Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Menna Jones
Ystyried adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Croesawyd y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r
Ymgynghorydd Ffordd Gwynedd i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol yn cyflwyno casgliadau Gweithgor Adolygu Ffordd
Gwynedd ar sail yr ymatebion a dderbyniwyd i holiadur a gylchredwyd i’r
penaethiaid er mwyn:-
·
cael
trosolwg o sut mae egwyddorion Ffordd Gwynedd yn gwreiddio o fewn yr adrannau;
a
·
galluogi
datblygu cynllun Ffordd Gwynedd fydd yn sicrhau’r gefnogaeth briodol ar gyfer y
tair blynedd i ddod.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Diolchwyd
i’r Timau Tacluso newydd am eu gwaith clodwiw.
·
Nodwyd
y dymunid i Ffordd Gwynedd weithio, ond na ellid rhannu brwdfrydedd y
swyddogion ynglŷn â sut mae pethau’n mynd ar hyn o bryd.
·
Nodwyd
bod deall gwir anghenion y cwsmer yn ganolog i’r adroddiad, ond os nad oedd
Ffordd Gwynedd yn ymwneud â hynny, nid oedd pwrpas iddo.
·
Awgrymwyd
bod yr adroddiad yn rhy gyffredinol, gwlanog ac amwys, e.e. cyfeirir droeon at
‘gryn gynnydd’, ‘lle i wella’, ayb, ond ni cheir diffiniad o
hynny. Yn yr un modd, cyfeirir at e.e. ‘rai
adrannau / timau’, ac awgrymwyd y dylid enwi’r adrannau sy’n llwyddo neu’n
tangyflawni, yn fewnol o fewn y Cyngor.
Hefyd roedd yr adroddiad yn nodi bod timau yn gweithio’n arloesol, ond
byddai’n fuddiol gwybod pa dimau oedd yn gwneud hynny, a beth oedd yr ymarfer
da.
·
Er
derbyn bod yna lawer o ffordd i fynd, awgrymwyd bod Ffordd Gwynedd, fel
delfryd, yn rhywbeth i anelu ato, a llongyfarchwyd y weledigaeth.
·
Nodwyd
bod diffyg ymateb gan rai staff/adrannau i ymholiadau gan aelodau etholedig ac
aelodau o’r cyhoedd yn broblem fawr, a bod angen blaenoriaethu hyn yn y tymor
byr, Ffordd Gwynedd neu beidio, gan enwi a chodi cywilydd ar y rhai sy’n
tramgwyddo.
·
Pwysleisiwyd,
os cael Ffordd Gwynedd i weithio, bod angen i bawb brynu i mewn i’r diwylliant,
a mynegwyd siomedigaeth na lwyddwyd i ddod â’r gweithlu ymlaen gyda hyn, yn
enwedig ar yr ochr Priffyrdd.
·
Nodwyd
y dylid rhannu egwyddorion Ffordd Gwynedd gyda chwmnïau allanol sy’n cyflawni
contractau i’r Cyngor.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
·
Ei
fod yn siomedig iawn o glywed rhai o’r sylwadau, ond yn llawn dderbyn bod yr
aelodau yn awyddus i gael mwy o fanylion, ac yn fwy na bodlon rhannu’r
wybodaeth. Roedd hefyd yn derbyn y pwynt
ynglŷn ag amlygu lle mae angen canolbwyntio ymdrechion.
·
Bod
y Prif Weithredwr ac yntau yn cydweithio ar ddarn o waith ynglŷn â diffyg
ymateb prydlon i ymholiadau gan rai gwasanaethau, a bod yna gamau eisoes wedi’u
cymryd, gyda’r sefyllfa bellach wedi gwella mewn nifer o wasanaethau lle bu
trafferthion yn y gorffennol. Gofynnodd
i’r aelodau gysylltu os oedd ganddynt unrhyw enghreifftiau o ddiffyg
ymateb. Mewn ymateb i sylw pellach
ynglŷn â’r mater hwn, nododd y Cyfarwyddwr ei fod yn amau bod y
dystiolaeth yn awgrymu bod yna gyswllt rhwng diffyg ymateb i ymholiadau a
diffyg ymroddiad i egwyddorion Ffordd Gwynedd.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn â’r angen i fonitro
perfformiad yr adrannau, eglurodd y Cyfarwyddwr fod disgwyliad bod aelodau a’r
cyhoedd yn derbyn cydnabyddiaeth o unrhyw ymholiad o fewn 7 diwrnod ar yr
hwyraf. Gofynnwyd i’r Cyfarwyddwr
rannu’r ddogfen honno gyda’r aelodau.
·
O
ran cael pawb i brynu i mewn i Ffordd Gwynedd, nododd y Cyfarwyddwr nad oedd y
Cyngor wedi gweld y datblygiad y byddai wedi dymuno ei weld ar draws yr
adrannau. Fodd bynnag, roedd y cysyniad
wedi gwreiddio mewn rhai gwasanaethau, gyda llawer o hynny yn sgil yr arweiniad
sy’n cael ei roi gan benaethiaid a rheolwyr.
Pwysleisiodd fod angen sicrhau’r ymrwymiad i wreiddio’r meddylfryd a’r
diwylliant, ac roedd angen buddsoddi amser yn yr argymhellion gweithredu er
mwyn adnabod y camau gwag sy’n bodoli o fewn rhai systemau a sicrhau buddiant
tymor hir.
·
Bod
y cysyniad oedd wedi’i wreiddio yn nyddiau cynnar Ffordd Gwynedd yn ystyried
unrhyw adolygiad o’r system neu wasanaeth fel rhywbeth oedd yn edrych ar y
gwasanaeth cyfan. Fodd bynnag, er bod lle
i adolygiadau adrannol o hyd, gwelwyd symudiad bellach tuag at wneud mwy a mwy
o adolygiadau llai dwys, sy’n rhoi sylw i systemau unigol ar y tro.
·
Bod
rôl y 2 Ymgynghorydd Ffordd Gwynedd wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno’r
technegau newydd i reolwyr o ran adolygu gwasanaethau, rhoi sylw i lif gwaith a
darparu cyngor ar sut i ddelio â rhwystrau.
Wrth i amser fynd yn ei flaen, ac wrth i Ffordd Gwynedd wreiddio
ymhellach, disgwylid y byddai hyn oll yn dod yn rhan naturiol o waith y
rheolwyr.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Dogfennau ategol: