Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau:
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Unol a’r cynlluniau
3. To llechi
4. Deunyddiau i weddu
5. Amod Dŵr Cymru
Cofnod:
Estyniad unllawr
Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn
cynnal ymweliad safle.
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn
ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd
lleol.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a) Amlygodd y Rheolwr
Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad unllawr
ar flaen tŷ unllawr. Adroddwyd y byddai’r
datblygiad yn cynnwys ymestyn modurdy presennol, sy'n ffurfio rhan integredig
o'r tŷ, 1.5m yn ei flaen. Byddai’r elfen newydd yma gyda tho brig, 3.8m o
uchder (1.2m yn is na brig to'r tŷ ei hun)
gyda drws garej ar ei flaen.
Nodwyd bod yr eiddo yn un o res o dai ar wahân gerllaw ffordd ddosbarth
2 y B4413 mewn ardal anheddol o fewn ffin datblygu Pentref Arfordirol - Gwledig
Aberdaron fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd ac Ynys Môn; Yr
eiddo hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig a Thirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.
Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ar gais y cyn aelod lleol, y
Cynghorydd W Gareth Roberts, oedd yn gwrthwynebu cais ar sail effaith weledol y
datblygiad ar y strydwedd ac oherwydd pryderon
ynghylch yr effaith mwynderol ar gymdogion.
Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 3 y CDLL sy'n datgan bod disgwyl i bob cynnig
arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun yr
amgylchedd adeiledig o gwmpas. Yn yr achos hwn, wrth ystyried graddfa, dyluniad
a deunyddiau'r estyniad, ystyriwyd mai
bychan iawn fyddai'r newid i edrychiad y safle o'i gymharu â'r tŷ
presennol ac na fyddai unrhyw niwed i ansawdd adeiledig yr eiddo'n deillio o'r
datblygiad. Nodwyd y gellid gosod amodau yn sicrhau bod y deunyddiau a
ddefnyddir yn gweddu gweddill y tŷ.
Yn ogystal, adroddwyd, er y byddai peth cynnydd yn swmp yr adeilad
ynghyd ag ymestyniad o'r "llinell adeiladu" yn ei flaen ychydig, nid
oes unrhyw batrwm adeiladu pendant i ddatblygiadau yn yr ardal ac oherwydd mai
bychan yw’r newid a byddai’r cynnig yn parchu cyd-destun adeiledig y safle ac
yn gweddu gyda’r ardal o gwmpas. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynllun a
gyflwynwyd, oherwydd ei raddfa, deunyddiau a dyluniad, yn gweddu’n briodol
gyda'r eiddo presennol ac felly’n cydymffurfio gydag anghenion polisi PCYFF 3.
Er bod y
safle’n gorwedd o fewn yr AHNE, ac o ystyried ei leoliad trefol, ni fyddai’r
bwriad dan sylw yn effeithio ar gymeriad tirwedd yr AHNE. Yn yr un modd ni ystyriwyd y bydd niwed i'r
Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol - y bwriad yn dderbyniol dan ofynion
Polisïau AMG 1 ac AT 1 y CDLl ac felly hefyd dim
effaith ar gymdogion na’r strydlun.
b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Ei fod yn cytuno’n llwyr gyda sylwadau’r cyn Cynghorydd
·
Nid ‘angen’ i ehangu sydd yma ond perchennog yn dewis ymestyn ar
gyfer storio cwch a thractor yn ei ail dŷ. Addasiad ’yn ddymunol’ ar gyfer
‘hamddena’ - does dim ‘angen’ yma
·
Byddai’r addasiad yn ddolur llygad - yn sefyll allan ac uchder y
to yn creu effaith ar fwynderau cymdogion gan gwtogi golau naturiol
·
Digon o siediau amaeth yn lleol ar gael
yn cynnig lloches i dractor a / neu gwch
·
Y bwriad yn adlewyrchu plot ‘diwydiannol’ yn creu ‘uned ddiwydiannol’ ar gyfer
dibenion yr ymgeisydd heb unrhyw ystyriaeth i eraill - garej eisoes ar y safle
·
Bod estyniad storio ar y safle – heb
hawl cynllunio
·
Byddai caniatáu yn gosod cynsail
beryglus a chymeriadau tai Aberdaron yn cael eu colli am byth
·
Nid anghydfod rhwng cymdogion sydd yma
ond pryderon cyn Gynghorydd a Chyngor Cymuned
·
Ers y cyfarfod diwethaf, ac erthygl yn
y Daily Post, ei fod wedi derbyn cyhuddiadau annheg.
·
Ail dŷ, sydd yma – yn wag am
fwyafrif o’r flwyddyn heb ‘angen’
estyniad - yn creu effaith ar fwynderau pobl sy’n byw yn barhaol yn yr ardal. Annheg
fyddai caniatáu.
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio nad oedd Polisi Cyff 2 yn gofyn am gyfiawnhad dros estyniad
ond bod safon i’r dyluniad. Er efallai yn ddymunol i’r perchennog, rhaid hefyd
ystyried yr effaith ar gymdogion. Ategwyd bod y cais wedi ei gyflwyno fel
defnydd tŷ ac nid fel defnydd busnes ac felly nid yw awgrymu ‘be ellid ei
gael’ fod yn berthnasol yma. Mewn ymateb i sylw bod estyniad arall ar y safle
cadarnhawyd bod cais pellach wedi ei gyflwyno ond y byddai yn cael ei ystyried
ar wahân i’r cais yma.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais oherwydd ei effaith
ar yr AHNE, ei fod yn weledol amlwg ac yn orddatblygiad
ch) Mewn ymateb i’r cynnig, nododd Pennaeth Cynorthwyol
Cynllunio ac Amgylchedd mai estyniad ‘bach iawn’ i fyngalo oedd dan sylw ac ni
fyddai yn cael effaith ar yr AHNE, cymdogion na’r strydlun. Ategodd, petai’r
cais yn cael ei wrthod byddai’n debygol o fynd i apêl.
c) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Estyniad bychan
·
Cais tebyg wedi ennill ar apêl
dd)
Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod
d) Disgynnodd y cynnig
e) Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad
PENDERFYNWYD: Caniatáu
gydag amodau:
1. Cychwyn o fewn 5
mlynedd.
2. Unol a’r cynlluniau
3. To llechi
4. Deunyddiau i weddu
5. Amod Dŵr
Cymru
Dogfennau ategol: