Agenda item

Dewi A. Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletya i ddarparu manylion y gwariant a'r incwm refeniw gwirioneddol hyd at ddiwedd Awst 2022, i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ynghyd â rhagamcaniad o'r alldro blwyddyn lawn yn erbyn ei gyllideb

flynyddol.

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Awst 2022 y Bwrdd Uchelgais sy'n cynnwys hawlio swm llai o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

 

Nodwyd a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.

 

Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig a chynllun cyflawni prosiectau'r Bwrdd

Uchelgais.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Awdurdod Lletya).

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Awst 2022 y Bwrdd Uchelgais sy'n cynnwys hawlio swm llai o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

 

Nodwyd a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.

 

Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig a chynllun cyflawni prosiectau'r Bwrdd Uchelgais.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodwyd eu bod yn rhagweld tanwariant o £189,048 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2022/23. Defnyddir unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i leihau'r swm a hawlir o Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Nodwyd llithriad ar y rhaglen gyfalaf ar draws yr holl bortffolio, gyda nifer is o achosion busnes wedi'u cymeradwyo nag a ragwelwyd yn wreiddiol ar y pwynt hwn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai adolygiad diwedd Awst 2022 a oedd yn cael ei gyflwyno. Eglurwyd fod yr adroddiad yn nodi gwir sefyllfa refeniw hyd at ddiwedd Awst 2022 ac yn amcanu’r sefyllfa hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod yr adran gyllid yn amcanu tanwariant o £38 o filoedd ar y Swyddfa Raglen, gan amlygu fod hyn yn bennaf yn sgil tanwariant o  £11mil ar wariant gweithwyr, tanwariant o £18mil ar gyfraniad y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol a thanwariant o £10mil ar y pennawd adroddiad arfarniad ESF. Tynnwyd sylw at gorwariant o dan y pennawd Gwasanaethau Cefnogol o £5mil a eglurwyd fod hyn yn sgil gorwariant ar y  gyllideb cyfreithiol.

 

Amcangyfrifwyd tanwariant net o £10 mil ar y pennawd Cyd-bwyllgor, a oedd cynnwys tanwariant o £18mil ar Gefnogaeth Gyfreithiol Allanol, tanwariant o £5 mil ar Ffioedd Cyllidol Allanol a gorwariant o £13 mil ar y Ffioedd Archwilio Allanol.  Nodwyd fod y  ffioedd archwilio yn seiliedig ar y Cynllun Archwilio Cymru a gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf, ond roedd yn cynnwys ffi ar gyfer y gwaith archwilio perfformiad nad oedd wedi'i chynnwys yn y gyllideb.   Mynegwyd fod y pennawd prosiectau yn dangos tanwariant o £161 o filoedd, gan amlygu fod hyn yn sgil llithriad yn y rhaglen gyfalaf.

 

O ran y ffynonellau incwm ar gyfer 2022/23 nodwyd eu bod yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, Grant ESF, Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru a grantiau penodol eraill. Eglurwyd y bydd hyn wedyn yn gadael amcan sefyllfa ar gyfer 2022/23, yn danwariant o £189 o filoedd. O ganlyniad i hyn nodwyd yn hytrach na hawlio y swm llawn o £750mil o’r Grant Cynllun Twf, awgrymir fod swm is o £561mil yn cael ei hawlio a fydd yn gadael sefyllfa niwtral i’r Bwrdd eleni.

 

Mynegwyd fod amcan balans y gronfa wrth gefn gyffredinol ar 31 Mawrth 2023 yw £552 o filoedd ac ychwanegwyd fod y Bwrdd eisoes wedi cymeradwyo defnyddio’r gronfa wrth gefn i ariannu staff y Swyddfa Rheoli Portffolio hyd Mawrth 2024. Disgwylir defnyddio £100mil o’r gronfa prosiectau yn 2022/23 a fydd yn rhoi amcan balans diwedd blwyddyn o £95mil. Nodwyd y bydd cyfraniadau llog partneriaid o £265 o filoedd ar gyfer 2022/23 yn cael eu hychwanegu i’r gronfa llog ac yn rhoi amcan falans o £964 o filoedd ar ddiwedd Mawrth 2023. Yn ychwanegol, nodwyd y bydd llog ar y balans wrth gefn hwn ynghyd â'r llog ar y grant cyfalaf yn cael eu hychwanegu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac yn sgil y balans grant cyfalaf o tua £34miliwn ynghyd â'r cynnydd mewn cyfraddau llog yn y misoedd diwethaf, mae hyn yn debygol o fod rhwng £500k a £600k o filoedd am eleni. 

 

O ran yr adolygiad cyfalaf  nodwyd fod y gyllideb wedi ei gymeradwyo ym Mawrth 2022, a disgwyliwyd iddi redeg hyd 2028/29, ond mynegwyd fod y proffil diwygiedig yn dangos y bydd un o’r prosiectau yn rhedeg hyd 2032/33. Eglurwyd er fod prosiect canolfan Signalau Digidol yn parhau a rhagwelir gwariant pellach yn 2022/23, bu llithriad yn y rhaglen gyfalaf ar draws yr holl bortffolio gyda nifer is o achosion busnes wedi'u cymeradwyo nag a ragwelwyd yn wreiddiol. Nodwyd bod llithriad o £1.86 miliwn yn 2021/22, a llithriad tebygol o £26.55 miliwn yn 2022/23 a £32.46 miliwn yn 2023/24. Eglurwyd y caiff grant Cynllun Twf Gogledd Cymru ei ddefnyddio i gyllido'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y tair blynedd gyntaf, ac ni fydd angen benthyca'n allanol tan 2024/25.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd am yr adroddiad a holwyd am y gorwariant yn y maes cyfreithiol. Nodwyd fod yr adran heb lwyddo i lenwi swydd ar gyfer cefnogi y Bwrdd Uchelgais ac bellach wedi dod o hyd i locwm profiadol i wneud y gwaith ers mis Awst. Eglurwyd y bydd y sefyllfa yn cael ei adolygu ddechrau blwyddyn nesaf ac fod angen cadw gwariant dan adolygiad. Ychwanegwyd fod cyllid ar gael ar gyfer cyflogi cyfreithwyr arbenigol sydd ei angen o ganlyniad i faint cytundebau.

¾     Holwyd o ran y Gronfa Llog Wrth Gefn, gan fod llithriad mewn prosiectau a oes angen codi’r arian rŵan neu  a yw’n well ail edrych ar hyn o ganlynid i gostau llog. Eglurwyd fod yr adran gyllid wedi ail ymweld â’r mater fel rhan o greu’r gyllideb y llynedd a byddant yn ail ymweld eto wrth sefydlu cyllideb blwyddyn nesaf. Mynegwyd y bydd angen trafod gyda cwmni allanol o ran cyfraddau llog gan nad yw’r adran yn ymwybodol be all ddigwydd yn y dyfodol. 

¾     O ran y gyllideb nodwyd fod y tabl yn nodi fod y Cynllun Twf yn £240miliwn ac mai dim ond £156miliwn ohono sydd yn cael ei ariannu gan y Grant Cynllun Twf, tra fod y gwariant pellach yn cael ei ariannu drwy fenthyciadau. Pwysleisiwyd fod y cynlluniau i gyd yn cael ei ariannu drwy’r grant ond na fydd y grant ar gael mewn rhai blynyddoedd ble fydd cynlluniau yn weithredol, ac felly benthyciadau ar gyfer llif arian yw’r benthyciadau a fydd yn cael ei dalu yn ôl drwy grant.

 

Dogfennau ategol: