Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Beca Brown
Ystyried adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, ac ail-graffu’r mater pan yn amserol.
Cofnod:
Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr
Adran Addysg a GwE i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
yn ymateb i gais gan aelodau’r Pwyllgor am gyfle i edrych yn fanylach ar addysg
cydberthynas a rhywioldeb, sydd yn elfen fandadol o Fframwaith Cwricwlwm i
Gymru o Fedi 2022. Eglurwyd bod yr elfen
hon yn fandadol ym mhob un o ysgolion cynradd y sir ers Medi 2022, ac yn 6 o’r
ysgolion uwchradd sydd wedi dewis cyflwyno’r cwricwlwm i Flwyddyn 7 ym Medi
2022.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r
adroddiad, gan nodi:-
·
Ei
bod yn ddyddiau cynnar ar daith y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ond bod
yr adborth o’r ysgolion wedi bod yn dda a bod cyfathrebu cadarnhaol wedi bod yn
digwydd rhwng ysgolion a rhieni.
·
Bod
ganddi bob ffydd yn y proffesiwn i gyflwyno’r addysg plwralistig a chynhwysol
yma sy’n addas i ddatblygiad y plentyn, yn ogystal â’i oed.
·
Ei
bod yn hynod falch bod plant yn mynd i dderbyn addysg fydd yn eu cadw’n ddiogel
ac yn hapus wrth iddyn nhw fynd drwy fywyd.
·
Bod
y Cod wedi derbyn dipyn o sylw, a’i bod hithau wedi derbyn llawer o ohebiaeth
gan ddioddefwyr camdriniaeth rywiol sydd bellach yn oedolion, gan rieni i
ddioddefwyr a gan bobl sy’n gweithio gyda dioddefwyr, gyda phawb ohonynt yn
dweud eu bod mor falch o weld yr addysg yma’n cael ei ffurfioli.
·
Ei
bod yn mawr obeithio y bydd yr addysg yma’n mynd lawer o’r ffordd at sicrhau na
fydd yr un plentyn yn cael ei fwlio a’i sarhau am fod yn wahanol i’r hyn sy’n
cael ei ystyried fel norm, a dyna pam ei bod mor bwysig bod yr addysg yma’n
cael ei weithredu’n effeithiol ar draws y sir.
Ategodd y Pennaeth Addysg sylwadau’r Aelod
Cabinet gan nodi:-
·
Bod
penaethiaid ysgolion yn adrodd eu bod wedi derbyn ymateb cadarnhaol i’r Cod gan
y rhan helaethaf o rieni a gofalwyr, a bod ganddo yntau bob ffydd bod
arweinyddion a staff yr ysgolion yn ymdrin â’r mater yn ddoeth.
·
Gan
fod y maes yn cael ei gyflwyno’n blwralistig, mae yna wahanol safbwyntiau yn
cael eu cyflwyno fel bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddod i farn
annibynnol eu hunain yn seiliedig ar ffeithiau.
·
Ei
bod yn bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod mai datblygiad neu
aeddfedrwydd neu berthnasedd datblygiadol sydd wrth wraidd y cwricwlwm. Gan hynny, byddai’r ysgolion yn cyflwyno’r
addysg yn sgil eu hadnabyddiaeth hwy o’u dysgwyr o ran eu haeddfedrwydd a’u
gallu i ddeall ac ymdrin â’r mater.
Yna cyfeiriodd y Pennaeth at baragraff
4(iii) o’r adroddiad oedd yn nodi, “wrth
ddatblygu Cwricwlwm i Gymru cefnogir ysgolion Gwynedd gan GwE”, gan nodi, o
ran cywiriad, ac i wneud y sefyllfa’n fwy eglur, bod y 6 awdurdod ar draws y
Gogledd wedi comisiynu unigolyn i gydweithio gyda’r mudiad Ysgolion Iach er
mwyn cefnogi ysgolion yn y maes yma, a bod Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE
yn y broses o gefnogi’r holl ysgolion i ddilyn y Cod.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Holwyd
a fyddai’n bosib’, maes o law, cael mewnbwn gan benaethiaid ac athrawon, ac o
bosib’ rhieni, drwy gyfrwng holiadur er mwyn gweld pa mor fodlon ydynt gyda’r
trefniadau newydd. Mewn ymateb, nododd y
Pennaeth Addysg y gellid dod ag adroddiad byr i’r aelodau yn cyfleu hynny yn
dilyn cyfnod eithaf sylweddol o weithredu’r cwricwlwm newydd.
·
Mewn
ymateb i sylw na chredid bod y fframwaith newydd yn sylfaenol wahanol i’r
ffordd roedd addysg bersonol yn cael ei dysgu yn y gorffennol, nododd y
Pennaeth Addysg mai dyma’r union sylw oedd yn dod gan y proffesiwn. Yr hyn sy’n wahanol, mae’n debyg, yw bod y
fframwaith yn cael ei gyflwyno’n drawsgwricwlaidd ar draws y meysydd dysgu a
phrofiad, a’i fod yn symudiad sydd yn cryfhau ymhellach gallu plant i ddeall
beth yw perthynas iach, i ddeall y ffiniau ac i ddeall yr hyn sy’n dderbyniol
iddyn nhw’n bersonol, fel bod hynny’n eu galluogi i wneud dewisiadau o ran
perthynas a diogelu eu hunain. Nodwyd
hefyd bod Swyddfa’r Comisiynydd Plant a’r NSPCC wedi croesawu’r symudiad yma a
dyfodiad y cwricwlwm newydd.
·
Nodwyd
bod hwn yn fater oedd yn pegynu pobl. Ar
y naill law, roedd yr Adran yn adrodd bod yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol, ond
roedd yna garfan o rieni oedd yn anfodlon.
Deellid hefyd bod yna athrawon oedd yn hynod o nerfus ynglŷn â’r
trefniadau newydd, ac yn gofyn am fwy o hyfforddiant, a holwyd a oedd yna
fwriad i ganfod eu barn hwythau ar y mater.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd casglu tystiolaeth negyddol, yn ogystal â’r
dystiolaeth gadarnhaol, er mwyn cadw cydbwysedd, ac awgrymwyd hefyd bod angen
craffu gweithrediad y Cod yn yr ysgolion cyn, yn hytrach nag ar ôl, i’r
flwyddyn academaidd ddod i ben. Mewn
ymateb, nododd y Pennaeth Addysg fod yr Adran wedi bod yn canfod barn
penaethiaid ar y mater, a bod y penaethiaid hynny yn cynrychioli ac yn lleisio
barn staff eu hysgolion. Tra’n derbyn yn
llwyr bod yna sylw wedi ei roi i’r maes yma, nodwyd bod ychydig ohono yn
seiliedig ar anwybodaeth, ac mai’r adwaith roedd yr ysgolion yn gael oedd bod
rhieni a staff drwyddi draw yn croesawu’r cwricwlwm newydd. Cadarnhawyd hefyd fod trefniadau ar y gweill
i gynnal sesiynau hyfforddiant yn y maes yma fel mewn unrhyw faes cwricwlwm
arall.
·
Mewn
ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg y gellid edrych ar sut
fyddai’r Adran a’r Cyngor yn gallu lledaenu rhywfaint o’r dystiolaeth
gadarnhaol i’r byd y tu allan.
·
Mewn
ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg nad oedd yna unrhyw bryderon
wedi dod i’r amlwg ers cychwyn gweithredu’r cwricwlwm newydd, ac nad oedd yr
hyn sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu’r farn
gyffredinol mewn unrhyw ffordd.
Mynegodd aelod ei phryder ynglŷn â’r
Cod, gan nodi:-
·
Mai’r
rhieni yw prif warcheidwaid cyfreithiol eu plant, a bod yr hawl hwnnw yn cael
ei gymylu yma.
·
Bod
y gyfraith yn dweud na all unrhyw un dan 13 oed fyth roi cydsyniad cyfreithiol
i unrhyw fath o weithgaredd rhywiol.
·
Oes
gan rieni'r hawl i dynnu eu plant o’r gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?
·
A
yw’n briodol trafod rhywioldeb gyda phlant ifanc iawn?
·
Pam
newid o addysg rhyw i addysg rhywioldeb?
·
Mai
awduron y ddogfen oedd yr Athro E.J.Renold o Brifysgol Caerdydd a’i
chyd-weithiwr, Ester McGeeney, a bod datblygiad y ddogfen yn llwyr seiliedig ar
waith ymchwil y ddwy ohonynt yn unig, gan ddefnyddio llai na 10 o’u herthyglau
a’u llyfrau eu hunain i gyfiawnhau’r ddogfen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Oedd hyn, felly, yn dystiolaeth foesegol?
·
Bod
yr adroddiad yn nodi bod yna dystiolaeth gadarn – ond ble mae’r dystiolaeth
honno?
·
Na
all y pwyllgor graffu rhywbeth sydd heb ei gyflwyno eto, ac mae gennym yr hawl
i gwestiynu Llywodraeth Cymru ar hyn.
·
Bod
pob rhiant pob plentyn yn ysgolion Gwynedd yn randdeiliad, a bod yr awdurdod yn
bod yn drahaus yn diystyru gwir bryderon rhieni fel camwybodaeth ar y sail nad
ydynt yn cytuno gyda’r hyn mae’r Llywodraeth yn ddweud yw’r gwirionedd.
·
Bod
gan bawb ohonom yr hawl i ddiogelu ein plant rhag deunydd rhywiol amhriodol,
a’r rhieni sy’n nabod eu plant orau.
·
Ei
bod yn anodd deall pam fod pobl mor barod i dderbyn hyn.
·
Na
allwn anwybyddu’r protestiadau sy’n dod o’r Alban a Lloegr.
·
Nid
yw ein hathrawon wedi’u cymhwyso i ddysgu addysg rhywioldeb.
·
Bod
hyn yn herio pob diwylliant teuluol Gorllewinol sy’n gynhenid i ni, ac mae
dyletswydd arnom i graffu hyn yn drwyadl ac yn helaeth cyn y bydd hi’n rhy
hwyr.
·
Na
ellir diystyru’r gwrthwynebwyr fel eithafwyr – rhieni ydynt sy’n bryderus iawn
ynglŷn â lles eu plant.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth
Addysg:-
·
Nad
oedd y sylwadau yn gynrychioliadol o’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgolion yn ôl ei
ddehongliad ef o’r Cod.
·
Ei
bod yn gywir i ddweud bod Senedd Cymru wedi deddfu ar gael gwared â’r hawl i
rieni a gofalwyr eithrio eu plant o’r cwricwlwm, ac roedd Gwynedd, fel
awdurdod, yn ddarostyngedig i god mandadol neu gwricwlwm statudol fel mae’r
Llywodraeth yn ei gyflwyno.
·
Bod
Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori yn eang cyn cyflwyno’r cwricwlwm i’n
hysgolion, a’n rôl ni fel awdurdod a gwasanaeth cefnogi ysgolion yw sicrhau bod
ein hysgolion yn barod i’w weithredu.
Holodd yr aelod a oedd gan blant y gallu i
wneud penderfyniadau moesol ynglŷn â’r ffordd maent yn ymddwyn yn rhywiol,
ac a fyddai’r Pennaeth yn cytuno fod hyn yn llwyr danseilio diogelu plant. Nododd hefyd ei bod yn hanfodol cyflwyno
rheoliadau oed-berthnasol er mwyn diogelu plant rhag y posibilrwydd o gael eu
cam-drin yn rhywiol.
Mewn ymgais i leddfu’r pryderon, rhoddodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE esboniad manwl o’r gefnogaeth a roddir i ysgolion gan
osod y rhan yma o’r cwricwlwm yn ei gyd-destun ehangach.
Holodd y Cadeirydd pa adnoddau oedd ar gael
i ysgolion. Mewn ymateb, nododd Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE fod y Grŵp Trawsranbarthol sy’n edrych ar hyn wedi
pwysleisio bod angen gwneud yn siŵr bod yr adnoddau yn addas. Nid oeddent yn chwilio am y pegynau eithafol
yn y drafodaeth, eithr yn tynnu at ei gilydd restr o adnoddau sydd, yn eu barn
broffesiynol hwy, yn addas ar gyfer ein disgyblion ar draws y Gogledd. Roedd y rhestr yna wedyn yn gallu cael ei
rannu ar lefel ysgol, a mater i’r ysgol wedyn oedd penderfynu a oedd yr
adnoddau hynny’n rhai sy’n berthnasol i’w cyd-destun hwy. Nododd ymhellach iddo ofyn i’r Grŵp
ystyried a oedden nhw’n gweld bylchau mewn adnoddau mewn ambell faes, ac os
felly, sut orau i ddiwallu hynny. Nododd
hefyd y byddai gwybodaeth drylwyr am yr adnoddau ar restr y Grŵp maes o
law, ac y gellid trefnu bod yr wybodaeth honno ar gael i aelodau’r pwyllgor
craffu hefyd.
Nododd aelod ei fod yntau’n hollol anhapus
gyda’r cyfeiriad mae’r Cyngor yn gyrru’r ysgolion ymlaen gyda hyn, gan nodi:-
·
Ai’r
cyrsiau hyfforddiant a ariannwyd drwy Stonewall oedd yr unig hyfforddiant a
dderbyniwyd yn y maes yma?
·
Mai
arbenigedd y person sy’n bennaf gyfrifol am lunio’r Cod, sef yr Athro
E.J.Renold, yw ‘Posthumanism’ a ‘Queer Theory’, a’i bod yn ddychrynllyd
meddwl ein bod yn ystyried cael gwared ag ideoleg Gristnogol, sydd wedi bod
ynghlwm â’r ardaloedd yma ers bron i 2000 o flynyddoedd, a chyflwyno’r ideoleg
di-sail yma yn ei le, sy’n cael ei wthio ymlaen drwy Stonewall a chan
Lywodraeth Cymru.
·
Bod
yr ideoleg yma’n beryg’ bywyd ar gyfer ein plant, a phan fydd plentyn bach yn
sôn wrth athro ei fod yn cael ei gamdrin, ni fydd defnyddio’r math o derminoleg
sy’n cael ei gyflwyno fel rhan o’r addysg yma yn amlygu dim byd. Hyfforddiant sydd ei angen fel bod yr
athrawon yn gallu pigo i fyny ar hyn, yn hytrach na gwthio agenda traws-rywioldeb
a niwtraliaeth rhywedd, a thrwy hynny weddnewid ein cymdeithas drwy’r ysgolion.
·
Yr
hyn fyddwn yn ei chwydu allan o’r ysgolion yn y pen draw fydd pobl nad oes
arnyn nhw unrhyw beth i’w rhieni, nac i’r wladwriaeth, a dyna’r ideoleg sy’n
cael ei wthio ymlaen yma.
·
Dywedir
mai datblygiad neu aeddfedrwydd neu berthnasedd datblygiadol sydd wrth wraidd y
cwricwlwm, ond o gam-ddehongli hynny, mae yna oblygiadau erchyll all effeithio
ar blant am weddill eu hoes, ac nid oes rhaid ond edrych ar yr hyn ddigwyddodd
yn Tavistock i weld effaith hynny, gyda miloedd o blant wedi’u bwtchera yn
enw’r union ideoleg sy’n cael ei yrru ymlaen yma gan ein swyddogion a rhai o’r
aelodau.
·
Bod
Llywodraeth Cymru yn tanseilio Erthygl 9 o’r Ddeddf Hawliau Dynol drwy ddileu
hawl rhieni i dynnu eu plant o addysg rhyw os yw’n mynd i effeithio ar eu
crefydd neu gredoau.
·
Mai
16 yw’r oed cydsynio, ond nid yn ôl yr hyn sy’n cael ei wthio ar yr ysgolion,
ac mae’r ffynonellau y disgwylir i athrawon eu defnyddio am arwain at rywioli
plant bach.
Nododd y Swyddog Monitro, ar bwynt o briodoldeb,
bod honiadau eithaf difrifol wedi’u gwneud ynglŷn â natur y cwricwlwm,
ynghyd â lled-awgrym bod yna bethau eithaf difrifol ac amhriodol yn deillio o
weithredu’r cwricwlwm, ac atgoffodd yr aelodau o’u cyfrifoldeb o dan y Cod
Ymddygiad i beidio dwyn anfri di-sail ar yr Awdurdod a’r ysgolion. Mewn ymateb, nododd yr aelod fod yr holl
dystiolaeth ar gael ynglŷn â natur a chefndir y gwaith ymchwil y tu ôl i’r
cwricwlwm addysg, ac na chafodd yr aelodau gyfle i drafod y sail tystiolaeth
gan i’r Cadeirydd ddweud wrtho nad oedd yn briodol i siarad am hynny yn y
cyfarfod hwn. Nododd ymhellach nad oedd
wedi cyhuddo unrhyw brifathro na phrifathrawes, ac mai’r cwbl ddywedodd oedd eu
bod angen yr addysg a’r hyfforddiant angenrheidiol i ddelio gyda’r materion cymhleth
tu hwnt sy’n mynd i ddod gerbron.
Atgoffodd y Swyddog Monitro yr aelodau
unwaith yn rhagor o’u cyfrifoldeb o dan y Cod.
Mewn ymateb, nododd yr aelod, yn dilyn cyflwyno’r Cod yn yr Alban, y
gwelwyd cynnydd o 1,600% yn yr achosion o blant yn mynd am driniaeth yn ymwneud
â thraws rhywioldeb, a’i fod felly’n deillio’n uniongyrchol o’r system addysg.
Mewn ymateb i sylwadau’r aelod, nododd y
Pennaeth Addysg:-
·
Y
sicrheid bod yr hyfforddiant yn briodol ar gyfer y staff, fel gydag unrhyw faes
arall.
·
Mai
rhan o gwricwlwm i Gymru yw hyn, nid rhan o gwricwlwm yr Alban, na Lloegr.
·
Bod
y cwricwlwm yn sefyll ar ei ben ei hun ar sail ymchwil yng Nghymru, ac wedi
derbyn sêl bendith sawl mudiad.
·
Mai’r
hyn sydd wrth wraidd y cwricwlwm yw bod plant yn cael derbyn gwybodaeth ac yn
gwneud eu dewisiadau eu hunain, sy’n seiliedig ar farnau plwralistig.
·
Bod
yr ysgolion yn gwybod ei bod yn briodol iddynt addysgu a thrafod gyda phlant yn
unol â’u lefel o aeddfedrwydd.
Nododd aelod:-
·
Ei
fod yn llwyr gytuno â sylwadau’r Aelod Cabinet mewn cylchgrawn diweddar, oedd
yn nodi “Oni wnawn fel ysgolion roi addysg rhyw addas i’n plant, bydd y
diwydiant pornograffi yn camu i mewn i’r bwlch ac ni fydd yr hyn fyddant yn
ddysgu drwy hynny yn addas i’w hoed, nac yn cael ei gyflwyno yng nghyd-destun
perthynas iach hafal a hapus. Mae addysg
rhyw briodol yn gam pwysig tuag at greu dinasyddion empathig, parchus, teg,
gwydn a chynhwysol a charedig.”
·
Bod
y rhanddeiliaid allweddol o ran y mater hwn, sef Llywodraeth Cymru, Ysgolion
Iach, yr NSPCC a Swyddfa’r Comisiynydd Plant, i gyd yn gefnogol i’r Cod. Roedd y mwyafrif llethol o athrawon yn
gefnogol hefyd, a chymerid bod y cynghorau disgyblion yn yr ysgolion hefyd wedi
lleisio barn, a’u bod hwythau’n bendant o blaid y Cod.
·
Y
cydnabyddid bod y pwnc yn un dyrus, sy’n pegynu pobl, a bod gofyn tawelu ofnau
rhieni, yn lle bod pobl yn dibynnu ar sylwadau ysgubol ar y cyfryngau
cymdeithasol. Gan hynny, awgrymwyd y
dylai’r Adran Addysg anfon llythyr cyffredinol, ar ran y prifathrawon, at bob
rhiant mewn ymgais i dawelu’r ofnau a’r nerfuswydd real sydd gan nifer o
rieni. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth
Addysg fod hynny’n sicr yn rhywbeth y gellid ei drafod gyda’r
prifathrawon. Ategodd Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE y sylw, gan nodi bod y Grŵp Trawsranbarthol wedi llunio
taflen i’r perwyl hynny i’w haddasu yn lleol, a bod yr wybodaeth gan yr Adran a
GwE i’w rhannu.
Nododd aelod:-
·
Hyd
yn ddiweddar, bod yr holl sefydliadau amddiffyn plant, gan gynnwys yr NSPCC a’r
heddlu, yn derbyn nad oedd yn addas i oedolion dieithr gael sgyrsiau gyda
phlant ynglŷn â rhywioldeb, ond roedd yr ymchwil yma wedi newid eu barn.
·
A
oedd y Pennaeth Addysg yn credu ei bod yn briodol siarad gyda phlant ifanc am
ryw a rhywioldeb, o gofio bod awdur y ddogfen yn herio’r cysyniad o
ddiniweidrwydd plentyndod?
·
Bod
hyn yn cael ei gydnabod yn gyson fel techneg meithrin perthynas amhriodol sy’n
gosod plant mewn perygl o gael eu ecsbloetio gan oedolion.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelod ymdawelu, a
nododd y Swyddog Monitro nad oedd yn siŵr i ble’r roedd y pwynt yma’n mynd
o ran cyd-destun, gan ei fod yn cyfeirio at dechnegau cam-drin plant mewn
cyd-destun troseddol.
Er eglurder, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
fod angen ysgaru dau beth yma, sef y cwricwlwm, sy’n cynnig addysg oed
berthnasol i blant, a chamdriniaeth, sydd â llwybr hollol glir a phenodol ar ei
gyfer.
Nododd aelod:-
·
Na
chytunai â’r sylw yn yr adroddiad ei bod yn gynamserol i graffu darpariaeth ein
hysgolion yn y maes yma, oherwydd, os ydi’r ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno,
yna mae yna gynlluniau gwaith ar gael, ynghyd ag adnoddau a hyfforddiant
athrawon, ac efallai y dylid nodi yn y llythyr cyffredinol i rieni y bydd yna
grŵp tasg yn craffu’r mater.
·
Pam
gofyn am farn y cyfarfod hwn, pan nad ydi’r aelodau yn gallu gweld yr adnoddau
sy’n cael eu cyflwyno yn barod?
Awgrymodd y Cadeirydd y gellid gwneud cais i
sefydlu grŵp tasg i edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn ein hysgolion go
iawn.
Gofynnwyd i gynrychiolydd UCAC am ei farn
ynghylch amddiffyniad i athrawon petai rhai rhieni yn cwyno bod yr addysg yn
amhriodol i’w plant. Mewn ymateb, nodwyd
ei bod yn bwysig bod cynnwys unrhyw wers yn cael ei drafod yn ofalus, ac y
disgwylid bod y drafodaeth honno’n digwydd rhwng athro a phennaeth ar sail eu
hadnybyddiaeth hwy o’r plant, ac felly y gobeithid na fyddai’r sefyllfa yna’n
codi.
Nododd aelod y byddai’n fwy cyfforddus yn
gweld addysg rhyw yn cael ei ddysgu mewn gwersi addysg bersonol a chymdeithasol
ar y naill law, ac mewn gwersi bywydeg ar y llaw arall.
Mewn ymateb i gais gan aelod am sylwadau
ynglŷn â dysgu’r maes yn draws-gwricwlaidd, nododd y Pennaeth Addysg mai
hanfod y cwricwlwm oedd bod y cynnwys yn cael ei ddysgu ar draws y meysydd
dysgu a phrofiad, ond mewn realiti, byddai arweinwyr ein hysgolion a’r athrawon
yn gwybod ym mha faes y byddai fwyaf priodol i gyflwyno’r math yma o
gwricwlwm. Er hynny, gallai’r elfen
‘perthnasau’, er enghraifft, godi mewn gwersi Hanes er mwyn esbonio sut mae
agweddau wedi newid dros y degawdau a’r canrifoedd diwethaf. Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, o ran
darparu, bod modd dod â phobl allanol i mewn i gefnogi themâu penodol a bod y
modd o ddiwallu gofynion y Cod yn dibynnu ar argaeledd yr arbenigedd o fewn yr
ysgol, a hefyd y model dysgu mae’r ysgol yn dymuno ei fabwysiadu ar gyfer y
cwricwlwm lleol. Gan hynny, ni fyddai’n
un model o gyflwyno, ond yn fodel fyddai’n addas i bobl ysgol fel mae nhw’n
gweld orau.
Nododd yr aelod ymhellach:-
·
Mai
tuedd elfennau newydd, o’u cyflwyno mewn ffordd newydd, yw bod ganddynt y gallu
i gymryd drosodd, ac na ddymunid gweld y maes hwn yn codi ym mhob gwers.
·
Er
ei bod yn deg cyfeirio at ideolegau, dylai hanfod yr addysg fod wedi’i wreiddio
yn y ffeithiau biolegol diymwad sylfaenol.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Addysg:-
·
Mai
perthynas iach sy’n cael blaenoriaeth.
·
Mai’r
hyn sydd wrth wraidd y cwricwlwm yw’r elfen blwralistig, h.y. nad yw un
farn/gogwydd yn tra-arglwyddiaethu ar un arall, a bod gwahanol safbwyntiau yn
cael eu cyflwyno fel bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddod i farn
annibynnol eu hunain yn seiliedig ar ffeithiau.
Awgrymodd yr aelod y gellid esbonio hynny yn
glir, gydag enghreifftiau, yn y llythyr cyffredinol i rieni.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod ynglŷn
ag ymateb y cyrff llywodraethol, nododd y Pennaeth Addysg nad oedd yna awdit
wedi bod yn gyffredinol ar y pwynt yma gyda’r cyrff llywodraethol, ond ei bod
yn glir o’r trafodaethau gyda’r penaethiaid bod y trafodaethau hynny yn mynd
rhagddynt. Hefyd, mewn achosion lle
roedd ysgolion wedi derbyn cais, neu wedi penderfynu ar y cyd ag aelodau’r
cyrff llywodraethol, i esbonio’r cwricwlwm newydd yn ei gyfanrwydd i rieni,
roedd hynny wedi cael ei groesawu.
Holodd aelod sut y gallwn amddiffyn ein
plant os yw’r cwricwlwm yn cael ei newid yn sylweddol gan y Gweinidog. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:-
·
Bod
gennym i gyd, fel aelodau, llywodraethwyr a swyddogion, gyfrifoldeb dros
warchod hynny, a lle bo pryder gwirioneddol, bod yna fforymau i gael y
trafodaethau hynny, waeth beth yw hawliau’r Gweinidog.
·
Er
bod fframwaith y cwricwlwm yn cael ei osod yn ganolog gan y Llywodraeth, y
gwahaniaeth rhwng cwricwlwm cenedlaethol a’r cwricwlwm yma oedd bod y cwricwlwm
yma’n cael ei gyflwyno’n lleol, ac felly roedd cyfrifoldeb ar arweinyddiaeth yr
ysgol a’r llywodraethwyr i wneud yn siŵr bod y cynnwys yn oed-bwrpasol ac
yn aeddfed-bwrpasol ar gyfer y disgyblion.
Wedi i’r Cadeirydd ddatgan ei bod am gloi’r
drafodaeth, nododd y Pennaeth Addysg:-
·
Yn
dilyn y drafodaeth yn y cyfarfod hwn, y dymunai gael diffiniad o beth yn union
y dymunai’r aelodau ei gael i’w graffu eto, a bod hynny’n briodol wrth i ni
edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn yr ysgolion.
·
Bod
yr ysgolion a’r cyrff llywodraethol yn edrych ar sut i gyflwyno’r cwricwlwm
newydd yn unol â’r amodau a’r amgylchiadau sy’n lleol iddyn nhw, ac roedd yn
hollbwysig hefyd i’r aelodau fod yn ystyried hynny.
·
Gan
fod yna wahaniaethau o ran sut mae’r gwaith yn cael ei wneud o un lle i’r llall,
o safbwynt aeddfedrwydd cyd-destun plant, ayb, roedd yn bwysig cael y diffiniad
er mwyn gallu paratoi’n briodol ar gyfer y craffwyr.
Nododd aelod fod y pwyllgor wedi trafod y
mater hwn yn ddall, a chan fod pryder wedi’i fynegi ynghylch adnoddau, awgrymwyd
y dylai’r aelodau dderbyn detholiad helaeth iawn o adnoddau y tro nesaf y bydd
y mater yn cael ei graffu, gan y byddai hynny’n siŵr o dawelu meddyliau.
Holodd aelod a oedd yna gynlluniau i
ddefnyddio cynlluniau dysgu unigol ar gyfer yr addysg perthnasedd a
rhywioldeb. Mewn ymateb, nododd y
Pennaeth Addysg:-
·
Petai
yna blant yn agored i’r gwasanaeth addysg arbennig, a bod angen teilwra’r
anghenion ar eu cyfer, ei fod yn hyderus y byddai’r ysgolion yn gweithredu yn
unol â hynny.
·
Mai
beth oedd wrth wraidd hyn oedd adnabyddiaeth gref yn ein hysgolion o lle mae’r
plant arni o ran eu gallu a’u haeddfedrwydd i ymdrin â materion fel hyn yn
aeddfed, yn sensitif ac yn gall, a’i fod yn hyderus bod y staff yn adnabod eu
plant yn ddigon da i gael hyn yn iawn.
Nododd yr aelod ei bod yn bwysig cynnwys
hynny hefyd yn y llythyr cyffredinol i rieni.
Yn ei sylwadau cloi, nododd yr Aelod
Cabinet:-
·
Y
gofynnwyd pam fod angen crybwyll rhywioldeb wrth blant ifanc, ac y dymunai
atgoffa pobl bod yna blant yng Ngwynedd hefo dwy fam, dau dad, rhiant
traws-rywiol, neu frodyr / chwiorydd sy’n hoyw, neu’n draws-rhywiol.
·
Bod
gan bob plentyn yr hawl i gael adlewyrchiad ohonynt eu hunain a’u teulu mewn
addysg a deunyddiau addysgol, fel eu bod yn tyfu i fyny yn gwybod eu bod hwy eu
hunain a’u teulu yn hollol normal.
Galwyd am bleidlais gofrestredig ar gynnig i
dderbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, ac ail-graffu’r mater pan yn amserol.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y
bleidlais ganlynol ar y cynnig:-
O blaid |
15 |
Y Cynghorwyr Iwan Huws, Dawn Lynne Jones, Dewi Jones,
Gareth Tudor Jones, Gwilym Jones, Cai Larsen, Beth Lawton, Dewi Owen, Gwynfor
Owen, Richard Glyn Roberts, Huw Llwyd Rowlands, Paul Rowlinson, a Sasha
Williams. Aelodau Cyfetholedig: Colette Owen a Manon Williams |
Yn erbyn |
3 |
Y
Cynghorwyr Jina Gwyrfai, Louise Hughes a Gruffydd Williams. |
Atal |
1 |
Y Cynghorydd Rhys Tudur |
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, ac
ail-graffu’r mater pan yn amserol.
Dogfennau ategol: