Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y gynnig posib i gynyddu’r
Premiwm ar
Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor tu hwnt i
100% a hyd at
300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r
Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi pecyn ymgynghori
cyhoeddus yn unol â’r
adroddiad ac unrhyw argymhellion gan y Cabinet.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y gynnig posib i gynyddu’r Premiwm ar
Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor tu hwnt i 100% a hyd at
300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi pecyn ymgynghori cyhoeddus yn unol â’r
adroddiad ac unrhyw argymhellion gan y Cabinet.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn gofyn i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus. Nodwyd fod rhaid i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad blynyddol ar raddfa’r Premiwm, ac er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, os am gynyddu’r lefel y Premiwm, mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig.
Eglurwyd fod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 wedi caniatáu disgresiwn i’r Cyngor godi premiwm o hyd at 100% ar Dreth Cyngor rhai dosbarthiadau o ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor ond nodwyd bydd yr uchafswm yma yn cynyddu o o 1 Ebrill 2023 a bydd gan awdurdodau lleol y grym i godi premiwm o hyd at 300%. Mynegwyd fod mynd i’r afael â phrinder tai fforddiadwy o fewn Gwynedd yn ogystal â’r nifer uchel o ail gartrefi yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae codi Premiwm Treth Cyngor yn un o’r arfau sydd ar gael i ddelio a’r sefyllfa.
Ategwyd fod Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998 yn nodi fod 'ail gartrefi' wedi'u categoreiddio i ddau ddosbarth, sef
dosbarthau A a B, tra bod dosbarth C yn cyfeirio at eiddo gwag:
· Dosbarth A – Annedd lle nad oes trigolyn, sydd wedi’i dodrefnu’n sylweddol lle mae'r meddiant yn cael ei wahardd am gyfnod o 28 diwrnod o leiaf yn y flwyddyn berthnasol.
· Dosbarth B – Annedd lle nad oes trigolyn, sydd wedi’u dodrefnu’n sylweddol a nid oes cyfyngiad cyfreithiol ar ei feddiant.
· Dosbarth C – Annedd sydd yn ddiddeiliad a heb ei ddodrefnu’n sylweddol.
Nodwyd ar 13 Gorffennaf, roedd dros 4600 o dai ei destun y Premiwm ar ail gartrefi (Dosbarth B), 200 ohonynt ddim yn talu’r premiwm gan eu bod yn destun eithriadau a 760 o fewn Dosbarth A ble mae’r meddiant yn cael ei wahardd am gyfnod o 28 diwrnod o leiaf y flwyddyn berthnasol. Mynegwyd ers cyflwyno Premiwm fod y Cyngor wedi penderfynu yn flynyddol i godi’r un lefel o bremiwm ar eiddo gwag hir dymor ac ail gartrefi, ond mae modd codi lefelau gwahanol os yw’r amgylchiadau lleol yn cyfiawnhau hynny.
Eglurwyd o ran gofynion cyfreithiol fod y penderfyniad yn cael ei wneud yn flynyddol gan y Cyngor Llawn ac fod angen cyflwyno Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd-Gymdeithasol i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn. Ychwanegwyd fod gofyn i gynnal ymgynghoriad ac ymgysylltu gyda rhan ddeiliad cyn codi unrhyw bremiwm a nodwyd fod yr adran yn bwriadu ei gynnal am 28 diwrnod yn ystod mis Hydref. Yn dilyn hyn, ategwyd y bydd adroddiad i’r Cabinet ym mis Tachwedd cyn ei drafod yn y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. Pwysleisiwyd y bydd y mater yn cael ei graffu yn ogystal gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Ychwanegodd y Swyddog Monitro fod unrhyw benderfyniad Cabinet yn ddarostyngedig i gyfnod galw i mewn i Graffu, ond eglurwyd fod gan y Cabinet hawl o dan rhan 7 o’r Cyfansoddiad i wneud Penderfyniad Brys mewn trafodaeth â Chadeirydd y Cyngor. Gofynnwyd i’r Cabinet i’w drin fel penderfyniad brys fel bod modd i’r adran symud ymlaen i weithredu yn syth, gan nodi y bydd hyn yn cael ei adrodd yn y Cyngor Llawn.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd cefnogaeth i fynd i ymgynghori ac yn deall yr angen i’r penderfyniad gael ei wneud mewn brys.
¾ Mynegwyd angen i anfon llythyr at Lywodraeth Cymru er mwyn gofyn am yr eithriadau sydd i’r rhai sy’n talu Premiwm.
Awdur:Dewi A Morgan
Dogfennau ategol: