I ddiweddaru’r Pwyllgor ar reolaeth biniau halen fel rhan
o’r Gwasanaeth Cynnal Gaeaf.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd
yn ystod y drafodaeth.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod
Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd a Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw yn fras at y
prif bwyntiau canlynol:
- Eglurodd yr Aelod Cabinet
fod y Cyngor wedi cysylltu â chynghorau tref a chymuned yn y gorffennol er mwyn
eu hysbysu na fydd biniau halen yn cael eu llenwi gan y Cyngor mwyach, ac mai
eu cyfrifoldeb hwy byddai eu ariannu. Yn anffodus, doedd cynghorau tref a
chymuned ddim yn gallu ymdopi â’r costau gan achosi i’r Cyngor dderbyn nifer o
alwadau ar ffyrdd peryglus. Oherwydd hyn, roedd yr adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol wedi ail ymweld a’r sefyllfa.
- Datganwyd fod tua 600 o finiau halen
wedi eu lleoli ar draws y Sir a bod y Gwasanaeth yn y broses o’u hail llenwi.
Byddai’r adran yn eu monitro yn rheolaidd dros y gaeaf er mwyn eu llenwi pan fu
angen.
- Esboniwyd bod lleoliadau’r
biniau halen yn ogystal a’r ffyrdd sy’n cael eu graeanu gan y Cyngor yn mynd i
ymddangos ar Fap Gwynedd er mwyn i drigolion ac Aelodau eu gweld.
- Nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
bod gwaith yn cael ei wneud i rifo’r biniau halen. Byddai rhif unigryw'r bin
halen yn ei gwneud yn haws i aelodau a chynghorau tref a chymuned adrodd gan
gynorthwyo’r gweithwyr i ddatrys unrhyw broblem yn gynt.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Canmolwyd yr adran
am dderbyn fod trafferthion wedi codi yn y gorffennol ynglŷn â biniau
halen, a clodforwyd y syniad o rifo’r biniau a nodi eu lleoliad ar Map Gwynedd.
Holwyd lle’r oedd
y cyllid i ail gyflwyno’r gwasanaeth hwn yn deillio.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, nododdy Pennaeth Adran bod y cyllid wedi cronni ers i gynghorau tref a chymuned gymryd
drosodd y gwasanaeth. Roedd y gost o ail-gyflwyno’r gwasanaeth yn gymharol
debyg ac felly nid oedd angen chwilio am gyllid o unman arall.
Gofynnwyd os oedd lleoliad y biniau
halen ar Fap Gwynedd yn barod ac os oedd gan y cyhoedd mynediad at y cyfleuster
hwn.
- Mewn ymateb i’r ymholiad,
cadarnhaodd y Pennaeth Adran nad oedd y biniau halen i’w gweld ar Fap Gwynedd
ar hyn o bryd ond roedd y broses o’u ychwanegu wedi cychwyn. Unwaith byddai’r
broses yma wedi ei gwblhau, gall drigolion Gwynedd eu gweld drwy wefan y
Cyngor. Hysbysir aelodau’r Cyngor yn dilyn cwblhau’r gwaith er eu galluogi i
rannu’r wybodaeth gyda trigolion eu ward.
Datganwyd pryder
bod y Gwasanaeth Cynnal Gaeaf yn cychwyn o 01.10.2022 ymlaen gan nad oedd yn
rhoi digon o amser i edrych ar gyflwr y biniau halen a’u disodli pe bai angen.
- Mewn ymateb i’r datganiad hwn, nododd y
Pennaeth bod yr adran yn gweithio yn agos gyda’r Peiriannydd Ardal ac yn
hyderus y byddai’r biniau halen mewn cyflwr da erbyn pryd y bydd eu hangen.
Cadarnhawyd er bod y y gwasanaeth yn cychwyn o
01.10.2022, nad oedd y gwasanaeth
graeanu yn cychwyn nes yr ail wythnos ym mis Tachwedd fel rheol.
Tynnwyd sylw ei bod yn ymddangos o’r
adroddiad bod mwy o finiau halen yn ardal Arfon o’i gymharu ag ardaloedd eraill
y Sir a holwyd os oedd rheswm am hyn ac am y broses ynghlwm a pennu dyraniad
biniau mewn ardaloedd.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, eglurodd y
Pennaeth Adran nad oedd yna unrhyw reswm penodol pam fod mwy o finiau halen yn
ardal Arfon. Nododd eu bod yn cael eu dosbarthu yn ôl yr angen a bod asesiad
parhaus yn cael ei gynnal.
PENDERFYNWYD
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: