I ystyried a derbyn Y Datganiad O
Gyfrifon Statudol (drafft cyn Archwiliad) er gwybodaeth
Penderfyniad:
Derbyn a nodi Datganiad o
Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2021/22.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Cyllid yn
cyflwyno’r Datganiad o Gyfrifon statudol (drafft cyn archwiliad) ar gyfer
blwyddyn ariannol 2021/22. Nodwyd:-
·
Bod y cyfrifon drafft yn cael eu harchwilio ar hyn
o bryd, ac y cyflwynid y fersiwn terfynol yn dilyn archwiliad er cymeradwyaeth
yng nghyfarfod 17 Tachwedd 2022 o’r pwyllgor hwn.
·
Nad oedd gofyn statudol i aelodau etholedig
gymeradwyo’r fersiwn drafft o’r Datganiad o Gyfrifon. Er hynny, ystyrid bod cyflwyno’r datganiad
drafft i’r pwyllgor hwn er gwybodaeth yn arfer da i’w ddilyn, ac yn gyfle i’r
aelodau holi swyddogion ariannol am y cynnwys ac arfogi eu hunain gyda
gwybodaeth berthnasol er mwyn ystyried risgiau perthnasol, a materion eraill
fydd yn destun archwiliad, yn eu cyd-destun.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet Cyllid ddiweddariad i’r
aelodau ar eu cyfrifoldebau ynghyd ag amlinelliad o lle rydym wedi cyrraedd ar
y daith. Yna manylodd yr Uwch Reolwr
Cyllid ar gynnwys yr adroddiad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Adran am y gwaith manwl,
gan wahodd cwestiynau a sylwadau gan yr aelodau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:-
·
Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r Uwch Reolwr Cyllid
am roi cyflwyniadau clir iawn, oedd yn tynnu sylw at nifer o faterion hynod o
bwysig mewn ffordd ddealladwy.
·
Gan gyfeirio at yr angen i brisio mwy o eiddo yn
sgil y ffaith bod lefelau chwyddiant mor uchel, holwyd a oedd yna unrhyw
newidiadau o ran prisio asedau priffyrdd, ac a oedd hynny’n debygol o greu
unrhyw oedi o ran archwilio’r cyfrifon.
Mewn ymateb, nodwyd bod priffyrdd yn ymddangos dan ‘is-adeiladwaith’ yn
Nodyn 15 o’r Cyfrifon (Eiddo, Offer a Chyfarpar). Eglurwyd nad oedd priffyrdd yn cael eu
hail-brisio, a’u bod i mewn ar eu cost hanesyddol. Pe bai’r Cyngor yn gwneud darn o waith ar
unrhyw ffordd, roedd yn mynd i mewn ar y gost, ac yn cael ei brisio yn unol â’r
polisi yn Nodyn 1 o’r Cyfrifon dros 40 o flynyddoedd. Nodwyd ymhellach bod gwaith ar droed yn
Lloegr i newid y drefn oherwydd nad oedd hyn, o bosib’, yn adlewyrchiad o beth
ydi gwerth y ffordd, ac un o’r cynigion dan ystyriaeth oedd bod y ffigwr net yn
unig yn cael ei roi i mewn, yn hytrach na chynnwys y dadansoddiad manwl fel yn
Nodyn 15. Efallai bod yna opsiynau
eraill hefyd, ond nid oedd hyn yn fater hawdd gan fod y wybodaeth sydd gan y
cynghorau ynglŷn â’r gwariant a wnaethpwyd ar ffyrdd ar sail y gost
hanesyddol yn unig, gan nad oedd prisiad wedi’i wneud ohonynt erioed. Holwyd ymhellach a fyddai hyn yn effeithio ar
archwiliad eleni o Gyfrifon y Cyngor hwn.
Mewn ymateb, nodwyd y gallai gael effaith, ond bod y trafodaethau’n
parhau.
·
Holwyd a oedd y prisio mwy manwl am fod yn batrwm
i’r dyfodol. Mewn ymateb, eglurwyd mai’r
lefelau chwyddiant uchel oedd wedi effeithio ar hyn, a tra bo lefelau
chwyddiant yn parhau’n uchel, roedd yn debygol y byddai yna fwy o ofyn am hyn
oherwydd y prisiau cyfnewidiol yma.
Roedd y mater hwn yn cael ei drafod hefyd gan ei fod yn fyrdwn ychwanegol
ar gynghorau mewn cyfnod heriol yn ariannol, er bod Gwynedd yn fwy ffodus na
rhai cynghorau yn hyn o beth, gan bod gennym ein prisiwr mewnol ein hunain i
wneud y gwaith. Nodwyd hefyd bod y mater
yn dal i gael ei drafod ar hyn o bryd ac y byddai canllawiau newydd yn cael eu
rhyddhau yn fuan, fyddai’n rhoi mwy o eglurhad ar y mater.
·
Holwyd a oedd yr hen ffordd o Lanwnda
i Gaernarfon, sydd bellach yn nwylo Cyngor Gwynedd yn sgil agor y ffordd osgoi
newydd, yn cael ei hadlewyrchu mewn unrhyw ffordd yn y cyfrifon. Mewn ymateb, eglurwyd bod arian ychwanegol yn
cael ei gynnwys yn y setliad i adlewyrchu’r ffaith bod ffordd wedi peidio bod
yn gefnffordd, ac wedi trosglwyddo o ofalaeth yr Asiantaeth Cefnffyrdd i’r
Cyngor Sir.
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â ffynhonnell
ariannu’r £4.4m o wariant ar waliau Harbwr Aberdyfi, eglurwyd bod yna nifer o
gynlluniau ym maes llifogydd ac arfordirol sydd â hawl gwneud benthyciadau ar
eu cyfer, gyda chefnogaeth yn dod drwy’r setliad i dalu amdanynt, a bod hyn yn
y rhaglen gyfalaf yn barod.
·
Gan gyfeirio at Dabl 3 o’r Cyfrifon – Crynodeb o
Wariant Cyfalaf a’i Ariannu – holwyd pam bod gwariant Amgylchedd gymaint uwch
yn 2021/22 nag yr oedd yn 2020/21. Mewn
ymateb, eglurwyd mai’r prif reswm am hynny oedd bod yr Adran wedi derbyn £8.3m
o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol yn 2021/22, o gymharu â £2m yn 2020/21. Nodwyd hefyd, yn wahanol i wariant refeniw,
bod gwariant cyfalaf yr adrannau yn gallu amrywio’n sylweddol o un flwyddyn i’r
llall, yn ddibynnol ar y prosiectau sydd ar y gweill.
·
Nodwyd ei bod yn ymddangos bod y Cyngor yn bod yn
ddarbodus iawn yn cynyddu ei reserfau, ond holwyd a
oedd y swyddogion yn bryderus ynglŷn â’r flwyddyn i ddod o ystyried yr
ansicrwydd ariannol presennol. Mewn
ymateb, nodwyd, pan osodwyd y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol,
y rhagwelwyd y byddai lefel chwyddiant costau cyflog a lefel chwyddiant
cyffredinol tua 4%, sef ffigwr a ystyrid yn ddarbodus ar y pryd. Fodd bynnag, gan fod y ffigwr chwyddiant yn
llawer uwch na’r hyn a gyllidebwyd ar ei gyfer, a
phetai pob dim arall yn aros yr un fath, byddai’r Cyngor yn gorwario
eleni. Eglurwyd bod y Cyngor wedi bod yn
ddarbodus ac wedi gwneud nifer o benderfyniadau anodd dros y blynyddoedd i
sicrhau bod gennym reserfau rhag ofn i sioc ariannol
ein taro. Yn y flwyddyn ariannol
bresennol, roedd gan y Cyngor reserfau a balansau cyffredinol fyddai’n lliniaru’r sioc o gostau ynni
ychwanegol a chostau cyflogau uwch nag a ragwelwyd. Fodd bynnag, nid oedd reserfau
yn ateb hirdymor, felly ar gyfer y flwyddyn nesaf, roedd y Tîm Cyfrifeg eisoes
yn edrych yn fanwl ar beth ydi’r sylfaen rydym ni’n gweithio ohono. Gan fod y ffigwr chwyddiant gymaint yn uwch
eleni nag a ragwelwyd, byddai’n rhaid i’r Cyngor gynyddu’r sail ar gyfer y
blynyddoedd i ddod, ac wrth osod cyllideb y flwyddyn nesaf, byddai’n rhaid i’r
Cyngor ystyried beth sy’n fforddiadwy ac efallai torri’r brethyn i ffitio’r
arian sydd ar gael. Cadarnhawyd, fodd
bynnag, na ragwelid y byddai’r Cyngor mewn sefyllfa o orfod cau ysgolion /
sefydliadau rai dyddiau o’r wythnos, fel rhai cynghorau eraill, a rhoddwyd
sicrwydd i’r pwyllgor y byddai’r reserfau a
neilltuwyd eisoes yn ein cario drwy’r gaeaf caled sydd o’n blaenau.
·
Gan gyfeirio at Nodyn 10.29 o’r Cyfrifon – Cronfa
Premiwm Treth Cyngor – gofynnwyd am enghreifftiau o brosiectau o dan y pennawd
hwn. Mewn ymateb, nodwyd, er bod rhai
cynlluniau cyfalaf wedi llithro dros y blynyddoedd, bod yna ddadansoddiad manwl
yn y Cynllun Gweithredu Tai, a fabwysiadwyd gan y Cabinet yn Rhagfyr 2020, o’r
defnydd sydd wedi’i fwriadu ar gyfer yr arian Premiwm Treth Cyngor.
·
Holwyd a fyddai’n bosib’ cael gwybod, pan fydd y
pwyllgor hwn yn trafod y Premiwm Treth Cyngor ar 17 Tachwedd, pa gyfran o’r
£13m sy’n dod o bremiwm sydd wedi’i dalu gan drigolion Gwynedd. Mewn ymateb, cadarnhawyd y gellid darparu’r
wybodaeth honno yn yr adroddiad i’r pwyllgor.
PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar
archwiliad) am 2021/22.
Dogfennau ategol: