Alwen Williams,
Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno
adroddiad yw gosod egwyddorion a phroses arfaethedig er mwyn adnabod ffordd
ymlaen a ffefrir pan gaiff prosiectau eu tynnu allan
o Gynllun Twf Gogledd Cymru.
Penderfyniad:
Cytunwyd
â’r egwyddorion a’r broses arfaethedig fel y nodir yn yr adroddiad yn sail i’r broses
ar gyfer nodi’r ffordd a ffefrif ymlaen pan fydd
prosiectau’n cael u tynnu yn ôl o Fargen Twf Gogledd Cymru.
Cytunwyd
fod y Bwrdd, yn dilyn tynnu unrhyw brosiect yn ôl o’r Cynllun Twf, yn derbyn
adroddiad pellach i argymell y paramedrau a’r meini prawf sgorio ar gyfer yr
ymarfer sganio’r gorwel fesul achos.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen
Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.
PENDERFYNIAD
Cytunwyd â’r egwyddorion a’r broses arfaethedig fel
y nodir yn yr adroddiad yn sail i’r broses ar gyfer nodi’r ffordd a ffefrif ymlaen pan fydd prosiectau’n cael eu tynnu yn ôl o
Fargen Twf Gogledd Cymru. Cytunwyd fod y Bwrdd, yn dilyn tynnu unrhyw brosiect
yn ôl o’r Cynllun Twf, yn derbyn adroddiad pellach i argymell y paramedrau a’r
meini prawf sgorio ar gyfer yr ymarfer sganio’r gorwel fesul achos.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae gan y Cynllun Twf Gogledd
Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y
Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, hasesu a lle bo hynny’n berthnasol
eu hystyried gan y bwrdd. Amlygodd yr adroddiad hwn egwyddorion ynghyd â
phroses arfaethedig er mwyn adnabod ffordd ymlaen a ffrefir
pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi fod yr adroddiad yn nodi’r
egwyddorion ar gyfer prosiectau amgen pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o
Gynllun Twf Gogledd Cymru. Nodwyd fel a
ganlyn:
1. Egwyddor 1: Cyn ystyried prosiectau newydd, i
ddechrau, bydd y Bwrdd yn ystyried ceisiadau gan brosiectau presennol ar gyfer
cyllid ychwanegol, ar sail achos wrth achos.
2. Egwyddor 2: Fel rhan o’r ymarfer sganio’r
gorwelion, dylai'r holl opsiynau gael eu hystyried fel rhan o'r broses i
adnabod ffordd ymlaen a ffefrir
3. Egwyddor 3: Rhaid i'r ffordd ymlaen a ffefrir gyflawni yn erbyn targedau achos busnes y
portffolio a cheisio cyflawni lefel gymharol o fuddion i'r prosiect a dynnir yn
ôl o'r Cynllun Twf
4. Egwyddor 4: Rhaid i'r ffordd ymlaen a ffefrir gyflawni yn erbyn achos busnes perthnasol y rhaglen
a'i dargedau a, gymaint â phosib, mynd i'r afael â'r bwlch a adewir wrth i'r prosiect gael ei dynnu'n ôl o'r Cynllun
Twf.
5. Egwyddor 5: Rhaid i unrhyw brosiectau newydd yn y
ffordd ymlaen a ffefrir allu arddangos effaith
ranbarthol yn yr un ffordd â phrosiectau presennol.
Mynegwyd fod yr egwyddorion yn
cael ei gefnogi gan broses ac amlygwyd y broses o dri prif cam. O ran y cam
cyntaf – Sganio’r Gorwel – nodwyd yr angen i gytuno ar feini prawf, sgorio
a phwysoliad
gan amlygu’r angen i gynnwys targedau ar gyfer swyddi, buddsoddi a meini prawf
cyflawni. Eglurwyd y buasai galwad cyhoeddus am brosiectau a buasai asesiad
porth caled cychwynnol yn cael ei wneud gan y Cyfarwyddwr Portffolio i ddileu
unrhyw gynigion nad ydyn yn bodloni lefel ofynnol o ddeilliannau.
Fel yr ail gam – Creu Rhestr Hir
a Rhestr Fer – nodwyd y buasai asesiad o’r rhestr hir yn erbyn meini prawf i gytuno a adnabod rhestr fer.
Gofynnir am wybodaeth bellach gan y prosiectau er mwyn i asesiad rhestr fer gael
ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais i adnabod y ffordd ymlaen.
Y cam olaf fydd i gymeradwyo a
datblygu achosion busnes. Nodwyd y buasai argymhelliad yn cael ei gynnig i’r
Bwrdd Uchelgais cyn dechrau’r gwaith o greu achos busnes.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Holwyd o ran rhoi cyfle i brosiectau cyfredol i
dderbyn mwy o arian o ganlyniad i prosiectau yn cael eu tynnu allan o’r Cynllun
Twf, beth fyddai’r camau ar gyfer y cynlluniau yma. Nodwyd y buasai’r Bwrdd yn
ystyried y ceisiadau yma cyn mynd i sganio’r gorwelion.
¾ Croesawyd y cynllun gan holi pa mor realistig yw i
gael prosiectau newydd sbon a fydd yn cyrraedd gofynion penodol y cynlluniau.
Nodwyd na fydd y prosiectau o bosib yn rhai cyffelyb ond yn hytrach o bosib yn
gasgliad o gynlluniau llai.
¾ Holwyd os cynlluniau yn newid os angen cytundeb y
ddwy Lywodraeth cyn symud ymlaen. Nodwyd mai penderfyniad y Bwrdd yw’r
prosiectau penodol ond fod angen iddynt gyrraedd y targedau sydd wedi ei nodi
yn y Cynllun Twf.
¾ Cytunwyd i’r adroddiad gan ei gyflwyno i’r Bwrdd
Cefnogi Busnes.
Dogfennau ategol: