Edrychiad a dyluniad yr anheddau i gynnwys deunyddiau, graddfa
anheddau a tirlunio gan gynnwys gosodiad diwygiedig i ddarparu 14 annedd yn
hytrach na 15 er darparu gofynion system ddraenio cynaliadwy.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau -
Nodyn fod amod 12 o’r caniatâd amlinellol
sy’n ymwneud â materion draenio wedi eu rhyddhau fel rhan o’r caniatâd yma.
Nodyn SUDS
Cofnod:
Edrychiad a dyluniad yr anheddau i gynnwys deunyddiau, graddfa
anheddau a thirlunio gan gynnwys gosodiad diwygiedig i ddarparu 14 annedd yn
hytrach na 15 er darparu gofynion system ddraenio gynaliadwy
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer materion a gadwyd
yn ôl mewn cyswllt a chaniatâd cynllunio amlinellol C18/1198/45/AM. Nodwyd bod
caniatâd C18/1198/45/AM ar gyfer codi 15 tŷ (oedd yn cynnwys 5
fforddiadwy) ond bod y cais dan sylw ar gyfer darparu 14 o dai a hynny er mwyn
darparu gofynion system ddraenio gynaliadwy.
Saif y safle, sydd wedi ei ddynodi ar gyfer Tai yn y CDLl,
o fewn ffin datblygu Pwllheli ac oddi fewn i Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol Llyn
ac Enlli. Nodwyd bod ffordd ddosbarth 3
yn ffinio gyda’r safle, bod tai annedd gerllaw a safle Coleg Meirion Dwyfor
gyferbyn a’r safle.
Cyflwynwyd
y cais i Bwyllgor gan ei fod yn ymwneud gyda 5 neu fwy o dai.
Atgoffwyd yr Aelodau bod egwyddor y bwriad eisoes wedi eu caniatáu.
Adroddwyd bod y cais presennol wedi ei gyflwyno gan Adra ac yn fwriad i
ddarparu 100% o unedau fforddiadwy. Yn dilyn cefnogaeth Uned Strategol Tai
Cyngor Gwynedd, nodwyd bod Adra yn bwriadu cyflwyno’r cynllun i Lywodraeth
Cymru ar gyfer cymeradwyaeth grant tai cymdeithasol.
Amlygwyd
bod sylwadau’r Uned Strategol Tai yn datgan fod y bwriad yn cyfarch yr angen yn
yr ardal a bod y cynlluniau yn cyfrannu
yn uniongyrchol at nod Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd i ddarparu mwy o
dai i gwrdd â’r galw uchel bresennol sydd yn bodoli yn y sir. Er hynny, gyda’r
cais o dan sylw i gytuno ar faterion a gadwyd yn ôl yn unig, nid oedd bwriad i ryddhau’r amod tai
fforddiadwy fel rhan o’r cais oedd gerbron. Byddai’r materion tai fforddiadwy
yn cael eu hystyried trwy gais rhyddhau neu ddiwygio amod ar wahân.
Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd y byddai datblygu’r
safle yn newid i rai trigolion cyfagos ac y byddai’r datblygiad yn creu mwy o
draffig. Fodd bynnag, nodwyd bod y tir
wedi ei glustnodi ar gyfer nifer mwy o dai yn y CDLl
na’r hyn oedd wedi ei ganiatáu yn y cais amlinellol. Ategwyd y byddai anghyfleustra yn ystod y
gwaith adeiladu yn rhywbeth sydd yn codi gydag unrhyw waith adeiladu a bod amod
ar y caniatâd amlinellol yn cyfyngu oriau’r gwaith adeiladu. Ni ystyriwyd y byddai datblygu’r safle yn
creu effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r gymdogaeth leol a bod y bwriad yn
dderbyniol o ran Polisi PCYFF 2 CDLl.
Ystyriwyd fod y materion a gadwyd yn ôl ar ganiatâd amlinellol
C18/1198/45/AM yn dderbyniol ac yn unol â’r polisïau cynllunio perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol:
·
Yn diolch am y cyfle i annerch y Pwyllgor ynghlyn
a’r cais oedd ar gyfer materion a gadwyd yn ol yn
ymwneud a chaniatad amlinellol a gafodd ei gymeradwyo
yn 2019.
·
Bod y safle o fewn perchnogaeth Coleg Grwp Llandrillo Menai yn
flaenorol ond bellach wedi ei werthu i Gymdeithas Tai, Adra.
·
Bod y safle wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl yn y CDLl gyda chaniatâd amlinellol wedi ei gymeradwyo ar gyfer
15 o dai, gyda phum tŷ fforddiadwy.
·
Bod yr egwyddor o ddatblygu tai ar y safle wedi ei gymeradwyo yn flaenorol
a’r cais gerbron yn ymwneud gyda dyluniad manwl ac edrychiad y tai, eu graddfa
a’r cynllun tirlunio.
·
Cafodd mynedfa a gosodiad y datblygiad ei gymeradwyo fel rhan o’r
cais amlinellol – dim addasiadau i fynedfa i’r safle – mae’n parhau yn union fel
a gymeradwywyd yn flaenorol.
·
Mae gosodiad y safle yn adlewyrchu’r gosodiad a gafodd ei
gymeradwyo yn flaenorol, fodd bynnag, ers y caniatâd amlinellol, rhaid i’r
bwriad gydymffurfio gyda gofynion systemau draenio cynaliadwy. Mewn ymateb i’r
gofynion rhaid gostwng nifer y tai a fyddai yn cael eu datblygu i lawr o 15 i
14. (Bydd plot 14 bellach yn cael ei ddefnyddio fel gofod ar y safle i ddarparu
pwll ymdreiddiad dwr wyneb. Bod Dwr Cymru ac Adran Dwr ac Amgylchedd YGC yn
fodlon gyda’r wybodaeth draenio oedd wedi ei gyflwyno gyda’r cais).
·
Bod man newidiadau i osodiad y safle yn dilyn darparu dyluniad
manwl y tai, megis tynnu rhywfaint o goed a phlannu rhai ychwanegol yn eu lle.
·
Bod swyddogion yn fodlon o ran dyluniad ac edrychiad y tai ac yn
nodi bod eu maint yn cwrdd a gofynion Llywodraeth Cymru; bod cymysgedd dda o dai yn cael eu darparu –rhai dwy, tair
a phedair llofft a bynglos.
·
Bod graddfa ac edrychiad yr unedau yn addas ar gyfer y safle.
·
O dan fwriad Adra, bydd yr holl unedau yn rhai fforddiadwy
·
Bod Uned Strategol Tai'r Cyngor yn gefnogol o’r gymysgedd a’r math
o unedau arfaethedig.
·
Bydd manylion pellach am yr unedau fforddiadwy yn cael eu cyflwyno
fel cais arwahan i ddelio gyda amod 19 o’r caniatad amlinellol
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Cefnogol i gynllun 100% tai fforddiadwy
·
Bod pobl leol yn pryderu bydd y tai yn cartrefu pobl sydd wedi eu
gosod mewn gwestai yn y dref
·
Bod rhai o’r byngalos ar gyfer yr
henoed – angen sicrhau eu diogelwch o ystyried bod y safle ar allt serth
·
Angen ystyried addasrwydd y lôn i
dderbyn mwy o drafnidiaeth
d) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a chynnal asesiad mwy diweddar o’r
angen lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio mai cais materion a gadwyd yn ôl oedd
i’w drafod gan fod y cais amlinellol wedi ei ganaitau.
Ategodd bod y wybodaeth berthnasol wedi ei gyflwyno gan Tai Teg a Rhestr Aros
Tai Cyffredin, ac y byddai amod manwl yn sicrhau bod y math o dai a’r ‘angen’
yn cael ei gyfarch. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn ag Adra, sydd
bellach yn gyfrifol am y datblygiad, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac
Amgylchedd, er yn derbyn y sylwadau, bod yr egwyddor eisoes wedi ei dderbyn,
bod Adra eisoes wedi amlygu bwriad o ddarparu 100% tai fforddiadawy
i gwrdd ar angen lleol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gosod amod i sicrhau bod
asesiad angen lleol yn cael ei gwblhau, nododd y Swyddog Monitro bod yr
egwyddor o ddwysedd a’r egwyddor tai fforddiadwy wedi ei dderbyn ac mai
materion a gadwyd yn ôl yn unig y gellid eu trafod. Pwysleisiodd nad oedd modd
ail agor y drafodaeth ar ganiatâd sydd eisoes wedi ei gymeradwyo na gosod amod
ar fanylion. Mewn ymateb, gwnaed sylw bod angen asesiad manwl i’r dyfodol.
Nododd y Rheolwr Cynllunio bod
trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r Gymdeithas Tai ac y bydd materion
megis cyfarch yr angen lleol yn cael eu trafod.
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau -
1. Unol gyda chynlluniau.
2. Y gwaith i’w wneud yn unol
gyda’r datganiad dull a gynhwysir yn atodiad 4 o’r Asesiad Effaith Coed.
3. Coed newydd i gael eu tarddu o
hedyn lleol a’i blannu yn unol gyda gofynion BS 8545:2014.
Nodyn fod amod 12
o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio wedi eu rhyddhau fel
rhan o’r caniatâd yma.
Nodyn SUDS
Dogfennau ategol: