Estyniad a newidiadau i flaen yr eiddo,
ynghyd â throsi'r gofod to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs dwy
ystafell wely yng nghefn yr annedd i ddarparu llety ychwanegol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gwrthod, yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
COFNODION:
Estyniad a newidiadau i flaen yr eiddo,
ynghyd â throsi'r gofod to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs dwy ystafell wely yng nghefn yr annedd i ddarparu
llety ychwanegol.
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer ymgymryd â
newidiadau i dŷ deulawr presennol fyddai'n cynnwys :
·
codi estyniad llawr cyntaf 2.3m yn ei
flaen ar ben modurdy unllawr presennol sydd ar flaen
yr eiddo
·
Trosi'r gofod to yn ofod byw ychwanegol
·
Codi estyniad deulawr cefn i weithredu
fel "anecs" i'r prif dŷ.
O ganlyniad i’r newidiadau, bydd yr eiddo yn cynyddu o dŷ pedair
llofft, i dŷ gydag anecs a fyddai â chyfanswm o
chwe llofft.
Saif y safle o fewn cwrtil tŷ “33 Bryn Eithinog” sy’n eiddo ar
wahân mewn ardal anheddol o fewn ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor
fel y’i diffinnir gan y CDLl, mewn stad dai
a’i gwasanaethir gan ffyrdd di-ddosbarth yn arwain o Ffordd Belmont
ger Ysgol Tryfan.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.
Nodwyd bod gan y term “anecs” ystyr benodol
yng nghyd-destun cynllunio ac i ystyried
bwriad yn “anecs” byddai’n hanfodol i'r adeilad fod
yn is-wasanaethol i'r prif dŷ ac na fyddai'n cael ei ddefnyddio fel annedd
ar wahân. Yn yr achos yma, yng ngoleuni lleoliad yr adeilad yn gysylltiedig i'r
prif dŷ mewn man lle nad oes mynediad annibynnol i'r stryd, ystyriwyd, er
i'r cynlluniau ddangos y byddai'r anecs yn cynnwys
ystafell ymolchi a chegin ar wahân, ei fod yn rhesymol ystyried y strwythur
newydd fel anecs israddol i'r prif annedd. Ategwyd
bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ei fwriad yw defnyddio'r tŷ fel
tŷ teuluol ac nid fel HMO a chan mai anecs a
geisiwyd amdano, ystyriwyd, trwy ddefnyddio amod cynllunio wedi'i eirio'n
briodol, y gellid rheoli’r defnydd o’r strwythur newydd mewn modd priodol.
Cyfeiriwyd at bryderon gan gymdogion oherwydd y posibilrwydd o or-edrych
o’u heiddo o’r estyniadau newydd, fodd bynnag nodwyd mai dim ond un ffenestr
llawr cyntaf newydd a fyddai yn edrychiad gogleddol yr eiddo a byddai’n
gwasanaethu ystafell ymolchi newydd yn y tŷ gwreiddiol. Gan i'r ffenestr
honno fod yn edrychiad ochr y tŷ, yn unol â 'r Gorchymyn Datblygiad a
Ganiateir Cyffredinol, bydd yn ofynnol i’r ffenestr gael ei chadw’n afloyw yn
barhaol.
Yn ogystal, amlygwyd pryderon y byddai'r estyniadau newydd yn achosi
niwed annerbyniol o safbwynt cysgodi eiddo cymdogion ac y byddent yn
ddominyddol dros eu heiddo. Wrth ystyried maint y safle, y pellter sydd rhwng y
tai cyfagos ac uchder gweddol fychan yr estyniadau, ni ystyriwyd y bydd niwed
arwyddocaol i fwynderau cymdogion yn deillio o'r materion hyn.
Wedi asesu’r cais yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol, ystyriwyd fod
y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, mwynderau preifat a
mwynderau cyffredinol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei bod yn siarad ar ran trigolion Bro
Eithinog sydd yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon goredrych,
colli preifatrwydd a golau
·
Nad oedd tŷ arall ar y stryd gydag
estyniad o’r math na’r maint yma
·
Y safle wedi ei leoli ar gornel
stryd – plant a cherddwyr yn defnyddio’r
stryd i fynd i’r ysgolion cyfagos. Y lleoliad yn brysur ac yn beryglus
·
Bod bwriad parcio dau gar yn y cwrtil –
dim lle i wneud hyn heb newid sylweddol i’r ardd
·
Pryderon amlwg gan Dŵr Cymru sydd
eisiau mynediad at garthffos
·
Pam cyflwyno cais? Bod cais wedi ei ganiatáu yng Ngorffennaf 2020 am estyniad heb ei weithredu.
·
Cais gwreiddiol yn dŷ yn yr ardd –
dyma beth yw anecs. Pryder am effaith ymgripiol’ a
bwriad o ddefnydd HMO
·
Nid yw’r ymgeisydd yn byw yn yr annedd
·
Awgrymu gwrthod ar sail gorddatblygu ynghyd a gormodedd o breswylwyr a cherbydau yn
defnyddio’r ardal.
c) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais am y rhesymau canlynol
·
ei fod yn or-ddatblygiad
·
nad oedd adnoddau digonol gan y Sir i
fonitro’r defnydd.
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Y dyluniad yn anaddas – yn croesi
draeniau. Petai difrod i’r draeniau byddai hyn yn creu anghyfleustra i bobl
lleol
·
Yn orddatblygiad
– yn creu effaith sylweddol ar fwynderau cymdogion
PENDERYNWYD:
Gwrthod y cais, yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
1. Bod y bwriad yn groes i bolisi PCYFF 3
oherwydd ei fod yn or-ddatblygiad o’r safle
2. Bydd yn cael effaith andwyol ar
fwynderau trigolion cyfagos
Dogfennau ategol: