Codi 6 tŷ ( 2
fforddiadwy), creu mynedfa gerbydol newydd, darpariaeth parcio a gwaith
cysylltiedig
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i Pennaeth yr Adran Amgylchedd i caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i amodau, cwblhau cytundeb 106 i sicrhau darpariaeth o un 2
dŷ fforddiadwy a trafod manylion parcio plot rhif 1:
Amodau
COFNODION:
Codi 6 tŷ (2
fforddiadwy), creu mynedfa gerbydol newydd, darpariaeth parcio a gwaith
cysylltiedig
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
adeiladu 6 tŷ (2 ohonynt yn fforddiadwy), creu mynedfa gerbydol newydd,
darpariaeth parcio a gwaith cysylltiedig ar dir ger Maes Llwyd, Llanystumdwy.
Tai pâr fyddai’r unedau gyda pedwar tŷ deulawr gromen (2 ystafell wely) a
dau dŷ deulawr llawn (3 ystafell wely). Bwriedir agor mynedfa lydan, gosod
lôn wasanaethol i’r tai a gosod palmant ymyl ffordd ger y fynedfa flaen.
Eglurwyd
mai cae amaethyddol yw’r safle yn bresennol, yn llain o dir ar ffurf triongl
wedi ei leoli rhwng dwy ffordd ger mynediad i bentref Llanystumdwy o fewn y
Ffin Datblygu. Nodwyd
bod yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau mai Cyflenwad
Dangosol Tai Llanystumdwy (gan gynnwys
lwfans llithriad o 10%) yw 10 uned, gydag 1 tŷ wedi ei gwblhau yn y
pentref rhwng 2011-2021. Ymddengys nad oedd unrhyw dai yn y banc tir heb eu
hadeiladu na dynodiadau tai yn y pentref, felly’r diffyg yn weddill o 9 uned. O
ystyried y wybodaeth, gellid caniatáu’r datblygiad gan fod 6 uned o fewn
ffigyrau’r lefel cyflenwad ar gyfer Llanystumdwy.
Adroddwyd
bod yr egwyddor o godi tai ar y safle wedi ei selio ym Mholisi TAI 4, TAI 8 a TAI 15 o’r CDLl.
Yn amodol ar ofynion Polisi TAI 15 ynglŷn a darparu tai fforddiadwy ar
gyfer angen lleol, fe ddatgan polisi TAI 4 y caniateir cynigion am dai marchnad
agored yn y Pentrefi Lleol os gellir cydymffurfio â dau faen prawf sef,
·
Bod maint, graddfa, math a dyluniad y datblygiad yn gytbwys a
chymeriad yr an-heddle
·
Bod y safle o fewn ffin datblygu'r anheddle.
Ystyriwyd
bod maint, graddfa a math o unedau
arfaethedig yn gyson gyda chymeriad y tai preswyl agosaf gyda’r dyluniad
ychydig yn fwy cyfoes ac o ganlyniad yn cwrdd â gofynion y ddau faen prawf o
bolisi TAI 4 uchod.
Tynnwyd
sylw at sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan asiant yr ymgeisydd mewn ymateb i’r
adroddiad yn nodi bwriad o dirlunio a gosod dau lecyn parcio ychwanegol.
Yng nghyd
destun llecynnau agored i’w gwarchod, nodwyd bod hanner dwyreiniol y cae dan
sylw wedi ei ddynodi yn Llecyn Agored Cae Chwarae wedi ei Warchod ym mapiau y CDLl. Byddai datblygu’r safle arfaethedig felly yn golygu y
byddai’r llecyn agored yn cael ei golli. Cyfeirwyd at
bolisi ISA 4 (Diogelu Llecynnau Agored Presennol) sy’n datgan y gwrthodir
cynigion fydd yn arwain at golli llecynnau agored presennol oni bai bod
gormodedd o ddarpariaeth yn y gymuned.
Ystyriwyd
mai cae amaethyddol yw’r safle yn hytrach na llecyn sydd wedi ei ddefnyddio gan
y cyhoedd gyda’r bwriad yn dangos bod ardaloedd gwyrdd wedi ei dirlunio yn cael
eu cadw yn rhan blaen y datblygiad fyddai’n cadw naws wledig agored cyhoeddus
i’r safle. O ystyried hefyd yr angen am dai newydd yn Llanystumdwy, y ffin
datblygu ynghyd a’r cyfyngiadau cynllunio, oedd yn cynnwys Ardal Cadwraeth ac
ardaloedd sydd mewn perygl o lifogi, ymddengys bod
tir datblygu addas ar gyfer tai yn gyfyngedig iawn yn yr anheddle. Yn yr achos
penodol yma, ystyriwyd fod yr angen am dai newydd yn gorbwyso’r angen i warchod
y llecyn agored. I’r perwyl hyn, ystyriwyd fod y bwriad yn ei hanfod yn cwrdd â chydymffurfio gyda
gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol ac yn dderbyniol i’w ganiatáu yn
ddarostyngedig i osod amod tai fforddiadwy yn lle cytundeb 106.
b) Amlygodd y Cadeirydd, bod yr Aelod Lleol, wedi nodi mewn ebost, nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais
c) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i Pennaeth yr Adran Amgylchedd i caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i amodau, cwblhau cytundeb 106 i sicrhau darpariaeth o un 2
dŷ fforddiadwy a trafod manylion parcio plot rhif 1:
Amodau
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r
cynlluniau.
3. Cytuno ar
fanylion gorffeniad allanol yn cynnwys llechi
4. Cyflwyno a
derbyn cymeradwyaeth iddo Gynllun Tirlunio sy’n ymgorffori tirlunio meddal i’r
driniaeth ffiniau, cadw ac atgyfnerthu gwrychoedd a chynnwys gwelliannau
ecolegol
5. Atal gosod
ffenestri ychwanegol yn nhalcen y tai.
6. Tynnu
hawliau datblygu caniataol y tai fforddiadwy.
7. Amodau lefel
llawr y datblygiad /materion llifogydd.
8. Materion
Fforddiadwy
9. Materion
Archeolegol
10. Materion
Priffyrdd
11. Materion
Draenio Cynaliadwy
12. Enw Cymraeg
i’r stad a’r tai.
13. Gosod amod
tai fforddiadwy
Dogfennau ategol: