Estyniad ar flaen yr eiddo
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: caniatáu, yn groes i’r
argymhelliad
Amodau:
COFNODION:
Estyniad ar
flaen yr eiddo
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd
Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad ar flaen eiddo sydd wedi ei leoli o fewn stad o dai unllawr ar gyrion
pentref Morfa Nefyn. Nodwyd bod yr eiddo presennol yn dŷ par unllawr gyda llawr yn y to
gyda lle parcio presennol o’i flaen. Ategwyd bod yr eiddo yn dŷ
fforddiadwy 3 llofft wedi ei sicrhau gyda disgownt o 35% drwy gytundeb 106.
Eglurwyd bod y cynllun diwygiedig oedd wedi ei gyflwyno yn lleihau’r
estyniad o’i gymharu a’r bwriad gwreiddiol oherwydd lleoliad pibell ddŵr a
bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.
Adroddwyd
bod yr eiddo yn dŷ fforddiadwy oedd eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio
o dan gyfeirnod C05D/0192/42/LL a bod y bwriad yn golygu ehangu’r lolfa
bresennol. Amlygwyd, yn arferol bydd estyniadau i dai fforddiadwy yn golygu
ychwanegu ystafell wely, ond nid dyma oedd y bwriad dan sylw. O ganlyniad,
ystyriwyd nad oedd cyfiawnhad dros yr angen am ofod byw ychwanegol o gofio’r angen i gynnal yr uned fel tŷ fforddiadwy.
Bydd cyfanswm
arwynebedd llawr, ar ôl ehangu, oddeutu 122m2 sydd, yn ôl atodiad 5, paragraff
3.4.10 CCA Tai Fforddiadwy, yn mynd a’r maint tu hwnt i uchafswm arwynebedd
llawr ar gyfer tŷ fforddiadwy 4 ystafell wely. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad, oherwydd ei faint yn groes i ofynion maen
prawf 3(vii) o Bolisi TAI 15 sy’n nodi “caniateir
estyniadau ac addasiadau i dai fforddiadwy cyn belled â bod y newidiadau neu’r
addasiadau yn caniatáu i’r tŷ barhau fel tŷ fforddiadwy”
Yng
nghyd-destun dyluniad yr estyniad, ystyriwyd bod maint a lleoliad yr estyniad,
ynghyd a pits y to a’i orffeniad yn anaddas ac nad
oedd yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel ac nid yn cydweddu a’r eiddo
presennol. Er yn bosib gosod amod i gytuno ar ddeunyddiau, ni ystyriwyd y
byddai hynny yn ddigonol i gwrdd gydag anghenion polisi PCYFF 3.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Bod y Cyngor Cymuned o blaid y cais
·
Nad oedd cymydog na pherson lleol wedi
gwrthwynebu
·
Ei fod yn gefnogol i’r cais
·
Yn gais teg am estyniad rhesymol ei faint - nid yw yn ymddangos yn
ymwthiol nac allan o gymeriad
·
Mater o farn yw’r dyluniad
·
Bod y pensaer wedi dewis dyluniad syml
ar gais yr ymgeisydd – yn estyniad syml i gadw’r gost yn isel
·
Dim digon o ardd yn y cefn i ymestyn
·
Ni fyddai’n amharu ar breifatrwydd cymdogion
– estyniadau eraill wedi eu caniatáu
·
Y teulu yn deulu Cymraeg, lleol ac
eisiau aros yn lleol ond heb obaith prynu tŷ yn lleol oherwydd prisiau’r
farchnad agored – yr unig ateb yw adeiladu estyniad bychan i wneud lle i’r
teulu dyfu
·
Buddsoddiad fyddai estyniad bychan ar
gyfer y teulu
·
Deddf Llesiant yn annog cefnogi pobl i
aros yn y gymuned leol
·
Ystyr a rheolaidau
tai fforddiadwy yn newid yn y CDLl
·
Gweledigaeth Cyngor Gwyendd
yw rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn rydym yn wneud gan sicrhau mynediad at
gartref a hawl i fyw adref
c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau: bod y maint yn addas: bod tai y stâd o ddyluniadau gwahanol ac felly byddai’r estyniad yma
ddim yn amharu ar edrychiad y stâd
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwada canlynol gan Aelodau:
·
Bod y maint yn dderbyniol
·
Bod polisïau yn anfon pobl lleol allan
o gymunedau
d) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a newid ystyr tŷ fforddiadwy yn
y CDLl yn y dyfodol agos, nododd Pennaeth Cynorthwyol
Cynllunio ac Amgylchedd nad oedd newidiadau i reoliadau maint a ffurf, ond y
polisi yn debygol o gael ei asesu wrth i’r cynllun gael ei adolygu.
PENDERFYNWYD:
caniatáu, yn groes i’r argymhelliad
Amodau:
1. 5 mlynedd
2. Yn unol gyda’r cynlluniau a deunyddiau
Dogfennau ategol: