan nodi bod yr amodau yn lleihau’r
risgiau o fynd yn groes i bolisi. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyfreithiol nad oedd
dim yn amhriodol yn yr hyn oedd yn cael ei amodi ac yn unol â’r cyngor a gynigwyd bod yr amodau yn cefnogi’r penderfyniad;
cyfrifoldeb y Pwyllgor yw gwneud penderfyniad
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau
1. 5 mlynedd.
2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
3. Defnydd atodol i’r prif ganolfan
garddio.
4. Cwblhau'r parcio ychwanegol cyn defnyddio’r adeilad.
5. Yr
holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn
Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog
gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.
6. Amodau bioamrywiaeth (golau, gwelliannau bioamrywiaeth.
7. Tirweddu.
8. Cytuno cynllun draenio tir.
9. Cyfyngu i werthiant
o nwyddau cymharol yn unig, dim gwerthiant
o nwyddau cyfleus (bwyd)
Dogfennau ategol: