Defnyddio tir ar gyfer gwersylla / glampio amgen
parhaol (9 pod) (Ail gyflwyniad o gais C20/0348/35/LL)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Penderfyniad:
Rhesymau
Cofnod:
Defnyddio tir ar
gyfer gwersylla / glampio amgen parhaol (9 pod) (Ail
gyflwyniad o gais C20/0348/35/LL)
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygu mai ail gyflwyniad o gais
llawn oedd dan sylw ar gyfer defnyddio tir ar gyfer gwersylla glampio amgen
parhaol fyddai’n cynnwys 8 pod gwyliau ac 1 pod gwasanaeth (‘utility’) ynghyd
a chreu llwybr mynediad, creu/uwchraddio ffordd fynediad, tirlunio, darparu
ardal parcio, gosod gwaith trin carthffosiaeth a newidiadau i’r fynedfa
bresennol.
Eglurwyd y byddai’r safle yn cael ei wasanaethu gan fynediad amaethyddol
presennol oddi ar ffordd gyhoeddus y B4411 ac y bydd wedi ei addasu i ddarparu
lleiniau gwelededd mwy, tynnu rhan o’r wal bresennol a chodi waliau carreg
newydd.
Cyfeiriwyd
yn bennaf at y materion trafnidiaeth a mynediad gan gydnabod bod yr ymgeisydd
wedi paratoi gwybodaeth swmpus mewn
ymateb i wrthwynebiadau’r Uned Trafnidiaeth. Er hynny, nid oedd y swyddogion
cynllunio wedi eu hargyhoeddi y byddai’r bwriad yn ei gyfanrwydd yn gallu
darparu mynedfa gerbydol ddigonol na diogel ar gyfer y bwriad nac ar gyfer
defnyddwyr eraill y briffordd. Amlygwyd bod y ffordd gyhoeddus yn gymharol gul
ac y byddai unrhyw un sydd yn dewis cerdded neu reidio beic o’r safle yn cael
eu gorfodi i ddefnyddio’r briffordd ei hun gan nad oes palmant a bod waliau
ffin bresennol yn ymylu’n uniongyrchol gyda’r ffordd heb lecyn gwair rhyngddynt.
Golygai hyn y byddai cerbydau yn arafu ac yn stopio nepell oddi ar gornel y
bont sydd gyda waliau carreg cul arni pe byddai cerddwyr neu ddefnyddwyr beic
yn ymadael o’r safle.
Ategwyd y byddai gwelededd cerbydau sy’n tynnu allan o fynedfa’r bwriad
hefyd yn cael ei effeithio pe byddai cerbydau yn stopio ar y ffordd gyhoeddus
union i’r dde o’r fynedfa. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn darparu
mynedfa gerbydol mewn lleoliad peryglus.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Bod y cais yn un i ddarparu cyfleuster
o ansawdd uchel ar raddfa fach ar gyfer 8 Pod Glampio
Moethus.
·
Bod y safle wedi'i amgylchynu gan
goetir presennol ac nid yn weladwy o unrhyw olygfannau
cyhoeddus. Nid yw wedi ei leoli o fewn yr AHNE nac unrhyw ddynodiadau statudol
eraill.
·
Bod Ymchwiliad Cynllunio Cyn Ymgeisio
manwl wedi ei gynnal gyda Chyngor Gwynedd. Roedd yr ymateb yn ffafriol, ac mewn
gwirionedd roedd y cyngor cyn ymgeisio yn argymell gwneud cais am “Safle
Parhaol”. Yn seiliedig ar y cyngor a dderbyniwyd paratowyd cais cynllunio manwl
a cyflwynwyd yr adroddiadau y gofynnwyd amdanynt. Fel rhan o’r Ymholiad Cyn
Ymgeisio, ymgynghorwyd â Uned Trafnidaieth Gwynedd, a
chyfarfu Mr Gareth Roberts (Swyddog Priffyrdd)
ar y safle ar 4ydd Mehefin 2020. Yn y cyfarfod hwnnw mynegodd Mr Roberts
nad oedd “Dim gwrthwynebiad i’r cynnig gan yr Adran Drafnidaeth,
fodd bynnag, roedd yn argymell addasu’r mynediad amaethyddol presennol i’w
wneud yn addas ar gyfer traffig dwy ffordd”.
·
Yn dilyn y cyngor a dderbyniwyd,
cyflwynwyd cais cynllunio ac ail ymgynghorwyd gyda swyddog priffyrdd gwahanol
ar y cais presennol – roedd yn gwrthwynebu'r cynigion.
·
Yn y cais cychwynnol dywedodd y Swyddog Trafnidiaeth ei fod yn
“hapus gyda’r lleiniau gwelededd a ddarparwyd”. Cyflogwyd dau Ymgynghorydd
Trafnidiaeth arbenigol annibynnol, a chynhaliwyd cyfrif Traffig a Chyflymder
ATC. Yn seiliedig ar y ddau ymgynghorydd annibynnol, roedd y data traffig yn
bendant yn gwrthbrofi gwrthwynebiad diweddaraf y Swyddog Trafnidiaeth - ymateb manwl wedi ei ddarparu gan
ymgynghorwyr priffyrdd oedd wedi ei grynhoi gan y Swyddog Cynllunio.
·
Bod y safle yn eu perchnogaeth ers dros
ddeng mlynedd ar hugain a byddai’n cael ei reoli gan hi a’i gwr. Eu bod yn byw
yn lleol
·
Eu bod wedi gweithio’n agos gyda Chyngor
Gwynedd ers dros 3 blynedd ac wedi mynd
i’r afael â phob mater. Fe'u hysbyswyd y byddai'r
cynllun yn derbyn argymhelliad o gymeradwyaeth pe byddai Uned Trafnidaeth wedi newid eu safbwynt.
·
Eu bod wedi gweithio gyda'r holl
bartïon perthnasol i sicrhau bod y cynllun yn bodloni polisïau ac yn cydweddu
â'r dirwedd amgylcheddol.
·
Fodd bynnag, er derbyn gwybodaeth a
data gan ddau arbenigwr annibynnol nid ydyw’n gwrthdroi gwrthwynebiad y Swyddog
Trafnidaieth sy’n ddiffygiol ac yn anghywir o
ystyried y data.
·
Mae’r cynnig yn un o raddfa fach ar
gyfer 8 Pod Glampio yn unig, nid 80.
·
Nid oedd gan y Swyddog Trafnidaieth gwreiddiol unrhyw wrthwynebiad ac nid oedd
wedi codi unrhyw bryderon - dyma felly
oedd sail y cais.
·
Bod y cynllun yn cydymffurfio'n llawn â pholisïau - nad oedd
unrhyw resymau cynllunio dros beidio cymeradwyo'r cynllun.
·
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y
manteision sylweddol fyddai’r cynllun yn dod i’r ardal, i’r economi leol a
chyflogaeth i'r ardal
·
Yn wir werthfawrogi cefnogaeth y
Pwyllgor
c) Amlygodd y
Cadeirydd, bod yr Aelod Lleol, mewn e-bost, wedi mynegi ei fod yn cytuno â'r
argymhelliad gan swyddogion y Cyngor i wrthod y cais a’i fod yn dymuno adleisio
sylwadau a phryderon sydd wedi eu codi eisoes gan Gyngor Cymuned Llanystumdwy.
‘Gwrthwynebu ar sail fod y fynedfa
ar dro peryglus, gwelediad sâl, a thyfiant coed yn broblem yno. Hefyd fod yr arolwg wedi cael ei wneud ym mis
Hydref, ac nid yn ystod prysurdeb yr haf.’
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod yr ymgeisydd wedi ymateb yn dda i
gyfarch y gofynion
·
Bod y fynedfa yn beryglus
·
Bod dyluniad y fynedfa newydd yn newid
cymeriad yr ardal leol
d) Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â bod yn agored i apêl oherwydd sylwadau cyn swyddog
Trafnidiaeth, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y swyddog hwnnw wedi mynegi bod
modd dylunio mynedfa ddiogel, ond bod y dyluniad a gynigwyd
ddim yn ddiogel; bod nifer o elfennau i’w hystyried - llwybrau cyhoeddus, pont
gyfyng, dim palmant, nifer defnyddwyr ayyb
dd) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
PENDERFYNWYD:
Gwrthod
Rhesymau
1. Mae maen prawf 1(iii)
o bolisi TWR 3 yn nodi y caniateir datblygiadau os gellir darparu mynediad
digonol heb amharu’n sylweddol ar nodweddion a chymeriad y dirwedd. Oherwydd yr
angen i gynnal newidiadau i’r fynedfa bresennol er mwyn creu mynedfa ddiogel
i’r safle credir y byddai hyn yn cael effaith andwyol annerbyniol ar gymeriad
gwledig a mwynderau gweledol yr ardal (syn cynnwys y bont gyfagos sydd wedi ei
restru gradd II) sy’n groes i ofynion meini prawf 1 (iii)
o bolisi TWR 3 ynghyd a polisi PS20 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn 2017. Yn yr un modd, oherwydd y newidiadau angenrheidiol i’r fynedfa ynghyd
a lleoliad y fynedfa i wasanaethu’r datblygiad arfaethedig credir y byddai’n
peri niwed annerbyniol i weithrediad diogel ac effeithlon y briffordd ac
felly’n groes i ofynion polisi TRA 4.
Dogfennau ategol: