Uwchraddio
cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod
glampio yn lle 25 pabell awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon
C12/1554/44/TC
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gwilym Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl
i’r Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
COFNODION:
Uwchraddio
cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod
glampio yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon
C12/1554/44/TC
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
uwchraddio cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod glampio symudol yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan
Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon C12/1554/44/TC yn safle Tyddyn Adi, Morfa
Bychan. Byddai’r gwaith hefyd yn cynnwys tirlunio rhwng y lleiniau carafanau a
thirlunio i amgáu safle’r podiau.
Tynnwyd
sylw at sylwadau’r Cyngor Cymuned oedd wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd bod y podiau glampio yn ymddangos fel nodwedd barhaol. Adroddwyd
bod gwybodaeth ychwanego wedi ei
dderbyn gan yr ymgeisydd yn nodi bod y podiau yn rhai
un stafell ac yn rhai symudol y gellid eu storio ar ddiwedd y tymor.
Cyfeiriwyd
ar Polisi TWR5 o’r CDLl sydd yn caniatáu cynigion i
ddatblygu safleoedd teithiol a llety gwersylla amgen dros dro os ydynt yn
cydymffurfio a’r cyfan o’r meini prawf. Ystyriwyd fod dyluniad, gosodiad ac
edrychiad y bwriad o ansawdd derbyniol a’i fod wedi ei leoli mewn lleoliad
anymwthiol wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Ni chredir
byddai cyfnewid yr unedau o bebyll i garafanau a phodiau
yn peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd yn y safle yma.
Amlygwyd
bod cynllun safle yn nodi nad yw’n fwriad gosod lleiniau caled i’r unedau ac
mae’r Datganiad Cynllunio yn datgan nad yw’n fwriad cysylltu’r podiau i system ddraenio. Bydd y podiau
yn cael eu symud i safle storio dros y gaeaf, felly bydd cysylltiad ffisegol
i’r ddaear yn gyfyngedig. Mae blociau cawod a thoiledau presennol yn bodoli
eisoes ar y safle, a bydd defnyddwyr y carafanau a podiau
arfaethedig yn defnyddio’r ddarpariaeth bresennol. Nid oes bwriad adeiladu
adeilad newydd fel rhan o’r cais.
Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y safle yn gorwedd mewn lleoliad cefn gwlad. Ystyriwyd bod y
safle ar y cyfan wedi cael ei sgrinio’n dda o ran helaeth o olygfeydd, gyda
mannau gwan yma thraw yn y tirlunio. Ategwyd bod y safle yn weladwy o fannau
agos o’r llwybr cyhoeddus ond bod cynllun yn dangos bwriad i dirweddu gyda
gosodiad dwysedd isel, mannau agored a rhesi o wrychoedd oddi fewn y safle.
Cyfeiriwyd
at y ffaith bod rhan o’r cae o fewn parth llifogydd C2 a phetai’n
ddatblygiad o’r newydd y byddai’n groes i bolisi. Fodd
bynnag, o ystyried sefyllfa ‘fall back’
a’r safle eisoes â chaniatâd am 75 pabell, ni fyddai cyfnewid yr unedau yn
groes i bolisi gan nad yw’n cynyddu risg yn yr achos yma. Gellid dadlau
oherwydd y gostyngiad niferoedd, y byddai’r risg yn lleihau. O ystyried mai rhan fechan o’r cae yn unig sydd
o fewn Parth C2 a sefyllfa caniatâd presennol y safle, cesglir na fyddai’r
bwriad yn gwaethygu na chynyddu risg llifogydd yn yr achos yma. Awgrymwyd felly
fod y sefyllfa ‘fall back’
yn golygu nad yw’r bwriad yn groes i bolisi NCT 15 a pholisi PS 6 y CDLl, gyda nodyn cyngor yn cael ei gynnwys i ddilyn
cynghorion sylwadau CNC.
Er nad oedd
angen cyflwyno datganiad ar sut y disgwylir i ystyriaethau i’r Iaith Gymraeg eu
hymgorffori i’r datblygiad, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno datganiad
iaith ar y modd y mae’n bwriadu rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg.
Wedi
ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a
chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd,
ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol na fyddai’n cael effaith niweidiol
sylweddol ar y dirwedd, mwynderau’r gymdogaeth na diogelwch ffyrdd.
b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Ei fod yn gefnogol i’r datblygiad
·
Yn croesawu mwy o le ar gyfer unedau
teithiol
·
Bod ymateb y swyddog i sylwadau’r Cyngor Cymuned ynglŷn
â’r podiau yn dderbyniol.
c) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r
hawl i’r Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol:
1. Amser
2. Yn unol â’r cynlluniau.
3. Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 10
uned deithiol, 6 pod a 50 pabell.
4. Defnydd gwyliau yn unig a chadw
cofrestr.
5. Tymor gwyliau - 1af Mawrth i 31 Hydref
6. Symud y podiau
i safle storio a ddangosir yn y cynllun rhwng 1 Tachwedd a 29 Chwefror.
7. Cwblhau’r gwaith tirweddu yn y tymor
plannu cyntaf.
8. Unol ac argymhellion Adroddiad Ecolegol
• Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau
Swyddog Trwyddedu Carafanau
• Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau
Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â chael cynllun llifogydd mewn lle.
Dogfennau ategol: