Cais ar gyfer codi estyniad
ochr ar gyfer storfa
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd fod y bwriad yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel ac
felly mae’n groes i egwyddor polisi PCYFF 3 Dylunio a Siapio Lle o’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Mon (2017).
Cofnod:
Cais ar gyfer codi estyniad ochr ar gyfer storfa
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi
estyniad unllawr ar ochr tŷ unllawr
ar gyfer defnydd fel storfa. Nodwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys mynedfa ar
ei flaen a chefn ac ni fyddai mynedfa fewnol o’r eiddo. Saif yr eiddo mewn rhes
o dai ar wahân gerllaw ffordd ddosbarth 2 y B4413 mewn ardal anheddol o fewn
ffin ddatblygu Pentref Arfordirol - Gwledig Aberdaron fel y’i diffinnir gan yn
y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a hefyd o fewn Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ddynodedig a Thirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.
Cyflwynwyd
y cais gerbron y Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.
Ystyriwyd
Polisi PCYFF 3 y CDLL sy’n datgan bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o
ansawdd uchel a rhoi ystyriaeth lawn i gyd-destun yr amgylchedd adeiledig o’i
gwmpas. Er gellid ystyried graddfa’r bwriad yn un bychan, nodwyd bod y rhan
sy’n ymestyn o flaen yr eiddo yn amlwg ac yn tynnu sylw'r llygad at bresenoldeb
y strwythur. Wrth edrych ar batrwm datblygu cyffredinol y stryd, nodwyd bod y
byngalos cyfagos i gyd yn eistedd mewn cwrtil eithaf sylweddol gyda lle rhwng
ochor y tai a’r ffensys terfyn. Er cydnabuwyd bod ambell sied gardd a paraffinalia preswyl rhwng rhai o’r tai eraill roedd y
gwagle yn bennaf yn parhau ond byddai’r bwriad yn golygu codi adeilad sydd yn
llenwi’r bwlch yn gyfan gwbl ac yn lleihau'r gwagle rhwng y tai.
O
ganlyniad, ni ystyriwyd fod y bwriad yn ychwanegu nac yn gwella cymeriad ac
ymddangosiad y tŷ a’r safle; nac yn parchu edrychiad a chymeriad y
strydlun. Ategwyd bod maint a lleoliad yr estyniad, ynghyd a pits y to a’r gorffeniad yn anaddas ac nad oedd yn
arddangos dyluniad o ansawdd uchel oedd yn cydweddu a’r eiddo presennol. Er
posib gosod amod i gytuno ar ddeunyddiau ac o bosib gwella’r hyn sydd i weld ar
y safle, ni ystyriwyd y byddai hynny yn ddigonol i gwrdd gydag anghenion polisi
PCYFF 3.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Mai defnydd storfa yw’r bwriad
·
Ei fod yn hapus gydag argymhelliad y swyddogion i wrthod
·
Bod y gwaith o godi estyniad wedi dechrau ers rhyw flwyddyn
·
Yn ddiolchgar bod y lluniau a gyflwynodd wedi eu rhannu
·
Cwt neu ‘lean-to’ sydd yma ac nid
estyniad
·
Byddai yn sownd i’r wal derfyn ac yn ddolur llygad
·
Byddai’n lleihau'r gwagle rhwng y tai
·
Bod y pedwar eiddo sydd yn y rhes yn debyg, ond byddai’r bwriad
dan sylw yn ei wneud yn wahanol – nid yw yn gweddu
·
Ei fod yn tynnu sylw at gasgliadau ac argymhelliad y swyddogion,
‘ni ystyrir fod y bwriad yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel’
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
PENDERFYNWYD: Gwrthod
Ni ystyriwyd fod y bwriad yn arddangos
dyluniad o ansawdd uchel ac felly mae’n groes i egwyddor
polisi PCYFF 3 Dylunio a Siapio Lle o’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn (2017).
Dogfennau ategol: