Codi 10 tŷ
fforddiadwy canolradd a gwaith cysylltiedig.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio
cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.
COFNODION:
Codi 10 tŷ fforddiadwy canolradd a gwaith cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn oedd dan sylw i
godi 10 tŷ fforddiadwy canolradd ynghyd a gwaith cysylltiedig. Disgrifiwyd
y safle fel safle segur cyn-Ysgol Babanod Coed Mawr i’r de o ganol dinas
Bangor; oddi fewn i ardal breswyl rhwng Ffordd Caernarfon a Ffordd Penrhos ac oddi
fewn i ffin datblygu Bangor fel y’i cynhwysir yn y CDLL . Ategwyd nad oedd wedi
ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd arbennig. Rhannwyd y cais i sawl elfen
wahanol oedd yn cynnwys:
• Darparu
tai fforddiadwy canolradd ar ffurf: 4 tŷ par
deulawr 2 lofft (4 person); 4 tŷ par deulawr 3
llofft (5 person) a 2 dy deulawr 3 llofft (5 person) gyda deiliadaeth ecwiti a
rennir.
• Darpariaeth llecynnau parcio
oddi ar y ffordd.
• Creu ardaloedd gerddi,
palmentydd a chwrtilau preifat.
• Addasiadau
i’r fynedfa bresennol a darparu ffordd a llwybrau i gerddwyr o fewn y safle.
• Tirweddu
caled a meddal gan gynnwys plannu amrywiaeth o goed a llwyni.
• Creu llecyn chwarae i blant.
• Gosod
system draenio dŵr aflan i wasanaethu’r anheddau ynghyd a system dwr
wyneb.
Eglurwyd bod y safle’n presennol yn cynnwys
gweddillion adeiladwaith y cyn-ysgol sy’n cynnwys hwynebau caled (concrid) a
hwynebau meddal (glaswellt). Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol oedd wedi ei
nodi yn yr adroddiad
Yng
nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol ar
sail lleoliad, angen, cymysgedd tai, defnydd, tai fforddiadwy a dwysedd ynghyd
a’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. Ystyriwyd bod y bwriad
yn dderbyniol ar sail mwynderau gweledol a rhagwelwyd y byddai yn y pendraw, yn
creu cyfraniad positif i gymeriad y rhan yma o’r strydlun.
Yng
nghyd destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod nifer o wrthwynebiadau
wedi eu derbyn gan rai o ddeiliaid Lôn Bedw a Bron y De yn ymwneud a cholli
preifatrwydd ac aflonyddwch sŵn y gall ddeillio o ddefnyddio’r llecyn
chwarae arfaethedig sydd wedi ei leoli yng nghornel de-gorllewinol y safle.
Fodd bynnag, o ystyried bod llystyfiant eisoes yn bodoli rhwng cefnau anheddau
Lôn Bedw a Bron y De gyda safle’r cais; defnydd blaenorol y safle fel defnydd
addysgol; y bwriad i godi ffens coedyn 1.8m o uchder o amgylch ffin allanol y
safle; bod y llecyn tir wedi ei ddewis ar sail hybu gwyliadwriaeth oddefol gan
y cyhoedd ynghyd a’r bwriad o blannu mwy o lystyfiant cyfagos ac oddi fewn i’r
llecyn chwarae. O ganlyniad, ystyriwyd na fydd y bwriad o leoli’r llecyn
chwarae o fewn y rhan yma o’r safle yn mynd i darfu’n sylweddol ar fwynderau
preswyl na chyffredinol deiliaid cyfagos. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi
bwriad o osod ffens acwstig fyddai’n lleihau sŵn a bod modd gosod amod
perthnasol i sicrhau hyn.
Wedi
asesu’r bwriad cyfredol yn ei gyfanrwydd, ni adnabuwyd unrhyw effaith sylweddol
niweidiol fyddai’n groes i bolisïau cynllunio lleol a chyngor cenedlaethol
perthnasol. I’r perwyl hyn, ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig
ar gynnwys amodau perthnasol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn gefnogol i’r cais
·
Siomedig nad oedd byngalos wedi eu
cynnwys yn y cynllun
c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y
cais
d) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â dymchwel yr hen ysgol, nodwyd bod rhybudd i ddymchwel wedi ei ganiatáu ac
wedi ei weithredu.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thystiolaeth am yr angen,
nodwyd bod tystiolaeth wedi ei gyflwyno am yr angen am dai canolradd a bod y
cynllun yn llenwi gwagle yn yr angen am y math yma o dai.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ystyr tai canolradd nodwyd
bod tai canolradd ar gyfer y rhai hynny sydd methu prynu tŷ ar y farchnad
agored ac nid yn gymwys ar gyfer tŷ
cymdeithasol. Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn â diffiniad o dŷ
fforddiadwy o ystyried cynnydd mewn costau byw, nodwyd nad oedd diffiniad tŷ
fforddiadwy wedi ei addasu, ond bod
ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar lefelau cyflog a phrisiau tai - nid yw costau
byw yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg manylder am y llecyn agored /man chwarae a'r gofyn statudol
i ddarparu cyfarpar, nodwyd bod modd gosod amod yn sicrhau yr angen i ddarparu
offer priodol ar y llecyn agored. Cyfeiriwyd at y wybodaeth gyfredol a
gyflwynwyd gan yr Uned Polisi yn cadarnhau bod darpariaeth o 70m2 yn cael ei
ddarparu fel rhan o’r datblygiad sydd yn fwy na chyfarch yr angen ar gyfer
llecynnau a chyfarpar offer i blant o fewn yr ardal.
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau isod:
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r
cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Cydymffurfio
a’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
4. Sicrhau cynllun/trefniadau
ar gyfer darparu’r anheddau fforddiadwy e.e. meini prawf meddiannaeth, amserlen
a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
5. Cydymffurfiaeth
gydag argymhellion y dogfennau Arolwg Ecolegol ac Asesiad Effaith Coedyddiaeth.
6. Cytuno
manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ac ar gyfer yr anheddau oddi fewn y
datblygiad cyn i’r anheddau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd
ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
7. Cyfyngu ar
oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y
Sul a Gŵyl y Banc.
8. Cyflwyno
Datganiad Dull Adeiladu i’r ACLL i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a
dirgryniad, parcio cerbydau gweithredwyr y datblygiad, llwytho/dadlwytho
nwyddau, storio cyfarpar offer ar y safle, ffensys diogelwch, cyfleusterau
golchi olwynion a chynllun ail-gylchu/gwaredu
sbwriel.
9. Amodau
perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth gan gynnwys sicrhau gwelededd o 33m i’r
de-orllewin o’r brif fynedfa.
10. Cytuno gyda
gorffeniadau allanol yr anheddau.
11. Llechi
naturiol i’r toeau.
12. Cytuno ar
ffens acwstig
13. Cytuno ar
gyfarpar chwarae i plant.
Nodyn: Angen
cyflwyno cais system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.
Dogfennau ategol: