I ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu Gofal ar yr argyfwng staffio sy’n bodoli ac yn gwaethygu yn y maes gofal oedolion.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Cofnod:
Adroddodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr adroddiad
Recriwtio a Chadw Staff yn darparu cefndir ac yn amlygu’r argyfwng staffio sy’n
bodoli o fewn yr Adran. Nodwyd bod yr adroddiad yn un gonest sydd ddim yn
ceisio cuddio unrhyw broblem. Ychwanegwyd bod yr argyfwng staffio yn y maes yn
un cenedlaethol sy’n effeithio ar Awdurdodau Lleol yn ogystal â’r Gwasanaethau
Iechyd.
Manteisiwyd ar y cyfle i ddiolch i staff yr Adran am eu gwaith yn
ogystal â’r Pennaeth a’r Pennaeth Cynorthwyol am yr adroddiad. Nodwyd
y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Tîm Arweinyddiaeth â’r Cabinet a bod
trafodaethau yn cael eu cynnal yn genedlaethol a Rhanbarthol er mwyn uchafu’r
argyfwng presennol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cynorthwyol gan nodi’r cefndir
sydd yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa. Adroddwyd bod materion staffio yn y
maes wedi derbyn blaenoriaeth ers peth amser ac yn derbyn sylw yn lleol cyn y
cyfnod Cofid ond bu i’r pandemig waethygu sefyllfa oedd eisoes yn fregus.
Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y prif heriau
megis cadw gafael ar staff a cheisio denu staff newydd i’r maes. Crynhowyd y
rhesymau dros yr heriau hyn cyn nodi sut mae’r Adran yn ceisio ymateb i’r
sefyllfa a’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr
adroddiad yn un agored am yr heriau mae’r Adran yn ei wynebu a bod Adrannau
eraill megis yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd hefyd yn wynebu heriau
sylweddol. Credwyd ei bod yn bwysig rhannu’r heriau gan eu bod yn effeithio ar
allu’r Adran i ddarparu gwasanaethau. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn rhoi
darlun mewnol o sefyllfa’r Cyngor a ddim yn cynnwys heriau tebyg sy’n bodoli yn
y sector breifat a’r drydedd sector. Adroddwyd bod y sectorau hyn hefyd yn
wynebu'r un heriau recriwtio.
Soniwyd am effaith y sefyllfa er enghraifft rhestrau aros maith,
cleifion yn methu dychwelyd adra o’r ysbytai a’r pwysau ar staff. Nodwyd bod
llawer o ymdrech a gweithgaredd yn digwydd, ac er bod yr Adran wedi profi
llwyddiannau bychain, nid oes eto datrysiad i’r sefyllfa sy’n peri pryder.
Pwysleisiwyd bod angen edrych ar yr hyn all gael ei wneud yn lleol a beth sydd
o fewn rheolaeth y Cyngor ac yr Adran drwy sicrhau buddsoddiad gofalus o
adnoddau presennol. Nodwyd mai adroddiad dechreuol yw hwn a gobeithir derbyn
awgrymiadau gan y Pwyllgor Craffu ac awydd gan Aelodau i gynorthwyo a bod yn
rhan o’r datrysiad.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd am yr adroddiad. Credwyd ei bod yn ddyletswydd
ar Gynghorwyr i hyrwyddo’r swyddi yn y maes gofal i bobl leol.
·
Gofynnwyd a yw’n bosib cynyddu’r cyswllt
efo Colegau megis Coleg Meirion Dwyfor a chynnig lleoliadau i ddisgyblion.
Holwyd os yw’n bosib ymweld â’r Coleg i siarad am ba waith a chyfleoedd sydd ar
gael yn y maes gofal. Credwyd bod angen annog y dosbarthiadau iechyd a gofal
cymdeithasol i chwilio am gyfleoedd yn lleol a sicrhau bod hyfforddiant parhaus
ar gael yn y gweithle.
·
Holwyd os oes bwriad i gynyddu cyflogau gofalwyr yn y
dyfodol i’w cadw nhw rhag gadael eu swyddi.
·
Nodwyd bod y ffigwr sy’n dangos
gostyngiad o 42% yn nifer yr unigolion sydd wedi gwneud cais i gymhwyso fel
Gweithwyr Cymdeithasol ar draws Gymru eleni o gymharu â 2016 yn drawiadol.
Gofynnwyd beth yw’r ffigwr yng Ngwynedd.
·
Gofynnwyd a oedd lefel cyflog
cenedlaethol yn bodoli i Weithwyr Cymdeithasol fel sydd mewn lle ar gyfer
athrawon.
·
Mynegwyd balchder bod gwaith lobio yn digwydd efo’r
Llywodraeth ac anogwyd i hyn barhau er mwyn ceisio cael newid cenedlaethol.
·
Holwyd sut y mae lefelau cyflog yng Ngwynedd yn cymharu
efo Môn neu Gonwy.
·
Nodwyd ei bod yn ddigalon clywed am yr argyfwng yn y maes
gofal, yn enwedig bod canran o 44% a 34% o swyddi a hysbysebwyd heb dderbyn
unrhyw gais rhwng Ebrill a Gorffennaf flwyddyn yma. Holwyd sut mae’r ffigyrau
hyn yn cymharu â Siroedd eraill ac efo Adrannau eraill yn y Cyngor.
·
Ychwanegwyd y byddai wedi bod yn fuddiol i’r adroddiad
ganolbwyntio mwy ar y datrysiadau i’r problemau recriwtio.
·
Cyfeiriwyd at ran 5.4 o’r
adroddiad gan holi am ddiweddariad ar waith y swyddog gafodd ei phenodi yn
Rhagfyr 2021 i ddatblygu'r llwybrau gyrfa sydd ar gael yn y maes ac i ymgymryd
â gwaith marchnata.
·
Holwyd pa gynlluniau sydd ar y gweill i ail gynhyrchu
llwyddiant digwyddiad Plas Hedd ym Maesgeirchen.
·
Credwyd bod pryder yn bodoli ymysg Gweithwyr Cymdeithasol
a bod pryderon wedi eu datgan am y trawsnewid trefniadau gofal cartref sydd
wedi digwydd. Gofynnwyd sut mae’r Adran yn cefnogi staff presennol yn ogystal â
cheisio recriwtio staff newydd. Dymunwyd cael gwybod faint o ymdrech sydd wedi
bod pan mae gweithwyr gofal yn gofyn am help ac os oes modd ysgafnu’r baich.
·
Awgrymwyd y dylai’r Adran edrych
ar gyfleodd pellach e.e. cynnig swyddi rhan amser pan nad oes neb ar gael i
lenwi swyddi llawn amser ac edrych ar staff mewnol y Cyngor all gael eu
hyfforddi i helpu ambell ddiwrnod o'r wythnos. Pwysleisiwyd bod angen
hyblygrwydd ac efallai ceisio targedu staff sydd yn colli eu gwaith o ganlyniad
i sefydliadau / siopau yn cau.
·
Holwyd os yw’r Adran yn cynnal cyfweliadau efo staff sy’n
gadael er mwyn nodi eu rhesymau dros adael eu swyddi.
·
Gofynnwyd a oes staff wedi eu
colli yng Ngwynedd oherwydd eu bod nhw wedi gwrthod y brechlynnau cofid.
·
Cytunwyd efo sylwadau blaenorol
Aelodau am dargedu Ysgolion a Choleg Meirion Dwyfor ond cwestiynwyd os yw
trigolion cefn gwlad yn mynd i gymryd y cyfleoedd i hyfforddi tra mae costau
trefeillio, tanwydd a rhedeg ceir mor ddrud. Ychwanegwyd bod hyn yn her o
ystyried bod gweithwyr siop yn cael eu talu'r un fath os nad yn well na rhai
swyddi o fewn y maes gofal. Credwyd nad yw’r cyflog i ofalwyr yn ddigonol i
gydnabod y cyfrifoldebau.
·
Teimlwyd bod y system iechyd a gofal cymdeithasol ddim yn
cydweithio’n effeithiol e.e. pobl yn methu dychwelyd adra o’r ysbytai.
·
Credwyd bod angen gweithio efo’r system iechyd er mwyn
sicrhau bod swyddi a hyfforddi pellach ar gael i’r sawl sy’n graddio yn y maes
neu’n cwblhau cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol.
·
Mynegodd y Cadeirydd ei
werthfawrogiad am waith yr Adran o dan amgylchiadau heriol iawn a chymerodd y
cyfle i ddiolch i staff yr Adran am eu gwaith. Yn ogystal diolchwyd i Aelodau’r
Pwyllgor am eu cwestiynau.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Byddai modd gwneud ymholiadau i
weld a oes gostyngiad wedi bod yn nifer y rhai o Wynedd sydd wedi gwneud cais i
gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol.
·
Bod lefelau cyflog gweithwyr
cymdeithasol yn amrywio ar draws Awdurdodau. Nodwyd bod Gofal Cymdeithasol
Cymru yn edrych ar y mater Cenedlaethol hwn a’i fod yn rhan o drafodaethau efo
Llywodraeth Cymru. Cytunwyd y byddai lefel cyflog Cenedlaethol yn arbed staff
rhag symud rhwng Awdurdodau.
·
Bod yr Adran yn ceisio annog pobl
i ddilyn gyrfaoedd yn lleol a bod perthynas dda yn bodoli efo Coleg Meirion
Dwyfor. Bydd angen sicrhau bod y berthynas yma’n parhau a bod cynigion a
chyfleoedd yn cael eu rhoi yng nghyd diestyn profiadau gwaith a’n rhan o asesu
cyrsiau. Adroddwyd bod y Rheolwr Datblygu Gweithlu yn ceisio symud y gwaith hwn
yn ei flaen.
·
Ei bod yn bosib i Swyddog fynychu
Coleg Meirion Dwyfor i siarad am y cyfleoedd yn y maes Gofal. Eglurwyd bod hyn
wedi digwydd yn y gorffennol ond credwyd y dylid pwysleisio ar y cydweithio a
gwella’r strwythur yn gyntaf. Ychwanegwyd y gall hyn ddigwydd yn y dyfodol.
·
Bod gwybodaeth yn yr adroddiad ar
effaith cytundeb tâl ar gyflogaeth, sydd yn gyffredinol ar draws swyddi Awdurdodau
Lleol. Adroddwyd bod trafodaethau Cenedlaethol yn cael eu cynnal efo
Partneriaid i edrych ar lefelau cyflog yn y maes gofal. Ychwanegwyd bod gwaith
mewnol hefyd yn digwydd i adolygu Swydd Ddisgrifiadau. Credwyd ei bod yn
amserol i edrych ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau gweithwyr yn y maes gan fod
y gwaith wedi cynyddu ac wedi cymhlethu yn y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd bod
anghenion trigolion wedi newid ac wedi dwysau, bellach mae angen i weithwyr
berchnogi sgiliau a hyfforddiant arbenigol cyn ymgymryd ag agweddau o’r gwaith
felly mae angen gwirio’r cyflogau sy’n cael eu talu i staff.
·
Yn dilyn cais am eglurder am yr
hyn a nodwyd yn rhan 3.8 o’r adroddiad, cadarnhawyd mai 13 oedd cyfanswm y
staff o dimau gwaith cymdeithasol yn y maes Oedolion adawodd eu swyddi yn
2021/22 i un ai fynd i weithio i Awdurdodau Lleol eraill neu i ddilyn gyrfaoedd
tu allan i’r sector. Nodwyd nad oedd y ffigwr hwn ar sail canran ar gael ar hyn
o bryd. Ychwanegwyd bod mwyafrif o’r 13 swydd yma bellach wedi eu llenwi ond y
byddai’n cymryd amser i ddalwyr newydd y swyddi ennill y profiad perthnasol.
·
Bydd angen edrych ymhellach i
ganfod y ffigyrau ynglŷn â sut mae lefelau cyflog Gwynedd yn cymharu â
lefelau cyflog Siroedd cyfagos.
·
Cytunwyd bod y sefyllfa recriwtio
yn ddyrys ac yn gyffredinol credwyd bod negeseuon cysgon gan Siroedd eraill
sydd yn awgrymu eu bod nhw’n wynebu’r un heriau recriwtio a Gwynedd. O gymharu
ag Adrannau eraill o fewn y Cyngor, cadarnhawyd mai’r maes Oedolion sydd yn
wynebu’r heriau mwyaf o bell ffordd o ran recriwtio.
·
Nodwyd bod y swydd y cyfeirir ati
yn rhan 5.4 o’r adroddiad wedi dangos ei gwerth o’r mis cyntaf a bod y galw ar
y swyddog yn uchel. Cyfeiriwyd at ddigwyddiadau gafodd eu cynnal e.e. ym
Maesgeirchen ond bod rhaid i’r swyddog ddethol be all gael ei gyflawni.
Adroddwyd bod swyddi fel hyn yn hanfodol er mwyn helpu i wella’r ddelwedd o
weithio yn y maes ac i bontio’r gwaith Cenedlaethol ac i fuddsoddi mewn
brandio. Ychwanegwyd bod yr adnodd yn werthfawr.
·
Adroddwyd bod digwyddiadau tebyg
i ddigwyddiad Plas Hedd wedi cael eu cynnal e.e. ym Mhorthmadog a Blaenau
Ffestiniog ond yn anffodus heb brofi'r un llwyddiant. Nodwyd bod amrywiaeth
ymysg cymunedau a chredwyd bod ymgyrchoedd lleol yn dueddol o fod yn fwy
llwyddiannus nac ymgyrchoedd cenedlaethol. Nodwyd bod gan yr Adran restr hir o
ardaloedd y dymunant eu targedu.
·
Mewn ymateb i sylw os oedd yr
Adran yn cysidro targedu Ysgolion er mwyn amlygu gyrfaoedd yn y maes, nodwyd
bod yr Adran yn y broses o greu pecyn ond angen rhoi mwy o sylw iddo. Bydd hwn yn
ffordd o grynhoi gwybodaeth berthnasol ac yn rhan o waith yr Uned Datblygu
Gweithlu â’ Swyddog Marchnata a Datblygu Gyrfaoedd.
·
Cydnabuwyd bod pwysau ar staff
fel Gweithwyr Cymdeithasol a bod lles staff yn bwysig i’r Adran. Gofynna’r
Adran am fewnbwn cyson gan y Gweithwyr Cymdeithasol a cheisir rhoi cefnogaeth
i’r gweithwyr. Nodwyd bod yr Arweinyddion Tîm a’r Uwch Reolwyr yn cadw golwg ar
y sefyllfa ac yn ceisio ysgafnhau’r baich ar staff. Bydd cyfathrebu yn digwydd
ar bob lefel ac ymweliadau yn cael eu cynnal. Nodwyd bod yr Aelod Cabinet a’r
Pennaeth wedi ymweld ag unigolion sy’n gweithio yn y maes yn ogystal â
chartrefi gofal er mwyn sgwrsio â staff a defnyddwyr gwasanaeth. Anogwyd yr
Aelodau i ddod i gysylltiad os yn ymwybodol o aelod o staff o fewn yr Adran
sydd yn dymuno sgwrs bellach.
·
Adroddwyd bod yr Adran mewn
cydweithrediad efo’r Cyngor yn cynnig gwasanaethau fel Medra a bod rhaglenni
Cenedlaethol o gefnogaeth yn bodoli. Cynigiwyd trefnu sgwrs efo’r Uwch Reolwr
Gwasanaethau Oedolion neu’r Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd ac Iechyd
Meddwl i Aelodau sy’n dymuno er mwyn eu galluogi i dderbyn mwy o fanylder am y
gwasanaeth cefnogi Gweithwyr Cymdeithasol.
·
Adroddwyd bod y gwaith ar
drawsnewid trefniadau gofal cartref yn digwydd am y rhesymau cywir i geisio
gwella’r gwasanaeth i bobl Gwynedd. Ychwanegwyd ei bod yn anffodus bod y newid
hwn wedi digwydd ar adeg pan mae’r Gwasanaeth o dan bwysau enfawr sy’n cael ei
gymhlethu ymhellach oherwydd yr heriau recriwtio. Credwyd y gellir gwerthuso’r
canlyniadau mewn blwyddyn i flwyddyn a hanner er mwyn gweld os yw’r trawsnewid
wedi gweithio. Ychwanegwyd nad y trawsnewid sydd wedi creu'r problemau ond bod
yr amseru wedi bod yn anffodus a'i bod yn anodd mesur llwyddiant ar hyn o bryd.
·
Nodwyd bod yr Adran yn ceisio
hyrwyddo cyfleon, maent eisoes wedi anfon newyddlen i staff yr Adran yn hysbysu
cynigion i hyfforddi er mwyn gallu helpu efo elfennau o’r gwaith. Y cam nesaf
bydd ymestyn y cynnig i staff y Cyngor er mwyn gweld os oes rhai yn dymuno
helpu. Ychwanegwyd bod yr Adran yn ystyried ac yn derbyn ceisiadau am nifer
amrywiol o oriau a bod cyfleoedd ar gael i ba bynnag faint o oriau sy’n bosib
gan unigolion i weithio.
·
Gwnaethpwyd sylw bod yr Adran yn
noddi ac yn cynnig profiadau gwaith ac wedi cefnogi staff presennol yr Adran i
hyfforddi a datblygu eu gyrfaoedd a’u galluogi i dderbyn swydd yn dilyn
cwblhau’r cyrsiau perthnasol. Anogwyd unigolion sydd â diddordeb mewn dilyn
gyrfa yn y maes gofal i ddod mewn cysylltiad â’r Adran.
·
Adroddwyd bod cyfweliadau gadael
eisoes yn cael eu cynnal gan yr Adran a bod llawer o’r wybodaeth sydd wedi ei
gynnwys yn yr adroddiad wedi deillio o’r cyfweliadau hynny. Ychwanegwyd bod
gwyliau’r Haf yn gyfnod anodd oherwydd bod cystadleuaeth yn erbyn swyddi
tymhorol sy’n talu’n dda.
·
Cadarnhawyd nad oedd staff wedi
eu colli o’r Adran oherwydd gwrthwynebiad i gael eu brechu.
·
Adroddwyd bod y Cyngor yn cynnig
cymorth i staff er mwyn eu helpu i brynu ceir. Cydnabuwyd bod teithio yn
broblem i rai ac o ganlyniad bod rhai yn symud i swyddi ble nad oes gofyn i
deithio.
·
Mewn ymateb i gwestiwn am
lwyddiant cynllun peilot Nefyn, adroddwyd bod llwyddiannau wedi eu gweld a’i
fod wedi cyfrannu at ddysgu am fodelau newydd o weithio.
·
Adroddwyd bod llawer o gydweithio
rhwng y Cyngor a’r sector iechyd yn enwedig ar lefelau lleol ond weithiau bod y
gwahaniaeth rhwng systemau iechyd a systemau gofal yn gallu gwneud pethau’n
anodd. Credwyd bod lle yma i wella.
Mynegodd yr Aelod
Cabinet ei ddiolch i’r Pwyllgor am eu cwestiynau. Ychwanegodd bod pethau’n
ymddangos yn dywyll ond bod cynlluniau blaengar a chyffrous yn mynd yn eu
blaenau yn yr Adran.
Ychwanegodd y
Pennaeth bod pob ymdrech yn cael ei roi i’r gwaith yn y maes gofal a’i fod yn
gwerthfawrogi mewnbwn y Pwyllgor. Cynigiwyd hwyluso cyfarfodydd grŵp
ffocws i ddau o aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal a staff yr Adran er mwyn cynnal
sgyrsiau hollbwysig yna gallent adrodd yn ôl i weddill y Pwyllgor.
I gloi nododd y Pennaeth ei fod yn gobeithio bod yr adroddiad yn rhoi
blas o’r gwaith sy’n parhau ac yn mynd i ddigwydd yn yr Adran. Mynegodd ei
awydd i Gynghorwyr dderbyn gwybodaeth er mwyn cael darlun clir o’r sefyllfa yn
y maes. Adroddwyd y bydd yr Adran yn ceisio diweddaru’r Pwyllgor ynglŷn â
datblygiadau posib gan obeithio y bydd yr Adran yn profi llwyddiant a’n gallu
lleihau'r heriau.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Dogfennau ategol: