skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad cynnydd pellach i aelodau'r Cyd-bwyllgor ar baratoadau ysgolion i waith Cwricwlwm i Gymru yn sgil yr agenda adnewyddu a diwygio.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Arweinydd – Cwricwlwm i Gymru a nodwyd y prif bwyntiau isod:

 

-      Soniwyd bod cynnwys yr adroddiad yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn datgan sut roedd ysgolion cynradd ac uwchradd yn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd a ddaeth i rym ym mis Medi 2022. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi sylw penodol i dymor yr haf cyn i’r cwricwlwm ddod i rym.

 

-      Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhannu 6 cam er mwyn paratoi at y newid hwn i’r cwricwlwm a nodwyd bod ysgolion yn ymdopi yn dda gyda’r camau hynny.

 

-      Ychwanegwyd bod adborth gan arweinwyr ysgolion yn cadarnhau bod angen cymryd camau ychwanegol er mwyn cyrraedd y targedau hyn yn enwedig wrth gysidro rôl cynnydd, asesu ac addysgeg yn y cyd-destun lleol.

 

-      Mynegwyd bod ysgolion cynradd wedi ymgysylltu’n dda wrth baratoi at y cwricwlwm newydd a'u bod wedi cael eu cefnogi gan Gwricwlwm i Gymru drwy gyfresi o weithdai, webinarau a modelau.

 

-      Esboniwyd bod gwaith yn cael ei wneud gyda ysgolion uwchradd eleni i ffocysu ar ddisgyblion oedd yn symud i flwyddyn 7, ac flwyddyn nesaf bydd y gwaith yn ffocysu ar flwyddyn 7 ac 8.

 

-      Cadarnhawyd fod ysgolion uwchradd yn edrych ar hunaniaeth leol er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei fewnosod drwy ddulliau addas.

 

-      Pwysleisiwyd fod addysgeg a hunanasesiadau yn newid o ysgol i ysgol a bod strategaethau yn cael eu datblygu’n rheolaidd.. Mae cymorth yn cael ei ddarparu i annog llesiant i bawb ac anogir i ysgolion gydweithio er mwyn creu rhwydwaith o staff sy’n gallu cefnogi ei gilydd drwy’r daith diwygio hwn.

 

Ymhelaethodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE ar y pwyntiau hyn gan nodi’r prif bwyntiau isod:

 

-      Mynegwyd dyhead i gyflwyno diweddariad o’r cwricwlwm i aelodau newydd yr awdurdodau lleol yn dilyn etholiad fis Mai 2022, neu i holl aelodaeth y cynghorau lleol er mwyn eu diweddaru ar ddatblygiadau’r cwricwlwm.

 

-      Mewn ymateb i’r sylw yma, nododd y Cadeirydd efallai byddai cynnal diweddariad ar lein yn opsiwn er mwyn diweddaru llawer o aelodau ar yr un adeg.

 

-      Cyfeiriwyd at ofynion mesur cynnydd ac atebolrwydd ysgolion gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Nodwyd bod strwythur, siâp a chyfeiriad y cwricwlwm yn anodd ei bennu, ac felly mae ysgolion angen amser i fagu hyder ar y dull gorau i’w ymgorffori gan fanteisio ar yr agweddau sydd fwyaf perthnasol iddynt. Ychwanegwyd y byddai pontio a chydweithio naturiol yn digwydd drwy anghenion lleol, daearyddol a phrofiadau dysgu wrth i amser fynd yn ei flaen.

 

Mewn ymateb i ymholiad am yr amserlen o  ran pryd bydd y dulliau asesu’n ddigon aeddfed i allu dehongli os ydi’r dulliau addysgu hyn yn fyw llwyddiannus na’r dulliau blaenorol, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

 

-      Mi fydd yn beth amser i allu cymharu hyn.  Aethpwyd ymlaen i egluro bod hyn yn bennaf oherwydd bod y systemau newydd yn edrych ar lesiant, profiadau dysgu a’r profiadau yn erbyn y pedwar diben. Eglurwyd bod angen cael trafodaethau manwl yn y dyfodol er mwyn ceisio mabwysiadu dull teg o asesu gan gofio fod y cwricwlwm yn ddull lleol ei natur a bod agweddau gwahanol yn effeithio ar leoliadau gwahanol o fewn yr amrywiol awdurdodau lleol. Eglurwyd hefyd y byddai angen cyngor ac arweiniad gwleidyddol ynglŷn â’r mater hwn.

 

 

PENDERFYNWYD

 

-      Nodi a derbyn yr adroddiad sy’n amlygu paratoadau ysgolion i fabwysiadu Cwricwlwm i Gymru yn sgil agenda adnewyddu a diwygio.

 

Dogfennau ategol: