I ddiweddaru’r Pwyllgor am y gwaith wrth law i’r Pwyllgor eu
hystyried.
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a
Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd. Tynnwyd sylw yn fras at
y prif bwyntiau canlynol:
- Esboniodd yr Aelod Cabinet
Amgylchedd fod pwerau i lywodraethu cludiant cyhoeddus wedi symud o afael
cwmnïau preifat i’r Llywodraeth ers 2017.
- Datganwyd fod yr adran wedi bod yn
llwyddiannus iawn yn y misoedd diwethaf i ddiwygio amserlen y gwasanaeth SHERPA
yn ardal Llanberis. Roedd yr incwm a
gynilwyd dros yr haf yn cael ei sybsideiddio ar gyfer
gweddill y flwyddyn. Golyga hyn fod yr arian yn cael ei wario i gynorthwyo
trigolion yr ardal yn ogystal ag ymwelwyr tymhorol.
- Gwahoddwyd ceisiadau am
unrhyw adroddiad manwl am unrhyw agwedd o waith yr adran.
- Adroddodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod
cludiant ysgolion ar gyfer yr adran addysg yn flaenoriaeth fawr. Nid oedd y
Cyngor eisiau bod yn ddibynnol ar gwmnïau mawr i weithredu gwasanaethau o’r
fath.
- Eglurwyd er mwyn sicrhau
fod y gwasanaeth oraf yn cael ei ddarparu i bobl Gwynedd, bod yr adran yn
cydweithio gyda’r Llywodraeth. Nodwyd bod swyddogaethau’r Cyd-Bwyllgor
Corfforedig yn rhoi gofyniad statudol ar y Cyd-Bwyllgor i gynhyrchu Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol erbyn Gorffennaf 2023 a datblygu cynlluniau newydd pob
5 mlynedd wedi hynny.
- Esboniwyd fod cyd-weithio gyda TrawsCymru yn effeithiol iawn gan alluogi gweithredu
gwasanaeth a oedd yn ymweld â sawl ardal wledig er mwyn cyrraedd anghenion
trigolion lleol.
- Cydnabuwyd fod y gwasanaeth
cludiant wedi gorwario £300,000.00 eleni a nodwyd fod yr adran yn ymwybodol
iawn o’r angen i sicrhau fod costau’r gyllideb yn cael ei lynu ato yn y
dyfodol.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Holwyd os oedd
cynlluniau i ail-gyflwyno gwasanaeth bws 10yh fel roedd yr angen yn codi mewn
ardaloedd gwledig, gan fod pris y gwasanaeth yn rhatach i ddefnyddwyr na
dulliau eraill o deithio megis archebu tacsi.
- Mewn ymateb i’r ymholiad hwn, nododd
Pennaeth Adran Amgylchedd bod diffyg gyrwyr yn her fawr i’w oresgyn. Os byddai
sefyllfa niferoedd gyrwyr yn gwella yn y dyfodol, gobeithir y byddai mwy o’r
gwasanaethau hwyr yma yn gallu rhedeg unwaith eto gan fod gwerth cymdeithasol
i’r teithiau Eglurodd oherwydd y sefyllfa bresennol roedd rhaid i gwmnïau
flaenoriaethu adnoddau.
Cwestiynwyd os
oedd cydweithio yn digwydd rhwng adrannau’r Cyngor er mwyn hyrwyddo’r swyddi
hyn sydd ar gael gan y cwmnïau bysiau.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y
Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd bod hyn yn digwydd. Yn ogystal,
roedd gan Lywodraeth Cymru syniadau ar sut i ddenu mwy o yrwyr bysiau. Er hyn ,
yn anffodus, roedd llawer o weithwyr hŷn wedi ymddeol ers y cyfnodau clo
ac yn anodd sbarduno diddordeb ym mhobl ifanc i fod yn yrwyr bysiau.
Cydnabuwyd fod TrawsCymru yn ymweld a mwy o ardaloedd gwledig nad oedd yn
derbyn gwasanaethau bysiau yn rheolaidd yn y gorffennol, ond bod rhai ardaloedd
yn parhau i golli allan o’r llwybr teithio presennol. Holwyd os oes modd newid
y llwybrau hyn. Nodwyd y byddai’n fuddiol i’r Adran ofyn am farn aelodau ynghyd
â cynghorau tref a chymuned o ran gwelliannau.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, datganodd
Pennaeth Adran Amgylchedd bod yr adran yn ymwybodol iawn bod y gwasanaeth bws
mewn rhai ardaloedd ddim yn ddigonol. Sicrhaodd bod gwaith yn cael ei wneud er
mwyn ymweld â gwahanol ardaloedd er mwyn deall faint o angen sydd yno am
wasanaeth bws a sut i newid y llwybrau teithio yn effeithiol i gyrraedd
anghenion.
Cyfeiriwyd at
gostau gweithredu’r gwasanaeth yma, a
holwyd os byddai bysiau trydan yn ddefnyddiol yn y dyfodol er mwyn rheoli’r
sefyllfa ariannol.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, rhannodd
Pennaeth Adran Amgylchedd bod isadeiledd ar gyfer gwasanaeth T22 yn cael ei
osod ym Mhorthmadog ar hyn o bryd. Rhagwelwyd y byddai cyflenwad trydan yn cael
ei gysylltu ar y safle ym mis Tachwedd a byddai modd cynnal a hybu gwasanaeth
carbon isel i drigolion yr ardal yn dilyn hynny. Nid oedd amserleny
gwasanaeth yma ar gael ar hyn o bryd gan fod angen amser i ystyried faint o hir
y cymerir i’r bysiau i wefru’n llawn. Roedd yr adran yn ffyddiog byddai’r
cyflenwad trydan yn cael ei gysylltu yn unol â’r amserlen a ragwelwyd.
Yn dilyn
llwyddiant yr adran i newid amserlenni bysiau yn ddiweddar, holwyd os oedd
cynlluniau i greu amserlenni electronig yn y dyfodol.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd
Pennaeth Adran Amgylchedd bod amserlenni byw wedi bod yn cael eu defnyddio yn y
gorffennol ond roeddent yn anodd i’w rheoli. Gan nad oedden nhw yn ofyniad
statudol, penderfynwyd terfynnu y gwasanaeth hwnnw.
Er hyn, TrawsCymru yn gosod byrddau electronig er
mwyn hysbysu teithwyr o amser y bws nesaf. Nid oedd rhain yn hysbysu os oedd y
bws yn hwyr. Gobeithir peilota amserlenni electronig
yn y dyfodol er mwyn gweld sut byddai’r amserlenni electronig byw yn gweithio o
dan y system newydd.
Cyfeiriwyd at y
Gwasanaeth Sherpa, holwyd os oedd bwriad i wella cysylltiadau mewn ardaloedd
cyfagos.
-
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth pe byddai galw yr edrychir ar wella’r rhwydwaith
gyda teithiau yn cysylltu â’r Sherpa.
Holwyd o ran
cyrraedd anghenion holl ardaloedd gwledig, holwyd os byddai modd cynnig
gwasanaeth hyblyg megis bws fflecsi neu dacsi er mwyn
i bobl allu cyrraedd ardaloedd oedd ar llwybr taith bysiau gwasanaeth.
- Mewn ymateb i’r ymholiad
hwn, cydnabuwyd ei fod yn anodd i’r bysiau basio pob aelwyd ym mhob ardal.
Nodwyd bod gwasanaethau fel y bws fflecsi wedi bod yn
effeithiol iawn yn y gorffennol. Byddai gwasanaeth o’r fath yn cyflawni’r
bwriad o’r gwasanaeth fflecsi er mwyn iddo fod yn
gost effeithiol i drigolion ac yn ateb problemau llwybrau teithio.
Nododd aelod eu
bod wedi defnyddio darpariaeth ‘Bwcabws’ yn ardal
cyngor arall a’i bod wedi cael profiad da. Ychwanegodd y byddai’n croesawu
darpariaeth bws ar alw yng Ngwynedd.
-
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth bod bws ar alw yn ffordd cost effeithiol
i gyfarch anghenion teithwyr.
Gyda pobl hŷn
a phobl anabl yn dibynnu’n fawr ar y gwasanaeth cludiant, datganwyd pryder yn
nhoriadau yn y gwasanaethau rhwng Bangor a Wrecsam gan fod llawer o bobl yn
dibynnu ar y gwasanaeth hwn ar gyfer ymweliadau ysbytai.
- Mewn ymateb i’r ymholiad,
datganodd Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd eu bod yn ymwybodol
iawn o bwysigrwydd y gwasanaethau hyn. Nododd bod gwasanaethau T2 a T3 wedi
cael eu diwygio er mwyn sicrhau nad oedd trigolion yn colli cysylltiadau rhwng
gwasanaethau.
Mewn ymateb i gais
gan aelod, nododd y Pennaeth y byddai’n rhannu’r adroddiad a luniwyd gan
Prifysgol Bangor yng nghyswllt gwerth cymdeithasol siwrneiau gyda aelodau’r
Pwyllgor.
Holwyd sut gellir
gwarchod cwmnïau bysiau bychan lleol pan mae cwmnïau mawr yn brwydro yn eu
erbyn i gael contractau cludiant gan y Cyngor yng nghyd-destun y newidiadau yn
deillio o bapur gwyn y Llywodraeth
- Mewn ymateb i’r ymholiad, eglurodd y
Pennaeth Adran bod y broses rhyddfreinio yn fater a oedd yn peri gofid ar yr
olwg gyntaf. Nododd bod yr adran wedi derbyn cadarnhad gan y Llywodraeth bod
cwmnïau bychan yn bwysig i’r farchnad.
Eglurodd bod cwmnïau lleol yn gallu darparu gwasanaethau na all gwmnïau
mwy eu darparu. Roedd yn bwysig sicrhau gwerth am arian gan roi chwarae teg i
gwmnïau bach. Cadarnhaodd y rhoddir ystyriaeth i’r ddarpariaeth wledig.
PENDERFYNWYD
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: