University
Plaice, 21 Ffordd Caergybi,
Bangor, Gwynedd, LL57 2EU
Ystyried
y cais uchod
Cofnod:
Croesawyd
pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Tudor
Owen. Cyflwynwyd y panel a’r
swyddogion i bawb oedd yn bresennol.
Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.
CAIS AM
DRWYDDED EIDDO – UNIVERSITY PLAICE, 21 FFORDD CAERGYBI, BANGOR, GWYNEDD LL57
2EU
Ar ran yr eiddo: Mr Mehemet Ali Usal a Ms Nia Haf
Davies (ymgeiswyr)
Eraill a fynychwyd: Cynghorydd June Marshall (Aelod Lleol), Cynghorydd Dinas John Martin, Mrs A Davies (Preswylydd
Lleol)
Adroddiad
ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.
a) Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar
gais i amrywio trwydded eiddo ar gyfer University Plaice, 21 Ffordd Gaergybi, Bangor. Lleolwyd yr eiddo
ymysg rhes o fusnesau a siopau ym Mangor Uchaf,
ac fe ddarparir lluniaeth hwyr y nos i’w fwyta
oddi ar yr
eiddo. Natur yr amrywiad arfaethedig
oedd ymestyn oriau agor y busnes
a’r oriau darparu lluniaeth hwyr y nos ar
ddydd Llun, Mawrth, Mercher a Sul i 03:00 y bore. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi
cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu fel rhan o’r
cais.
Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno sawl cais
i ymestyn oriau trwyddedig yr eiddo
yn y gorffennol. Nodwyd bod yr Is Bwyllgor yn Hydref
2013, wedi caniatáu iddynt ymestyn oriau agor y busnes
ar nos Wener
a Sadwrn i 03:30 y bore ac yn
Medi 2014, rhoddwyd caniatâd iddynt ymestyn oriau agor
y busnes ar nos Iau i 3:00 y bore. Nodwyd bod oriau arfaethedig y cais wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad.
Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd
gan y Gwasanaeth Tân ac Achub wrthwynebiad
i’r cais ac ni dderbyniwyd sylwadau gan Heddlu
Gogledd Cymru a Gwasaneth Iechyd yr Amgylchedd. Derbyniwyd dau wrthwynebiad i’r cais gan yr
Aelodau Lleol yn seiliedig ar
yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a throsedd ac anrhefn. Ychwanegwyd nad oedd gan
Cyngor Dinas Bangor wrthwynebiad i egwyddor y cais , ond bod awgrym i’r oriau
agor fod yn gyson â sefydliadau
eraill tebyg.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
• Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn
cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
• Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
• Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
• Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau
• Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
• Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgynghorai.
b) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag oriau agor sefydliadau eraill yn yr
ardal cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu, bod Late Stop,
Pizza House, Bella House a Craperie yn gymysg o oriau
gwahanol ar ddyddiau gwahanol,
yn amrywio o 2:30am i
3:30am.
c) Wrth ymhelaethu ar y cais nododd
yr ymgeisydd ei fod yn
hapus gyda’r hyn oedd wedi
ei gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol o’i fwriad:
• Bod
y fideo wedi profi bod pobl o gwmpas Bangor Uchaf yn ystod oriau
man y bore yn chwilio am fwyd
• Un
sefydliad sydd ar agor ar
hyn o bryd - buasai caniatáu y cais yn cynnig
dewis i bobl a hefyd yn gwasgaru
torfeydd
• Nid oedd galwad
wedi bod i’r Heddlu ers 2010. Perthynas dda gyda’r
heddlu - cydweithio da i ddarparu gwybodaeth / tystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng
• Bydd goruchwylwyr drysau ar gael
ar ddydd Gwener a Sadwrn
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phreswylwyr cyfagos, nodwyd bod trigolion yn preswylio
yn Britannia Square sydd wedi ei leoli
tu cefn i’r
adeilad.
ch) Yn manteisio ar ei
hawl i siarad, nododd Aelod o Gyngor Dins Bangor y sylwadau canlynol:
• Dylai’r oriau fod
yn gyson gyda sefydliadau eraill i sicrhau tegwch
• Rhaid osgoi gosod
cynsail
• Rhaid gosod terfyn
amser
d) Yn manteisio ar ei
hawl i siarad, nododd yr Aelod
Lleol (Menai Bangor 1), Y Cynghorydd June Marshall y sylwadau
canlynol:
• Bod
y fideo yn profi nad yw’r
sŵn yn isafol
• Rhaid sicrhau cysondeb
oriau
• Siomedig nad oedd
yr heddlu wedi cyflwyno sylwadau.
Cyfeiriodd at ddatganiad a wnaed gan yr
Heddlu yn 2013 a oedd yn nodi
nad oedd angen i un sefydliad reoli'r farchnad
• Bangor
Uchaf yn ardal breswyl
• Pobl fregus ac oedrannus yn byw
yn Britannia Square. Annheg
eu bod yn gorfod ymdopi â phroblemau sŵn
• Bydd damwain yn
siŵr o ddigwydd gyda phobl ar
y stryd
Mewn ymateb i gwestiwn nododd yr aelod nad
oedd wedi derbyn unrhyw gwynion
yn benodol i’r eiddo dan
sylw, ond cwynion cyffredinol yn ymwneud a sŵn,
potiau planhigion yn cael eu
dwyn a tharo drysau ar Ffordd
y Coleg. Nid oedd ganddi unrhyw
wrthwynebiad
at yr ymgeisydd dim ond pryder ynglŷn
ag oriau agor estynedig a’r sŵn
fuasai yn debygol o aflonyddu’r cymdogion. Atgoffwyd yr Is Bwyllgor bod myfyrwyr hefyd yn byw
ym Mangor Uchaf sydd angen
llonyddwch. Ategwyd bod y problemau yn codi
yn ystod y tymor addysg - rhaid sicrhau cyfaddawd.
Nododd hefyd ei siom nad
oedd yr Heddlu
yn bresennol.
Derbyniwyd y sylw.
dd) Yn manteisio ar
ei hawl i siarad, nododd Mrs A Davies, preswylydd lleol y sylwadau canlynol:
• Yn breswylydd lleol
ac yn aelod o Gymdeithas Gwarchod Bangor Uchaf
• Dyletswydd i warchod y gymdogaeth a gwarchod trigolion lleol rhag trosedd
• Angen rheoli niwsans
sŵn a niwsans cyhoeddus
• Rhaid sicrhau bod y palmentydd yn lân
• Rhaid sicrhau bod gan staff sydd yn gweini bwyd
dystysgrif briodol
• Rhaid ceisio cymuned
iach
e) Cydnabuwyd sylwadau Aelod Lleol (Menai Bangor 2) y Cynghorydd Mair Rowlands a oedd yn gwrthwynebu’r cais ar sail niwsans cyhoeddus, trosedd ac anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
f) Cydnabuwyd sylwadau’r Gwasanaeth Tân - nid oedd ganddynt
wrthwynebiad i’r cais
ff)
Wrth
grynhoi ei gais, nododd yr
ymgeisydd ei fod yn ddyn
busnes ac eisiau cymryd mantais o’r sefyllfa. Nododd
bod rhaid cydnabod bod
Bangor yn ddinas brysur a bod hawl gan fyfyrwyr
fod yn annibynnol.
Petai y cais yn cael ei
gymeradwyo byddai'r torfeydd yn clirio
yn gynt - rhaid ystyried cau'r clybiau nos
yn gynt ac nid y llefydd bwyd.
Gadawodd
y partïon perthnasol y cyfarfod.
Trafodwyd
y cais gan aelodau’r Is Bwyllgor gan ystyried yr
holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roddi sylw penodol
i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef
• Trosedd ac Anhrefn
• Diogelwch y
Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn
Plant rhag Niwed
PENDERFYNWYD caniatáu y cais i wyro’r drwydded eiddo. Gwyrwyd y drwydded yn unol
â’r cais, i ddarparu lluniaeth hwyr yn nos
rhwng 23:00 a 03:00 ddydd Sul tan ddydd Mercher,
am y rhesymau canlynol:
1. Wrth gyrraedd y penderfyniad, ystyriwyd sylwadau perthnasol y partïon. Yn unol â’r
Ddeddf Trwyddedu 2003, rhaid i’r Is Bwyllgor
wneud penderfyniad ar sail sylwadau sydd yn berthnasol
i un neu fwy o’r amcanion trwyddedu,
a dim arall.
2. Wrth ystyried sylwadau’r
Cynghorydd Marshall ac Arfona
Davies am bryderon
sŵn ym Mangor Uchaf, mae’r
pwysau y gellid ei roi i’r
sylwadau yn gyfyngedig iawn, gan nad oedd
tystiolaeth ddigonol wedi ei dderbyn bod unrhyw broblem sŵn y gellid ei briodoli
i’r eiddo sydd yn destun
y cais. Nid oedd tystiolaeth o broblem sy’n gyfystyr
â niwsans cyhoeddus.
3. Yn yr un modd,
roedd yr Is Bwyllgor wedi ystyried
sylwadau’r Cynghorydd Rowlands
parthed niwsans cyhoeddus a throsedd ac anhrefn. Yn anffodus,
fodd bynnag, nid oedd yr
aelod wedi cyflwyno tystiolaeth o’r digwyddiadau o’r fath y gellid
eu priodoli i’r eiddo. Oherwydd
hyn ychydig iawn o bwysau y gellid ei rhoi
i sylwadau’r aelod.
4. Diystyriwyd sylwadau Cyngor Dinas Bangor a’r Cynghorydd Marshall yn galw am gysondeb
gydag oriau eiddo eraill. Nid
cysondeb gydag oriau eiddo eraill
yw’r prawf perthnasol o dan y Ddeddf, ond a yw’r
cais yn cyd-fynd
â’r amcanion trwyddedu?
5. Ar
sail diffyg tystiolaeth o broblemau ynghlwm â’r eiddo sydd
yn tanseilio’r amcanion, roedd yr Is Bwyllgor yn fodlon bod y cais am estyniad amser yn briodol er
mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.
Adroddodd
y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd
yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i apelio i’r
dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.
Dogfennau ategol: