I dderbyn diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod cydweithio yn parhau i fynd o
nerth i nerth ar faterion megis ymateb ceisiadau rhyddid gwybodaeth,
pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer da ar draws y
cronfeydd. Nodwyd bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC erbyn hyn.
Tynnwyd
sylw at y cronfeydd ecwiti gan gyfeirio at berfformiad Cronfa Twf Byd Eang sydd
â thri phrif reolwr sydd gweithredu arddull gwahanol iawn i’w gilydd - Baillie Gifford, Pzena a Veritas. Atgoffwyd yr
Aelodau bod y gronfa yma, yn y blynyddoedd cynnar, yn perfformio yn dda iawn, a
hynny yn bennaf oherwydd perfformiad Baillie Gifford. Bellach, amlygwyd bod Baillie
Gifford yn tan berfformio a hynny yn bennaf oherwydd
natur eu buddsoddiadau a bod eu perfformiad yn un ‘cylchol’ (weithiau yn dda, a
thro arall ddim cystal). Ategwyd bod trafodaethau diweddar wedi eu cynnal gyda Baillie Gifford ac er y cyfnod
heriol, eu bod yn hyderus yn y cwmnïau maent yn buddsoddi ynddynt.
Yng
nghyd-destun Cronfa Cyfleoedd Byd-Eang adroddwyd bod y gronfa yn cynnwys wyth
rheolwr sylfaenol ar er na fydd pob rheolwr yn perfformio yn dda ar yr un pryd,
bod y dull amrywiol yn golygu sefyllfa sefydlog a’r gronfa yn perfformio yn
uwch na’r meincnod yn rheolaidd.
Yng
nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, cyfeiriwyd ar y Gronfa Gredyd Aml- ased
sydd â phum rheolwr buddsoddi gwahanol. Adroddwyd bod y gronfa wedi tan -
berfformio a hynny oherwydd ansefydlogrwydd yn y farchnad gyda rhyfel Wcráin,
cyfyngiadau covid Tsiena, ac effaith codiadau llog
cyflym. Ategwyd, er pryderon bod y gronfa yn mynd drwy gyfnod heriol, ymrwymiad
buddsoddi tymor hir oedd yma ac felly parhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith
o brofi cynnydd ar ddiwedd yr ansefydlogrwydd oedd y nod.
Wrth
drafod Cronfa Enillion Bond Absoliwt, sydd â phedwar rheolwr buddsoddi,
amlygwyd bod yr amodau yn y maes yma hefyd wedi bod yn heriol gydag effaith
chwyddiant a chyfraddau llog, ond eto, yr ymrwymiad yn un tymor hir ac felly
parodrwydd i barhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith o brofi cynnydd.
Adroddwyd
bod y Gronfa Marchnadoedd Datblygol, a lansiwyd Hydref 2021, gyda chwe rheolwr
buddsoddi sylfaenol gan gynnwys Bin Yuan arbenigwr
Tsiena. Nodwyd bod yr amodau eto yn heriol iawn ac mai Bin Yuan
oedd wedi achosi’r elfen o dan
berfformiad a hynny oherwydd polisi dim covid Tsiena.
Ategwyd mai’r gobaith yw gweld gwellhad yn amodau’r farchnad a dychweliadau da.
Cyfeiriwyd
at y datblygiadau sydd gan PPC ar y gweill gan nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud
yn y maes marchnadoedd preifat gyda chwmnïau wedi eu hapwyntio i redeg y
mandadau dyled preifat ac isadeiledd. Ategwyd bod gwaith cefndirol yn cael ei
wneud i sefydlu’r cwmnïau yn y gobaith o fuddsoddi ynddynt yn 2023/ 24. Bwriad
Cronfa Gwynedd yw gadael i’r buddsoddiadau isadeiledd ac ecwiti preifat
aeddfedu yn naturiol ac yna buddsoddi yn raddol gyda’r pwl. Nodwyd bod
trafodaethau cychwynnol hefyd wedi dechrau mewn perthynas â’r dosbarth asedau
eiddo.
Yng
nghyd-destun Cronfa Ecwiti Cynaliadwy sef cronfa a grëwyd gan Russell Investments ar ôl asesu anghenion buddsoddi cyfrifol y pwl,
amlygwyd bod bwriad i’r gronfa yma fynd yn fyw Chwarter 1, 2023 gyda nodweddion
y gronfa yn sicrhau bod hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir mewn buddsoddi cyfrifol.
Ategwyd y bydd Cronfa Gwynedd yn symud rhan o’i buddsoddiadau ecwiti i’r Gronfa
yma ond bod y manylion i’w cadarnhau.
Cyfeiriwyd
yr Aelodau at wefan PPC lle ceir nifer o ddogfennau defnyddiol. Amlygwyd hefyd
y ffioedd sylweddol sydd i redeg y pwl ac eglurwyd bod y ffioedd hyn yn cael eu
rhannu’n gyfartal rhwng aelodau’r bartneriaeth - y ffioedd yn cynnwys ffioedd
ymgynghorwyr, cyfreithwyr, gwaith cyfieithu a gwaith darparwr pleidleisio ac
ymgysylltu.
Diolchwyd
am yr adroddiad ac i’r holl staff oedd yn gysylltiedig â'r gwaith
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn ar ffioedd, nodwyd bod y costau gweinyddol yn
cael eu rhannu yn gyfartal rhwng yr wyth gronfa sydd yn rhan o’r bartneriaeth,
ond bod costau buddsoddiadau yn cael eu rhannu fesul maint buddsoddiad unigol
pob cronfa.
Derbyniwyd y wybodaeth
Dogfennau ategol: