Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC, Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol y Prosiect CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp y CBC i ddarparu rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 22/23.
Penderfyniad:
Nodwyd a derbyniwyd rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23, fel cyflwynwyd yn Atodiad 1.
Cytunwyd fod tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei neilltuo i gronfa wrth gefn ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad
gan
Sian
Pugh (Cyfrifydd Grŵp y CBC).
PENDERFYNIAD
Nodwyd a derbyniwyd rhagolwg o wariant y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar
gyfer 2022/23, fel cyflwynwyd yn Atodiad 1. Cytunwyd fod tanwariant ar ddiwedd
y flwyddyn ariannol yn cael ei neilltuo i gronfa wrth gefn ar gyfer ariannu
costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi
fod yr adroddiad yn adolygiad
ariannol o fis Medi 2022. Amlygwyd y prif bwyntiau gan ddangos y gyllideb ac yr
amcan o’r sefyllfa tan ddiwedd y flwyddyn. Eglurwyd eu bod yn amcanu tanwariant
o £50k ar y pennawd Gweithwyr. Nodwyd fod y gyllideb wedi ei selio ar gyflogi /
secondio dau weithwyr yn y maes Trafnidiaeth o Gorffennaf 2022 a 3 gweithiwr yn
y maes Cynllunio
Strategol
o Rhagfyr
2022,nid
oes penodiadau wedi eu gwneud hyd yma. Mae
Gwasanaeth
Cyllid Cyngor Gwynedd hefyd
wedi rhoi amcan ar gyfer costau y Cyfarwyddwr Portffolio
o Hydref ymlaen, ac fe fydd
y
Gwasanaeth Cyllid yn gweithio gyda’r
Bwrdd Uchelgais dros y misoedd nesaf gyda hyn.
Amlygwyd
tanwariant tebygol o £2.5k ar
y pennawd Teithio a tanwariant o £45k ar y pennawd cyflenwadau
a gwasanaethau. Eglurwyd fod £1k o danwariant
ar y pennawd cyflenwadau
amrywiol, £4k ar y pennawd ymgysylltu a
chyfarfodydd a £40k ar y pennawd ymgynghorwyr allanol.
Mynegwyd
fod tanwariant net o £3.5k
yn
cael ei ragweld ar y pennawd Gwasanaethau
Cefnogol.
Nodwyd fod gorwariant o £10k ar y costau cyllid gan fod rôl y Swyddog Arweiniol
y Prosiect wedi parhau yn hirach
na’r hyn â ragwelwyd yn wreiddiol.
Amlygwyd £11k o danwariant ar y pennawd Cefnogaeth Gorfforaethol oherwydd
lleihad yn y niferoedd o gyfarfodydd ffurfiol.
Esboniwyd
fod oediad pellach gyda deddfu i roi statws adran 33 i’r Cyd-bwyllgorau
Corfforedig a hyn bellach ddim yn debygol o fewn mewn lle tan y 1af Mawrth
2023. Mynegwyd o ganlyniad i hyn ni fodd modd ad-hawlio TAW ar unrhyw drafodion
ariannol sy’n perthyn i’r cyfnod cyn hyn ac yn seiliedig ar yr amcan gorwariant
yn ystod y cyfnod hynny,
mae amcan y bydd tua £41k o TAW ddim yn gallu cael ei ad-hawlio.
Mynegwyd
fod hyn yn gadael amcan sefyllfa ar gyfer 2022/23 yn danwariant o bron i £60k
a
fydd yn cael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Holwyd
am gyllideb ac ardoll y CBC ar
gyfer 2023/24,
gan nodi dylid rhoi
ystyriaeth ddwys i holl ardollau
2023/24,
gan gynnwys y Cyd-Bwyllgor Corfforedig,
oherwydd bod rhagolygon ariannol ar gyfer y
flwyddyn nesaf yn edrych mor wael. Nodwyd y bydd trafodaeth am y gyllideb pan
fydd cyllideb yn cael ei chreu. Nodwyd fod yr adroddiad yma am arian eleni ac
ei bod yn anodd dod o hyd i
arbedion eleni gan fod cyllideb y lleiaf posib ond cydnabuwyd yr angen i drafod
cyllideb nesaf.
·
Holwyd pam fod yr arian
yn cael ei neilltuo i gronfa wrth gefn ac
eglurwyd mai dim ond un cronfa wrth gefn sydd gan y Cyd-Bwyllgor ac felly bydd
yr arian yn cael ei neilltuo
ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: