Adeiladu
ysgol newydd a gwaith cysylltiol yn cynnwys ardaloedd chwarae a dysgu allanol,
parcio ar safle a mynedfa newydd i'r briffordd
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau
Nodiadau
1. Dŵr Cymru
2. Cyfoeth
Naturiol Cymru
3. Priffyrdd
4. Network Rail
5. SUDS
COFNODION:
Adeiladu ysgol
newydd a gwaith cysylltiol yn cynnwys ardaloedd chwarae a dysgu allanol, parcio
ar safle a mynedfa newydd i'r briffordd
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer
adeiladu ysgol newydd o ddyluniad cyfoes ar gyfer 150 o ddisgyblion i gymryd
lle adeilad presennol Ysgol Treferthyr, Cricieth.
Nodwyd bod y safle yn bresennol yn gae amaethyddol ac wedi ei leoli tua’r
gorllewin o ganol tref Cricieth gerllaw’r A497.
Gerllaw’r prif adeilad bydd man ar gyfer lleoli is orsaf drydan,
ystafell bwmp, storfa bin a storfa. Bydd
y bwriad hefyd yn cynnwys cae chwaraeon,
ardal chwarae wyneb caled ac ardal gemau amrywiol. Eglurwyd, fel rhan o’r
bwriad bwriedir creu mynedfa gerbydol lawr at yr ysgol a fyddai’n cynnwys cylchfan gyda llefydd parcio wedi eu lleoli o’i amgylch
ynghyd a chreu lle cadw beic ar y safle.
Bydd llwybr cerdded o’r A497 i lawr at adeilad yr ysgol a bwriedir
gwneud gwelliannau i’r llwybr cerdded ynghyd ag ymestyn golau stryd i gynnwys y
parth 20mya.
Yng nghyd destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl cydnabuwyd y byddai’r bwriad yn ychwanegu
ffurf adeiledig i gae amaethyddol presennol ac felly yn newid cymeriad yr
ardal. Fodd bynnag, gyda’r cae dan sylw yn is na’r ffordd gyfagos ar adeiald yn
bennaf unllawr o ddyluniad wedi ei ddylanwadu gan
adeiladau amaethyddol, ystyriwyd na fydda’r datblygiad yn achsoi
niwed arwyddocaol i fwynderau’r ardal.
Yng nghyd
destun bioamrywiaeth adroddwyd bod ardaloedd ecolegol pwysig yn yr ardal ac o ganlynaid bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi argymell nifer o
amodau er mwyn gwarchod a gwella bywyd gwyllt a byd natur fyddai’n cwrdd a’r
polisïau perthnasol.
Yng
nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, gwnaed sylw bod y safle dan sylw
yn cael ei ystyried fel un sydd yn hygyrch i amrywiol ddulliau o deithio.
Mynegwyd,
fel rhan o’r cais derbyniwyd adroddiad asesiad effaith ieithyddol ar ail-leoli
Ysgol Treferthyr oedd yn dod i gasgliad y byddai
adeiladu ysgol newydd yng Nghricieth yn cael effaith
bositif ar yr iaith Gymraeg, yn bennaf, oherwydd byddai mwy o gyfleoedd i blant
Criccieth ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn addysgiadol gan fydd yr
ysgol newydd yn cynnig gwell adnoddau ar gyfer cynnal mwy o weithgareddau tu
allan i oriau ysgol.
b) Amlygodd y
Cadeirydd, bod yr Aelod Lleol, wedi nodi mewn e-bost nad oedd ganddo
wrthwynebiad i’r cais
c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y
cais
ch)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau:
·
Braf gweld y cais gerbron wedi
blynyddoedd o drafod
·
Problemau amlwg gyda’r safle presennol
·
Y dyluniad yn un da
·
Trueni ei fod wedi cymryd gymaint o
amser
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau
1. Amser (5 mlynedd)
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Cytuno ar ddeunyddiau a lliwiau
terfynol
4. Amodau trafnidiaeth
5. Amodau archeolegol.
6. Gwaith tirlunio i’w wneud yn unol
gyda’r adroddiad coed a’r cynllun tirweddu.
7. Cyflwyno a chytuno cynllun manwl i
ddangos lleoliad y coed a fwriedir eu plannu ar y safle.
8. Unol gyda’r adroddiadau ecolegol a’r
adroddiad ystlumod.
9. Dim clirio coed, gwrychoedd,
llystyfiant yn ystod y tymor nythu adar (1 Ebrill i 31 Awst) oni bai y gellir
profi mewn ysgrifen na fyddai gwaith yn niweidio adar sy’n nythu.
10. Cyn i unrhyw waith ddechrau angen
cyflwyno a chytuno cynllun ar gyfer gwarchod ymlusgiaid yn ystod y cyfnod
adeiladu.
11. Cyn cychwyn ar y gwaith adeiladu cyflwyno
a chytuno ar gynllun i sicrhau na fydd symudiad moch daear yn cael ei gyfyngu.
12. Cyn cychwyn ar unrhyw waith angen
cyflwyno a chytuno cynllun atal llygredd.
13. Cyflwyno a chytuno ar gynllun torri coed
i leihau effaith ar ystlumod.
14. Cyfyngiadau oriau gwaith yn ystod y
cyfnod adeiladu
15. Enw Cymraeg i’r ysgol.
16. Amod safonol ar gyfer datblygiadau mawr o
ran gwybyddu o gychwyn y gwaith.
Nodiadau
1. Dŵr
Cymru
2. Cyfoeth
Naturiol Cymru
3. Priffyrdd
4. Network Rail
5. SUDS
Dogfennau ategol: