Agenda item

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd ac Uwch Swyddog Gweithredol Adran Amgylchedd a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Adroddwyd bod 91.7% o swyddogion yr adran yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd a mynegwyd balchder gan fod hyn yn uwch na chyfartaledd y Cyngor. Cadarnhawyd bod 78.5% o holl swyddogion yr adran wedi cwblhau hunan asesiad o sgiliau iaith ac mae’r adran yn annog y swyddogion sydd yn weddill i’w gwblhau cyn gynted â phosibl.

 

-      Cadarnhawyd bod 14 o swyddogion yr adran ddim yn cyrraedd dynodiad ieithyddol ei swydd ond maent yn cael eu hannog i fynychu amrywiol gyrsiau a hyfforddiant.  Mae’r adran yn annog swyddogion i fanteisio ar gwrs gloywi iaith. Canmolwyd y safle gan ei fod yn adnodd da sy’n rhoi cymorth i swyddogion yn ogystal â’r fforwm iaith. Pwysleisiwyd bod sgyrsiau o hyd yn dechrau yn y Gymraeg ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau fod pawb yn teimlo’n gyffyrddus i feithrin eu sgiliau a hyder ieithyddol.

 

-      Pwysleisiwyd nad ydi’r ffigyrau hyn yn cynnwys swyddogion y gwasanaethau gwastraff sydd wedi trosglwyddo o’r adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol yn ddiweddar.

 

-      Mynegwyd balchder bod y gwasanaeth rheolaeth adeiladu wedi llwyddo i annog pobl i sicrhau bod enwau eu tai yn aros yn enwau Cymraeg, neu annog perchnogion i newid enwau eu tai yn ôl i’r Gymraeg gan ddangos pwysigrwydd enwau traddodiadol iddynt. Bu i’r gwasanaeth Cynllunio hefyd hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy ddilyn polisi PS1 sy’n rhoi ystyriaeth fanwl i’r iaith wrth ddelio gyda cheisiadau cynllunio.

 

-      Eglurwyd bod cyfran o waith yr adran yn cael ei allanoli i gontractwyr. Sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i warchod yr iaith. Pwysleisiwyd bod gwahoddiadau i dendr yn ogystal â chanllawiau yn cael ei wneud yn y ddwy-ieithog. Nodwyd bod trafferthion yn gallu codi wrth geisio cyfieithu contractau cenedlaethol safonol gan bod ystyr y contractau yn gallu cael ei newid yn hawdd. Er hyn, adroddwyd bod yr adran wedi bod yn llwyddiannus i gael contractau Cymraeg gydag cwmnïau bws drwy teilwra contractau eu hunain.

 

 

-      Manylwyd mai un o brif rwystrau sy’n wynebu’r adran yn ddiweddar ydi diffyg recriwtio. Cadarnhawyd ei fod yn anodd recriwtio swyddogion cymwysedig yn gyffredinol ar draws gwasanaethau’r adran a bod yr her yn dwysau wrth ymdrechu i recriwtio swyddogion cymwysedig sydd hefyd yn meddu a sgiliau ieithyddol digonol.

 

-      Ymhelaethwyd bod yr adran wedi bod yn llwyddiannus i recriwtio hyfforddai proffesiynol yn y gwasanaeth traffig sy’n meddu a sgiliau ieithyddol cryf. Mae’r adran yn parhau i fuddsoddi ynddo er mwyn sicrhau ei fod yn gymwysedig i gyflawni’r rôl yn hyderus. Mynegwyd pryder bod sefyllfaoedd yn codi ble mae’r adran yn buddsoddi mewn pobl a'u bod yn eu colli yn y pendraw i’r sector preifat neu awdurdodau lleol eraill gan fod y cyflog yn uwch yn y lleoliadau hyn. Yn anffodus, mae sawl swyddog o’r adran wedi newid swyddi i leoliadau eraill o herwydd hyn.

 

-      Esboniwyd bod yr adran yn arwain ar daclo’r argyfwng newid hinsawdd a natur. Sicrhawyd bod yr holl drafodaethau sy’n cael eu cynnal yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg neu bod defnydd o’r iaith yn cael ei annog os nad oes modd eu cynnal yn gwbl Gymraeg.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:

 

-      Gofynnwyd a ydi trafferthion recriwtio wedi gwaethygu yn dilyn Pandemic Covid-19. Holiwyd hefyd pa gamau mae’r adran yn eu cymryd i sicrhau fod swyddogion newydd yn dysgu sgiliau Cymraeg pan fydd gofynion ieithyddol yn cael eu lleihau wrth hysbysebu am yr ail neu drydydd gwaith.

o   Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod trafferthion recriwtio wedi bod ers rhai blynyddoedd er mwyn sicrhau fod swyddogion yn gymwysedig ac yn meddu â sgiliau’r Gymraeg. Mae sgiliau ieithyddol dal yn bwysig ar gyfer swyddi yn yr adran hyd yn oed os ydi swydd yn cael ei hysbysebu mwy nag unwaith. Nodwyd bod mwy o ymgeiswyr yn ymgeisio am swyddi pan mae’r dynodiad iaith yn cael ei leihau. Bydd pwyso a mesur yn cael ei roi ar gyfer cymhwysedd yr ymgeiswyr a’u sgiliau ieithyddol er mwyn sicrhau bod y swyddog gorau yn cael ei recriwtio. Mae dibyniaeth yn cael ei roi ar yr ymgeisydd llwyddiannus hwnnw i feithrin eu sgiliau ieithyddol pan maent wedi cael y swydd ac yn naturiol mae rhai unigolion yn mynd i fod yn fwy ymroddgar i’r iaith nag eraill. Mae’r adran yn rhoi anogaeth a chefnogaeth i bawb sydd angen cymorth ychwanegol gyda’r Gymraeg yn syth wrth iddyn nhw gychwyn y swydd.

 

-      Holiwyd os oes gan yr adran gynllunio unrhyw reolaeth ar enwau busnesau yn ogystal ag enwau tai. Teimlwyd bod enwau cwmnïau yn uniaith Saesneg yn ddiweddar ac fe fyddai’n ddefnyddiol i drigolion ac ymwelwyr petai enwau’r cwmnïau yn Gymraeg neu ddwyieithog.

o   Mewn ymateb i’r ymholiad nododd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod rheolaeth yr adran ar enwau busnes yn gyfyngedig gan nad yw pob arwydd angen caniatâd cynllunio. Dim ond mewn sefyllfa ble mae datblygiad neu arwydd angen caniatâd cynllunio bydd yr adran yn gallu rheoli bod enwau’r busnesau a hyrwyddir yno yn Gymraeg neu’n ddwyieithog a hynny drwy osod amod cynllunio i’r perwyl hyn.

o   Mewn ymateb i’r ymholiad nododd Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu byddai’r sylwadau hyn yn cael eu pasio ymlaen i’r Adran Economi a Chymuned yn ogystal â’r Tim Cefnogi Busnes er mwyn iddynt bod yn ymwybodol o bryderon yr aelodau.

 

-      Ystyriwyd os byddai’r adran yn debygol o recriwtio swyddogion di-gymraeg yn y dyfodol o ystyried bod mwy o bwysau a galw am eu gwasanaethau yn sgil deddfwriaethau newydd.

o   Mewn ymateb i’r ymholiad nododd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd nad ydi’r heriau recriwtio yn broblem sy’n newydd ir adran. Gan fod trafferthion wedi bod ers rhai blynyddoedd mae’r adran yn ceisio denu ymgeiswyr mewn sawl ffordd gwahanol erbyn hyn. Nodwyd bod yr adran gynllunio wedi cael ei ddewis fel adran beilot ar gyfer prosiect cynllunio gweithlu sydd yn  flaenoriaeth gwella yng Nghynllun y Cyngor. Mae swydd ddisgrifiadau yn cael eu hadolygu a’u harfarnu er mwyn eu creu yn fwy cystadleuol gydag awdurdodau cyfagos. Mae cais wedi cael ei wneud gan yr adran er mwyn cael hyfforddai newydd i ymuno â’r tîm i dderbyn tair mlynedd o hyfforddiant cymhwyso hefyd. Er y trafferthion recriwtio, mae’r adran yn ymwybodol bod y mwyafrif o’u gwaith yn delio â unigolion a’r cymunedau ac felly mae sgiliau iaith yn hanfodol. Ni fydd hyn yn newid ac bydd pob anogaeth a chefnogaeth i bawb ddatblygu sgiliau Cymraeg.

 

-      Gofynnwyd sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei flaenoriaethu o fewn y gwasanaeth cynllunio pan mae llawer o newidiadau ar y gorwel a dim digon o swyddogion ar hyn o bryd i gyrraedd gofynion ar amser.

o   Mewn ymateb i’r ymholiad adroddodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod amserlenni ymateb i geisiadau cynllunio wedi llithro ychydig yn barod. Cyfaddefwyd bod pwysau ar y gwasanaeth gorfodaeth cynllunio, a heriau gyda’r  amser gymerir i benderfynu ar geisiadau cynllunio, a bod hefyd oblygiadau ychwanegol o ran staffio gyda  chyflwyno a gweithredu ar gyfarwyddyd Erthygl 4 i gael rheolaeth gwell o dai Haf. Bydd angen sicrhau bod swyddogion ychwanegol ar gael i ymdopi a’r llwyth gwaith. Fel trafodwyd yn gynharach, mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ganfod ymgeiswyr cymwys gyda sgiliau Cymraeg digonol ac mae pob cefnogaeth ar gael i unrhyw ymgeisydd cymwys sydd angen cymorth i feithrin eu sgiliau ieithyddol. Ni fydd yr adran yn diystyru cais oherwydd bod yr ymgeisydd ddim yn cyrraedd safon dynodiad iaith y rôl, gan fod ymrwymiad unigolion i ymdrechu i wella eu sgiliau ieithyddol yn newid o achos i achos.

 

-      Mynegwyd balchder bod dros 91% o swyddogion yr adran yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd a gofynnwyd os oes modd cael gwybod faint o’r staff sydd yn deall a siarad Cymraeg ond ddim yn cyrraedd y dynodiad ieithyddol.

o   Mewn ymateb i’r ymholiad nododd yr Ymgynghorydd Iaith bod adrannau'r cael adroddiad ar ddynodiadau iaith o leiaf dwywaith y flwyddyn a bydd gwybodaeth bellach yn cael ei ddarparu wrth drafod eitem olaf y cyfarfod hwn.

 

-      Tynnwyd sylw at y ffaith fod Parc Cenedlaethol Eryri yn awdurdod cynllunio ar gyfer y Parc ac felly gyda’r cyfrifoldeb am ddelio gyda ceisiadau cynllunio, materion gorfodaeth ac am baratoi polisi cynllunio o fewn ardal y Parc

 

-      Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

-      Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

Dogfennau ategol: