Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet
yn hapus iawn gyda perfformiad yr adran a tynnwyd sylw at rai agweddau. O ran y
sefyllfa Digartrefedd nodwyd ei fod yn sefyllfa sy’n gwaethygu yn ddyddiol
gyda’r ffigyrau bellach 50% yn uwch nag oedd i’w weld cyn y pandemig. Eglurwyd
fod y cynlluniau a grëwyd cyn y pandemig bellach ddim yn ddigon da, ac fod
angen creu cynlluniau er mwyn gweithredu ar yr egwyddor o gartrefu unigolion o
fewn eu cymunedau. Amlygwyd fod un cynllun yn gofyn i landlordiaid preifat i
ddefnyddio eu tai i gartrefu pobl leol yn hytrach nac eu ddefnyddio ar gyfer
llety gwyliau.
Tynnwyd sylw at gynllun arloesol sydd i’w weld yn y
gwasanaeth digartrefedd, gyda cefnogaeth iechyd meddwl arbennig. Eglurwyd fod
canran uchel o unigolion di-gartref a problemau iechyd meddwl ac fod yr adran
wedi penodi aelod o staff sydd a arbenigedd yn y maes a fydd yn ceisio gweithio
gyda unigolion fel bod modd eu cadw pobl yn eu cartrefi ac i’w hatal rhag mynd
yn ddigartref.
Mynegwyd fod y Cyngor bellach wedi prynu darn o dir
ym Morfa Nefyn er mwyn adeiladu tai a fydd yn cartrefu pobl leol yng nghanol y
pentref mewn tai fforddiadwy, hawdd i’w cynhesu ac yn amgylcheddol wyrdd.
Nodwyd fod y tai yma wedi ei seilio ar syniad o Dŷ Gwynedd, sef creu y
math o dŷ mae trigolion Gwynedd ei angen ac nid yn unig yn dŷ ond yn
gartref.
Ar y cyfan, nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn hapus
a’r perfformiad ond ei bod yn anodd dathlu gan fod y sefyllfa yn parhau heb ei
datrys ond fod yr adran yn ceisio eu gorau i gynorthwyo pobl gan greu gobaith
mewn sefyllfa anobeithiol.
Ychwanegodd y Pennaeth Adran eu bod yn ymwybodol o
heriau sylweddol sydd yn wynebu yr adran yn dilyn y pandemig, brexit, cynnydd mewn costau byw ynghyd â chynnydd mewn
digartrefedd. Nodwyd fod yr adran yn awyddus i newid rhai o’i cynlluniau sydd i’w
gweld o fewn Cynllun y Cyngor ar gyfer
2023/34 a fydd yn cynnwys blaenoriaethau newydd sydd yn fwy penodol i fynd i’r
afael ar heriau sy’n wynebu’r adran.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Holwyd
am y Cynllun Iechyd Meddwl fydd o fewn y tîm digartrefedd. Eglurwyd fod y
cynllun yn un arloesol ac unigryw i Wynedd, eglurwyd fod hwn yn gynllun sydd am
sicrhau cefnogaeth i’r digartref gan y Maes Iechyd. Mynegwyd ei fod yn
enghraifft glir o sut mae’r adran yn ceisio meddwl yn wahanol ac yn gweithio i
ddatrys problemau.
¾ Mynegwyd
fod y podiau sydd i’w gweld yng Nghaernarfon ar gyfer
y digartref bellach yn ymddangos wedi ei cwblhau ond fod problemau gyda
Dŵr Cymru ac fod nifer o gwestiynau wedi codi yn lleol pam nad oes neb yn
byw ynddynt. Nodwyd fod problemau wedi bod gyda’r dreiniau ond fod datrysiad
bellach ac fod yr adran yn gobeithio y bydd unigolion yn y podiau
o fewn y pythefnos nesaf.
¾ Holwyd
os yw’r adran fel rhan o Gynllun Prynu Tai a Tir yn cadw golwg ar gyfryngau
cymdeithasol gan fod nifer o bobl yn nodi eu bwriad i werthu ar y safleoedd yma
er mwyn ceisio derbyn prynwr lleol. Nodwyd fod yr adran yn cadw golwg ac fod
modd i unigolion ddod yn uniongyrchol at y Cyngor yn ogystal i nodi eu hawydd i
werthu yn uniongyrchol i’r Cyngor.
¾ Gofynnwyd
os yw’r Cyngor yn edrych ar eu stadau a mân-ddaliadau fel lleoliadau i adeiladu
tai. Nodwyd fod y Cyngor yn edrych a bob darn o dir sydd yn eiddo iddynt er
mwyn sicrhau cyfleodd i godi tai newydd.
Awdur:Carys Fon Wlliams
Dogfennau ategol: